Skip to main content

Y DYSGEDYDD. TACHWEDD, 1852, NODIADAU COFFADWEIAETHOL AM ANNE JONES, MEUCH EDMUND A GWEN JONE9, TYGWYN, TRAWSFYNYDD "Ei meddwl braidd yn rhy ysbrydol oedd I drigo mewn tymhcstlawfr siomgar fyd, Lle mynych deimlir gormes, traia, u bloedd, Lle gweür camwedd o erchyllaf bryd: Yr ydoedd fel rbyw sylwedd canaid pur, Na chawsai ddethol ei briodol le; Neu fel planhigyn mewn gogleddol dir, Ddylasai fod yn nhyner hinsawdd de; Neu megys un o hoff ysbrydioti uen, Gollasai'i ffordd i'w gartref gwych uwchhen."—Ieoan Gwttnedd. Y mae tua thair mil o flynyddoedd wedi treiglo ymaith er pan ddywedwyd, drwy gyfarwyddyd dwyfol, gan y doethaf o ddynion, "Siomedigyw ffafr, ac ofer yw tegwch; ond benyw yn ofni yr Arglwydd a gaiff glod." Pe gallem ddilyn hanes pob benyw a fu yn ofni yr Arglwydd yn ystod y miloedd blyneddau hyny, caem weled fod y rheol hon mor ddieithriad ag un o'r tair mil o ddiarhebion a lefarwyd gan Solomon. Gall cenfigen neu ragfarn geisio yspeilio y cyfry w o'r clod a deilynga, ond y mae eí rhinweddau yn sicr o dd'od i'r golwg, »r daw ei gweithredoedd yn hwyr neu yn hwyrach i'w "chanraol yn y pyrtb." Y mae duwioldeb "yn fuddiol i bob peth," ac yn ymddangos yn hardd yn mhob man. Y mae yn brydferth yn y dyn gwrolfrydig, yr hwn drwy fawr lafur ei sel a Iwydda i ddylanwadu ar gymeriad cenedl. Y mae yn Uawn mor brydferth yn addurno nodweddiad y fenyw, yr hon drwy ei dylanwad dystaw a nawseiddia holl gylchoedd ei chydnabyddiaetb. Y mae yn wir fod y rhaiadr ardderchog sydd yn bollti y creigiau yn tynu mwy o sylw na'r afon lefn sydd yn araf dreiglo drwy y gwastadedd; ond y mae gan y naill a'r llall eu rhagoriaetbau neillduol, ac y mae pob un o honynt yn brydferth yn ei le, a gwylied y naill rbag ceisio dynwarcd y llall. Ni thueddir ysgrifenydd y llinellau hyn gan gyfeillgarwch personol i ymaflyd yn ei ysgrifell. Dwy waitb neu dair yn ei oes y cafodd yr hyfrydwch o fod yn nghymdeithas Miss Jones. Ond yr oedd yr hyn a deimlodd yn ei chyfeillach, yn nghyda'r darluniadau a gafodd o'i nod- weddiad gan luaws o'i chymydogion, yn gymhelliad anorchfygol i dalu y deyrnged hon i'w bendigedig goffadwriaetb. Gŵyr rbai o ddarllenyddion y Dysg- edydd am Drawsfynydd—y pentref bych- an—y boblogaeth wasgaredig—y mawn- ogydd annherfynol—a'r creigiau moelion. Ond er mai un o'r lleiaf yw yn mysg miloedd Cymru, y mae aml dywysog a thywysoges wedi eu magu yno. Y mae y ffaith fod y trigolion yn medru byw yn y fath le yn ddigon o brawf mai nid pobl gyffredin sydd i'w caelyno. Acnisgallun dyn craff edrych ar wynebau y trigolion beb gael ei daro á'r argyhoeddiad fod meddwl yn Nhrawsfynydd, er fod gormod o hono mor anniwylliedig a'r corsydd cylchynol. O Drawsfynydd y tarddodd yr anfarwol Williams o'r Wern. Yno yr anadlodd awen Robin Meirion anadl einioes gyntaf. Yno y ganwyd ac y raagwyd Morgan Lloyd, Dadleuwr pobl- ogaidd Cylchdaith Gwynedd, yr hwn aydd yn enghraifft nodedig o wir dalent yn tòri drwy rwystrau. Gallem nodi eraill o "blant y byd hwn," a "phlant j 2 s