Skip to main content

ẁrfljẁm. DYSGEIDIAETH CRIST. "Os ewyllysia neb wneuthur ci ewyllys ef, efe a gaifF wybod am y ddysgeidiaeth," &c. Y mae gwahaniaeth rhwng yr Areithiwr a'r Dysgawdwr, a rhwng Areithyddiaeth a Dysgeidiaeth. Y mae yr Areithiwr yn gyffelyb i Esau, "yn \vr yn medru hela, a gwr o'r maes," a'r Dysgawdwr yn gyffelyb i Jacob, "yn ŵr dysyml, yn cyfanneddu mewn pebyll." Ymwisga y blaenaf fel gwron yn addurniadau, dullwedd, a godidawgrwydd ymadrodd; a'r olaf fel bugail yn symledd gwledig y priod-ddull cyffredin o lefaru. Cyfeiria yr Areithydd at deimladau a nwydau ei wrandawwyr, ond cyfeiria y Dysg- awdwr at ddeall a chydwybod ei ddysgyblion. Rhuthra Areithyddiaeth i mewn i ystafellau y fynwes megys trwy drais a gorthrech; cura Dysgeidiaeth yn foneddigaidd am dderbyniad i'r galon wrth byrth y deall, y rheswm, a'r farn. Y mae yr Areithyddiaeth yn debyg i'r gwynt, yr hwn a rwyma wrthddrychau yn ei adenydd, ac a'u cipia ymaith gydag ef; ond y Ddysg- eidiaeth yn debyg i'r haul, yn taflu goleuni i ddangos ac egluro pethau. Gweithreda dyn dan ddylanwad y flaenaf fel o dan rym swyn neu gyfaredd; ond dwg yr olaf ef i weithredu oddiar argyhoeddiad ei ddeall a'i farn. Felly y mae y Dysgawdwr yn fwy na'r Areithiwr; a Dysgeidiaeth o natur uwch nag ydyw Areithyddiaeth; ac er mai yr Areithiwr yw yr uchaf ei fri a'i boblogrwydd, y Dysgawdwr yw yr uchaf ei deilyngdod a'i ddefnydd- ioldeb. Gwir yw y dichon i'r Areithydd fod yn Ddysgawdwr, a'r Dysg- awdwr fod yn Areithydd, ond nid bob amser y mae felly ; ac nid yn aml y rhagora un yn y naill a'r llall. Yr oedd Demosthenes a Cicero yn Areithwyr dihafal; ond nid yn gymaint o Ddysgawdwyr. O'r tu arall, yr oedd Socrates a Plato yn Ddysgawdwyr rhagorol; ond nid oeddynt enwog fel Areithwyr. Dysgawdwr oedd Iesu Grist, a dysgeidiaeth Crist yw yr efengyl. Gallasai ef ragori yn anfeidrol fel Areithiwr hyawdl ar bawb arall, pe mynasai. Gallasai lefaru "pethau nefol" â holl nerth hyawdledd tafodau dynion ac angelion; ond ni buasai hyny yn gweddu i symledd ei fawrhydi gogoneddus ef, nac yn ateb un dyben moesol i'r byd. Arwain dynion "oddiamgylch i beri iddynt ddeall" oedd amcan ei genadwri ef, ac nid eu cludo ymaith â llifeiriant o hyawdledd. Y "llef ddystaw fain," ac nid y daran a'r daeargryn oedd ei weinidogaeth. Haul a "goleuni y byd" ydoedd, ac nid y gwynt nerthol yn rhuthro. Ni appèliai byth yn union-, gyrchol at deimladau a nwydau ei wrandawwyr, ond bob amser at y deali a'r gydwybod. Ni chynnygiai oglais eu clustiau, a phorthi eu cywreingar- wch; ond goleuo eu meddyliau a llesâu eu calonau. Synai y bobl, y mae yn wir, wrth ei athrawiaeth ef, Uefarai nes tynu llygaid pawb yn y synagog i graffu arno, nid o herwydd y swynid eu teimladau anianyddol gan Chwefror, 1853. p