Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. ŵetjiàra. DUWINYDDIAETH AC ANIANYDDIAETH, RHAGLITH. Gyda y Rhifyn hwn dechreua y Dysgedydd ar gyfnod newydd o'i oruchwyliaeth. Cyflwynodd ei hen Olygydd ei ofaldrosto i fyny, a chanodd yn iach iddo ar derfyn y flwyddyn ddiweddaf gyda serch tad at blentyn a gynnyddasai gydag ef o'i ieuenctyd. Gwyliasai ei symudiadau am ystod oes o dri chant a thriugain a deuddeg o leuadau. Ennillodd iddo ei hunan radd dda drwy ei ddyfalwch, ei flyddlondeb, a'i ddoethineb yn y gweinyddiad o'i swydd, dros yr yspaid maith o un mlynedd ar ddeg ar hugain y bu yn ei llenwi. Weithian y mae ei ofal a'i bryder, ei brofedigaethau a'i gyfrifoldeb ef, fel Golygydd, ar ben, ac wedi disgyn i ran eraill. Nid yn fynych y ceir enghraifft o oes olygyddol mor faith a'r eiddo ef. Bydded i weddill dyddiau ei henaint a'i benllwydni fod yn llawer a dyddanus; a chaffed yn y diwedd ddisgyn mewn tangnefedd i'w fedd, a'i gasglu at ei frodyr a chydlafurwyr bore a chanolddydd ei fywyd, "yn gyflawn o ddyddiau, parch, ac anrhydedd." Hysbys i'n darllenwyr fod goruchwyliaeth Olygyddol y Dysgedydd yn awr yn nwylaw chwech o bersonau, ei gyfran a'i faterion neillduol gan bob un i ofalu am danynt—pob un yn arglwydd annibynol ar ei gell benodol ei hunan, ac i'w ystyried yn gyfrifol am gynnwysiad hòno yn unig. Ar ddymuniad ei Gydolygwyr, cymerai ysgrifenydd y llinellau hyn ofal y gyfran a berthyna i Dduwinyddiaeth ac Anianyddiaeth am y flwyddyn hon; a dymuna oddefiad, am y tro hwn, i draethu ei syniad a'i deimlad wrth ymaflyd yn ei swydd, a'i fwriad gyda golwg ar y cyflawniad o honi. Dichon nad anmhriodol iddo grybwyll, mai raewn ufudd-dod i gymhell- ion taerion brodyr a chyfeillion, ac nid o'i ddymuniad a'i ddewisiad ei hun, yr ymgymerodd â'r gorchwyl. Yr oedd ganddo o'r blaen lawn ddigon o orchwylion i gymeryd i fyny ei holl feddwl, ei amser, a'i nerth i'w cyflawni. Dywed hen air Cymreig, bod ysgadenyn dros ben pwn yn ddigon i dòri asgwrn cefn march. Ond nid rhyw ysgadenyn o beth ydyw y gofal ychwanegol hwn a fwriwyd ar gefn gwan ag oedd dan ei lawn bwn eisoes. Nid gwag-rodres ydyw iddo ddywedyd, ddarfod i'r olwg ar bwysigrwydd y gorchwylaymddiriedwyd iddo beri aml bang o bryder poenus i'w feddwJ, cyn iddo etto ddechreu ymaflyd ynddo. Y mae swydd a dyledswyddau IONAWH, 1853. A