Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. AWST, 1852, COFIANT Y PAECH, J, PARRY, Parhad o tudal. 195. Cafodd y bregeth ei chyhoeddi, yn ol cais y Gymanfa, a chafodd ddarlleniad a ebymeradwyaeth nid bychan yn mhlith Cristionogion o wabanol enwadau—den- odd sylw a chanmoliaetb oddiwrth olygwyr rhai o'r prif gyhoeddiadau cref- yddol yn y deyrnas, beb son am y llyth- yrau cyfrinachol o gymeradwyaeth a dderbyniodd yr awdwr oddiwrtb luaws o enwogion penaf yr oes o ran eu dysg a'u duwioldeb. Tra yn llafurio yn East Cowes, cyhoeddwyd hefyd ei bregeth ar "Paul yr Henafgwr." Yr hyn a acb- Iysurodd gyfansoddi a tbraddodi y breg- eth oedd marwolaeth y Parch. Ricbard Adams, y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yn Uafurio fel bugail yr eglwys yr oedd efe ei hunan yn awr yn golygu drosti. Yn " Yr Henafgwr Paul" cyfar- fyddir â rhai rbanau gwir nerthol ar nodwedd Paul—yr athrawiaetb Gristion- ogol—cynnydd profiad—ymddygiadau priodol at hen weinidogion—galwad yr amseroedd mewn cygylltiad a'r weini- dogaeth bresenol—gwir olyniad apostol- aidd—a tbystiolaeth bywyd ac angeu gweinidogion ymadawedig. Ymddengys, pa fodd bynag, fod Mr. Parry, fel Hawer eraill o weision Iesu, wedi derbyn budd personol oddiwrth lafur Cristionogol y sant oedranus Adams. Yn y bregetb cyfarfyddir â'r nodyn can- lynol:— "Ni bu ei ymweliad cyntaf à mi ar ol fy sefydliad yn y lle hwn ond am yspaid tua deng mynyd, pump o ba rai (yspaid byriddo ef) adreuliodd mewn gweddi ar eich rhan chwi a minnau. Cafodd y weddi bòno fwy o effaith ar fy nghalon (maddeued yr Arglwydd i mi na bawn wedi meitbrin y teimladau yn well) na'm holl ddarllen ar 'Fugail' Baxter, 'Dar- lithiau' Doddridge, a'r ' Weinidogaeth Gristionogol' gan Bridge. Dylai hyn gynnwys llawer. Y geiriau olaf a glyw- ais i o enau yr un a draddododd y weddi hòno oeddynt,—' Wel, anwyl frawd, yr Arglwydd a ddysgo eich dwylaw i ym- ladd, a'ch bysedd i ryfela.' Ac i'r weddi hòno yr wyf yn dymuno am eich Amen chwitbau." Credai Mr. P. fod pob peth a wnawn yn effeithio ar yr amser a ddaw; ac y mae yn amlwg i'r hyn a wnaetb Mr. Adams effeithio arno ef, ac ar bawb y cyrhaeddai ei ddylanwad atynt mewn bywyd ac angeu. Gellir casglu oddiwrtb rai rhanau yn y bregeth dan sylw yr byn a gadarnbeir gan amgylchiadau dilynol,—fod oriau olaf yr hybarch Adams wedi gadael argraffîadau ar feddwl gwrthddrych ein Cofiant na chawsant bytb eu dilëu. Wrtb adolygu banes ei feddwl ef, ym- ddengys yn amlwg na buasai heb byny mor gymhwys at a medrus yn y cyflawn- iad o wahanol gyflawniadau pwysig ar ol byny ag y bu. Yn y flwyddyn 1847, gwelodd Mr. P. resymau dros roddi gofal yr eglwys yn East Cowes i fyny, er fod ei serch ati yn gryf fel gwrthddrych ci "gariad cyntaf" yn y weinidogaetb. Yr amser bwnw bu yn pregethu rai Sabbatbau yn Llundain 2 F