Skip to main content

DYCHWELIAD YE IUDDEWON. Wrtii yr Iuddewon y deallir hâd naturiol Abraham ac Isaac, yn llinach Jacob, y rhai sydd yn gcnedl luosog a gwasgaredig yn mhlith holl gcnhedloedd adnabyddns y ddaear. Mae y gcnedl hon wedi bod unwaith yn bobl briodol i'r Arglwydd, yn feddiannol ar frcintiau rhagorach, gwahanol, ac uwchlaw un gcnedl arall yn y byd, a hyny am amser maith. Ond tnvy eu pechadurusrwydd, eu dirywiad oddiwrth yr Arglwydd, eu gwrth- ryfelgarwch yn ei erbyn, a gwrthodiad y rhan fwyaf o honynt o'r drefn gyfryngol trwy Iesu Grist y Ceidwad, y maent wedi eu bwrw ymaith o'u gwlad, eu hymddifadu o'u brcintiau, ac yn wrthddrychau eglur o anfoddlonnyydd Duw. Fod y genedl i gael ei dychwelyd—ei dwyn i adnabod yr Arglwydd—i gredu yr efengyl, a derbyn yr Arglwydd Iesu, yr hwn a groeshoeliodd eu tadau, fel eu hunig Geidwad—i ufuddhau i'w orchymyn- ion—ac y bydd iddynt fwynhau bendithion a breintiau ysbrydol yr efengyl, sydd ddiam- mheuol genym; oblegid dywed yr ysgrythyr, y bydd y "ddaearyn llawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr." " Hwynt-hwy oll a'm hadnabyddant i, medd yr Arglwydd, o'r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt." Y gofyniad pwysig fydd dan ein sylw yn bresenol ydyw, A oes genym sail i grcdu y bydd i'r gcnedl uchod, pan y'i dychwelir, gael ei dwyn, fel cenedl, i wladychu i Palestina, mewn rliyw ddull gwahanol i bob cenedl arall, ai nad oes? Ymae y gofyniadyn bwysig, nid yn unig o herwydd fod yr ochr gadarnhaol wedi ei chredu a'i phroffesu gan lawer o ddynion da a dysgedig, ond hefyd am fod y pwnc, ynddo ci hun, yn un pwysig, fel y mae ymdriniaeth ag ef yn rhwym o roddi eglurhad ar lawer o air Duw. Hefyd, y mae yn un pwysig oblegid y cynnwysa athrawiaethau ac addysgiadau a ofynant walianol ddyledswydd- au, ac a gynnyrchant wahanol deimladau pom tuag at yr Iuddewon, y naill ochr neu y llall. Yn bresenol, anturiwn ddweyd, Nad oes genym un sail ysgnjiliyrol i gredu y dygir yr Iuddewon yn 61, fel cenedl, ifeddiannu gwlad Canaan, yn genedl waîianol i eraill, na'r un sail mewn lianesyddiaeth nac mewn projiad i dybied y gwneir hyn iddynt cyn nac wedi eu dygiad i dderbyn CristionogaeÛt. Nis gall fod dim mewn naturiaeth a rydd hawl iddynt, na'r goleuni lleiaf ar hyn; oblegid y maent hwy, fel cenhedloedd anghrediniol eraill, wrth naturiaeth yn blant digofaint; gan hyny, rhaid i ni cdrych yn benaf i'r ysgrythyrau am olcuni ar y pen hwn. Er profi ein gosodiad, sylwn yn 1. Fod hollol ddystawrwydd y Testament Newydd yn nghylch y peth, er yr ymdrinir llawer ynfanwl ynddo am ygenedl Iuddewig gan lesu Grist a'i apostolion, a hyny mewn teimlad dwys drostynt, yn brawfo hyn. Ni welir ynddo un addcwid, gorchymyn, na rheol i wcithrcdu, o gylch eu dychweliad fel cenedl i wladychu i Ganaan; ac nis gellir rhoddi cyfrif am y dys- tawrwydd hwn ond ar yr egwyddor nad yw y peth i gymeryd llc. Iuddew ocdd Crist ei hun, o ran ei natur ddynol—Iuddewon oedd ei apostolion oll, ac yn mhlith y genedl hon y prcgethasant am lawer o flynyddoedd yn nechreuad eu gweinidogaeth, ac nid ychydig oedd eu rhagfarn yn erbyn pregethu yr efengyl i ncb arall: o'r Iuddewon y fíurfiwyd eglwysi Cristionogol gyntaf trwy yr holl wledydd—o Jerusalem hyd Antiocliia—a gwelir yn eglur fod y rhai hyn oll yn teimlo yn ddwys yn achos yr Iuddewon y pryd hwnw, ac yn rhag- weled yr hyn a fyddent mewn amser dyfodol. Rhagddywedodd ein Harglwydd yn y modd dwysaf am ddrygioni eu hanghrediniaeth, a'r canlyniadau ofnadwy a dychrynllyd o hono yn y dinystr ar eu gwladwriaeth, eu dinas, a'u teml odidog. Dangosodd tnvy yr ymad- roddion difrifolaf, â'r dagrau tryloew ar ei ruddiau bendigedig, y traha, yr ing, y cyfyng- derau, a'r gofidiau arswydol a ddygent arnynt eu hunain trwy eu hymddygiadau gwrthryfelgar; a dangosodd y gwasgerid hwy i holl wledydd y byd, a'r iselder trallodus y byddent ynddo tra yn Iuddewon: ond ni ddywedodd air am cu dychwcliad fel cenedl i wladychu i Ganaan, cr ei fod yn awgrymu am eu dychweliad i cdifeinvch, ac i dderbyn y ffydd Gristionogol. Dichon y cyfeiria rhywrai, er gwrthwynebu yr hyn a ddywcdwyd, at Mawrth, 1853. l