Skip to main content

Y DYSGEDYDD. EHAÖFYR, 1852, COFIANT JOHN JARROLD, YSWAIN, Ganwyd John Jarrold yn Woodbridge, swydd Suffolk, yn y flwyddyn 1773. Dyma gyfnod tra hynod yn hanes Brydain, oblegid ei fod yn nodi dech- reuad gwrthryfel ein tiriogaethau Ameri- canaidd, o herwydd y dreth angbyfiawn ar y tê, ac hefyd cysylltiad yr India Frydeinaidd at goron y wlad hon. Trwy y dygwyddiadau hyn y collwyd ymerodr- aeth yn y gorllewin, yr ennillwyd un arall yn y dwyrain, ac yr estynwyd dylanwad Brydain ar bob ochr i'r ddaear. Canfu ein cyfaill, gan byny, y rhan fwyaf o'r effeithiau a gynnyrchwyd drwy y chwyl- droad Ffrengig, a rhyfeloedd meithion a dinystriol Ewrop y pryd hwnw; a chan eu cymbaru hwy ag effeithiau yr beddwch a ganlynodd, magwyd ynddo awydd nerthol a brwd am beddwch a rhyddid. Canfu hefyd ffurfiad y nifer fwyaf o'r sefydliadau Protestanaidd er taenu cref- ydd dros y byd, megys Cymdeithas y Biblau, y Cenbadau, y Traethodau, yr Ysgolion Sabbathol, a'r un Lancasteraidd Ddyddiol, a chadwodd barch cryf a gweithredol iddynt oll drwy ei oes. Yr oedd ei fywyd yn gydfynedol â'r adfyw- iad mawr a fu ar wir grefydd, yn mhrof- edigaethau ac erlidiau yr non y cafodd ef ddwyn ei ran ; o ganlyniad, llawenychai yn ddirfawr am fuddugoliaethau yr ef- engyl yn Lloegr, a'r gwelliant mawr ydoedd ar wybodaeth, arferion, asefyllfa y bobl o herwydd hyny. Ni fedrai neb a'i hadwaenai lai na sylwì, fod dygwydd- iadau mawrion ei genhedlaeth wedi gwneud argraffiadau dyfnion ar ei feddwl gweitbgar, ac mai un amcan mawr at yr hwn y cyfeiriai ei egniadau diflino yn wastadol, ydoedd cynnal a lledaenu teyrnas yr Arglwydd Iesu Grist. Daeth yr achos hwn yn fuan yn brif wrthddrych ei ofal. Ni wnaeth Ilwyddiant bydol ei droi oddiwrtho ef; eithr rhoddai iddo foddion ychwanegol i'w cyflwyno er ei wasanaeth. Hyd yn oed yn ei henaint, ni phallodd dim o'i weithgarwch dros lesâd ysbrydol ei gyd-ddynion. Yn ol ei gyfleusderau a'i alluoedd, gellir dweyd iddo ef "wasanaethu ei genhedlaeth yn ol ewyllys Duw, a huno yn yr Iesu, a'i gasglu at ei dadau." Bydded i ni, mewn adeg o ddygwyddiadau hynotach, o brof- edigaethau ac anhawsderau mwy, feddu gras i fyfyrio ar esiamplau da ein rhag- flaenoriaid, fel yr "elomac y gwnelom yr un modd." Megys yr oll o ddynion penderfynol, meddai Mr. Jarrold ei hynodion. Yr ydoedd ganddo ei ffyrdd ei hun i wneud daioni,—ei syniadau ei thun am ddy- gwyddiadau cylchynol,—-arhai o'r cyfryw neillduolion a allasent weithiau fod yn ddiffygion ; er hyny yn gyffredin, yr oedd yn amlwg eu bod dan Iywyddiaeth sel frwd dros grefydd a dynoliaeth, em eu bod yn rhoddi newydd-deb a gwreiddiol- deb i'w ymdrechion ef ei hun, heb fod yn gwrthdaro na lluddio ymdrechion rhai eraill. Gorfodid, hyd yn oed y rhai a wahaniaethent oddiwrtho ef, i addef cywirdeb a haelfrydedd ei amcanion. Collodd ein cyfaill trancedig ei dad pan ydoedd oddeutu blwydd oed; ond cynnysgaethwyd ef â mam dduwiol a doeth, nes ei fod tua deuddeg oed. Wele un arall o'r amryw dystiolaethau dros ddylanwad santaidd y fam yn more yr oes. Iawn y dywedwyd, " Os y plentyn ydyw tad y dyn, y fam ydyw tad y plentyn." Dichon nad ydyw tadau yu wastadol yn arfer y dylanwad sydd ganddynt tra y mae y plant yn ieuainc; eithr dedwydd ydyw yr hwn y mae ei ddrychfeddyliau cyntaf wedi cael eu cychwyn, a'i ddymuniadau cynnyddol yn cael eu rheoli gan fam ddoeth fyddo yn gweddio. Cafodd ei roddi yn egwyddorwas mewn lle ydoedd yr un mor fanteisiol i dduw- ioldeb boreuol, yn nheulu y diweddar Mr. Silcock o Stalham, yr hwn a'i wraig