Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HYDEEF, 1852, DARLLENWCH AM LEILA ADA, Hybabch Olygydd,—Mae hanes yr Iuddewes ieuanc a duwiol sydd a'i henw uwchben yr ysgrif hon yn un o'rdarnau mwyaf effeithiol a ddarllenais erioed; ac yr wyf yn meddwl mai gormod o orchwyl i un darllenydd, a feddianna radd o deimlad, ydyw darllen am " Leila Ada" heb dywallt dagrau. Y mae ei hanes yn enghraifft arall, at y nifer luosog sydd genym, o ddwyfoliaeth y Grefydd Gristionogol, a'i chymhwysder neillduol i gyfnewid y galon sydd wedi ei meithrin a'i haddysgu mewn credoau hollol wahanol i'r rhai a ddysgir ganddi hi. Y mae rhwymau ar y byd Cristionogol i fod yn ddiolchgar i Mr. Heigbway am ysgrifenu bywgraffiad yr Iuddewes hon. Y mae yn sicr o wneud lles, ac o dan yr ystyriaeth hon y cyfieithais y talfyriad hwn o'r Christian Witness. Yr wyf yn ei anfon at eich gwasanaeth. Treffynnon. G. Gwenffrwd. GaN gyfeirio at drigfan dymunol Leila a'i thad, dywed Mr. Heigbway,— " Cyn cymeryd meddiant o'r preswylfod hwn, yr oedd A. T-----, Ysw. wedi claddu gwraig ei ieuenctyd; ac ar ol dyfod i'r encilfan hyfryd hwB, yr oedd efe, a'i unig ferch Leila, mewn rhan wedi ymneülduo oddiwrth y byd. Ni wyddai Mr. T----- am un dedwyddwch yn annibynol ar ei blentyn, oblegid yr oedd ei holl fwyniant yn gynnwysedig yn nygiad yn mlaen ei llesâd a'i chysur hi. Yr ydoedd yn wir yn fôd i ennyn y serchiadau, ac i grëu hoffder yn mynwesau pawb tuag ati. Yr oedd prydferthwch yn ei hamgylchynu fel mantell, ond ei meddwl coethedig, a*i thymherau hynaws, a roddai iddi uwch a grymusach dylanwad na'r hwn a gyn- nyrchir gan swyn hudoliaeth prydferthwch corfforol yn unig. Yr oedd yn dra diwylledig, gan y gallai ddarllen ac ysgrifenu amry w ieith- oedd gyda rhwyddineb. Eulun ei thad ydoedd— ei gariad ati oedd gryf, a dychwelai hithau ei gariad. Gan ei bod o hâd Abraham, addysgodd hi yn ofalus yn y gyfundrefn Iuddewaidd, a theimlai hyfrydwch a boddlonrwydd wrth sylwi ar ei dwysder a'i duwiolder boreuol—i'w chref- ydd ystyriai hi yn addurn gwir brydfertb.'* Pan o gylch unarbymtheg oed, dech- reuodd Leila gadw dyddlyfr, yr hwn sydd wedi bod yn wasanaethgar iawn er datguddio gweithrediadau dirgelaidd ei meddwl. Hyd yn oed pan na wyddai ddim am yr efengyl, ac onid ycbydig am yr ysgrythyrau Iuddewig, amlygai lawer o ddifrifoldeb a phryder meddwl am addysgiaeth ddwyfol, oblegid ym- ddangosai fel yn ymwybodol o'i hangen am dano. Cyn hir, pa fodd bynag, daeth o byd i'r ffordd i air Duw, ac yn fuan derbyniodd les fel un yn cael ei dysgu oddiuchod. Y penderfyniadau canlynol a ddangosant o ba ysbryd yr ydoedd, er nad oedd wedi darllen gair o'r efengyl,— " Er rheoleiddio fy mywyd, a mantoli fy muchedd, yr wyf yn penderfynu,— " 1. Y bydd iachawdwriaeth fy enaid yn achos cyntaf, ac yn brif achos genyf. " 2. Na fydd arnaf byth gywilydd o'm crefydd, ond y gwnaf ei harddel bob amser, ac yn mliob lle yr ymddengys hyny yn briodol. " 3. Y byddaf bob amser yn ofalus i siarad y gwirionedd; na fyddaf byth yn euog o fwyseirio (equivocate), ond bod bob amser yn eirwir a sylweddol gywir; ac er cwblhau hyn gwyliaf yn fanwl ystyr yr hyn oll a ddywedaf. "4. Y byddaf, ar bob adeg, yn barod i gyfaddef bai, neu i erfyn am faddeuant am dano: ni bydd o bwys o ba gymeriad a sefyllfa y bydd yr hwn y byddaf yn euog o droseddu yn ei erbyn. "5. Na wnaf ddim i neb y byddai genyf wrthwynebiad i arall ei wneud i mi. Na wnaf byth uurhyw beth, yr hwn, pe gweiwn yn cael 2 o