Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. GOEPHENAF, 1852, OOFIANT Y DIWEDDAE BAECH, JOHN PAEEY, O LEWES, SÜSSEX. Gwel y Drysorfa Efengylaidd am C/iwefror, 1851. Ganwyd gwrthddrycb ein Cofiant ar y 26ain o Dachwedd, yn y flwyddyn 1816. Ail fab ydoedd i Mr. T. Parry, Abergele, swydd Ddinbych, a brawd i'r diweddar Barch. T. Parry, yr hwn a fu yn weinidog yr Eglwys Gynnulleidfaol yn BIackburn, lle y dewiswyd ef ar symud- iad y Dr. Joseph Fletcher oddiyno i Stepney. Bu Mr. T. Parry yn llafurio wedi hyny yn Newport, Mynwy: symudodd oddiyno i Doyer, lle y bu farw yn y flwyddyn 1844. Nid oedd y ddau frawd yn annhebyg y naill i'r llall o ran eu hymddangosiad personol; yr oeddynt yn nodedig o debyg yn nghyfansoddiad eu meddyliau; ac yr oedd cryn lawer o gyd-darawiad yn yr amgylcbiadau a gyfarfyddodd y ddau yn ystod eu gyrfa trwy y byd. Cafodd y ddau y fraint o ymwneud à chrefydd yn foreu; daeth pob un o'r ddau i fod yn bregethwr; buont ill dau yn fyfyrwyr diwyd, amanwl mewn hunan-ddiwylliant fel gweinidogion; cyrhaeddasant ill dau raddau Ued uchel o enwogrwydd; yr oedd y ddau yn nodedig am eu sefydlog- rwydd a'u gwyleidd-dra; cyrhaeddodd y ddau gryn anrhydedd, ond nid heb dreialon, yn y weinidogaeth; bron nad oedd y ddau yn berffaith mewn syml- rwydd Cristionogol; buont ill dau feirw yn mlodau eu dyddiau; buont feirw ill dau o'r darfodedigaetb, er na symudwyd neb o aelodau y teulu ond hwynt-hwy trwy yr afiechyd hwnw; a gadawodd y ddau lawer i ddwys a hir alarueu colled. Yr oedd coffadwriaeth eu mam dduwiol yn cael ei goleddu gan y ddau frawd gyda theimladau o orhoffder a diolch- garwch, marwolaeth ddisymwth yr bon oedd yn wir yn brofedigaeth chwerw, yn neillduol i wrthddrych ein Cofiant. Cyfeiriai at yr amgylchiad yn aml trwy ystod ei fywyd, er yr ystyriai ymddy- ddanion ac esiamplau da ei frawd bynaf fel y moddion mwyaf uniongyrchol yn llaw y Nef er ei ddwyn i gofleidio y Gwaredwr a'i waith. Y pryd hyny nid oedd yr un Eglwys Gynnulleidfaol yn nhref Abergele; ac felly teithiai y ddau frawd tua thair milldir dros y bryniau bob Sabbath i gapel Moelfro, er cael cyfle i addoli yn y drefn a'r dull ag yr oeddynt wedi dysgu ei hoffi. Ar ymweliad olaî Mr. J. Parry âCbymru, cafodd ysgrifenydd y Uinellau byn yr hyfrydwch o dreulio llawer o oriau yn ei gyfeillach, pryd y siaradai gyda dyddordeb mawr am eglwys Moelfro yn yr amser yr ymunodd à hi, Uafur diflin ei bybarch weinidog (y diweddar Barch. T. Jones), a'r oedfaon a'r cym- deithasau melus a fwynhaodd yn eu plith. Ymunodd John à'r eglwya pan yn 13 oed, ac yn fuan dilynaieifrawd fel "oen yn canlyn y bugail" i'r gwahanol eglwysi eu gwahoddid—yr bynaf i bregethu a'r ieuangaf i ddechreu yr oedfaon. Wedi cael cymeradwyaeth gan yr eglwysi a'r 2 B