Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MEHEFO, 1852, DE. CHALMERS, Anrhegwyd darllenwyr y Dysgedydd tua blwyddyn yn ol ag erthygl fedrus gan Mr. Lewis, Treffynnon, ar y dyn enwog Dr. Pye Smîtb, yr hwn sydd yn awr yn ysbryd santeiddiedig mewn gogoniant, a'i allnoedd meddyliol cryflon heb fod yn nglyn â chnawd, yn ymdreiddio i'w hoff bynciau tra y preswyliai ar y llawr; a cban nad ymddangosodd un bywgraff- iad pwysig o'r dyn bynod sydd a'i enw uwcbben yr erthygl hwn yn y Dysged- ydd, nid wyf yn ammau na fydd y nodion a ganlyn yn dderbyniol. Ganwyd y duwinydd dysgedig, yr areitbiwr byawdl, a'r ysgrifenydd gallnog Dr. Cbalmers, ar yr 17eg o Fawrth, 1780, mewn tref yn swydd Fife, yn yr Alban, o'r enw Anstruther. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, ac yn nodedig pan yn facbgen, ac hefyd wedi cyrhaedd oedran gwr, am chwareuon campwrol. Treuliodd ei yrfa athrofaol yn Ngholeg St. Andrews, Ue y dangosodd yn fuan ei alluoedd grymus a'i ddiwydrwydd diflino mewn efrydiaeth wyddonol ac attaron- yddol. Hoff bwnc ei astudiaeth oedd rbifyddiaeth wyddonol (tnathematics). Dygwydda weithiau fod athrylith ehed- iadol yn wyddonol hefyd. Yr oedd y dyn rbyfedd Thomas Carlyle yn athraw rbagorol i ddysgu ac esbonio Euclid, er mae'n wir na ddarfu iddo ef na Dr. Cbalmers feistroli y wyddoniaeth ar- dderchog bon. Yr oedd y Doctor hefyd yn boff iawn o fferylliaeth, a pharhaodd ar hyd ei oes i dalu llawer o sylw i'r wybodaeth yma; ond ni wnaeth ef, mwy nag Arglwydd Brougham, unrbyw ddar- ganfyddiad fferyllol; a rhaid cyfaddef fod cyrbaeddiadau y duwinydd yn eang- ach yn y ddysg hon na'r eiddo y gwleid- yddwr; etto ni ellid ystyried y ddau amgen nag ofydd-garwyr (amateun) yn y gelfyddyd. Yn nechreuad ei weinidog- aeth, arferai draddodi darlithiau ar y gwyddoriaethau hyn gyda buddioldeb mawr i'w wrandawwyr, a byny yn benaf o herwydd yr aiddgarwch, y brwdfrydedd, a'r dyddordeb a ddangosai ac a gymerai yn y gorchwyl. Traddododd ei bregeth gyntaf yn Wigan, tref yn swydd Lancaster, lle y cofir y ffaith gyda difyrwch byd y dydd hwn. Yn fuan wedi iddo dderbyn trwydded i bregethu, aeth i ymweled â pherthynas oedd ganddo yn Llynlleifiad, yr hwn oedd yn awyddus iawn i'w glywed yn pregethu; ond ofnai Cbalmers ieuanc wneud ei ymddangosiad cyntaf yn y dref boblog ragddywededig: pan ddeallwyd hyn, hysbyswyd ef gan weinidog yr Eglwys Ysgotaidd fod capel bychan yn Wigan a wnai y tro iddo: felly y bu, aeth yno, a chafodd cynnulleidfa capel bychan Ẃigan y fraint o glywed pregeth gyntaf un o'r dynion enwocaf a ym- ddangosodd erioed. Yn fuan wedi byn aeth Mr. Chalmers yn gynnorthwywr yn mhlwyf Cavers, yn agos i Hawiclc; ond byr fu ei arosiad yn y lle hwn, oblegid urddwyd ef yn Mai, 1803, i fod yn weinidog yn Rilmany, yn ei sir enedigol, ac o gylch wyth milldir o St. Andrews, yr athrofa, fel y dywedwyd eisoes, y bu yn efrydu ynddi. Yn y man hwn y decbreuodd astudio Uysieuaeth; ac mor llawn oedd ei feddwl o'r wyddoriaeth ddifyrus hon ar adegau fel y byddaì yn " ystyried lili y maes" ar foreuau Sab- batb, pan y dylasai fod yn ystyried ei bregetbau. Dywedir fod y gwysiwr (beadle) wedi dyfod o hyd iddo un tro yn brysur iawn gyda Uysieuaetb, a hyny ar amser yr addoliad cyhoeddus, ac wrth brysuro i'r areithfa, tynai ei het, ac fel yr oedd y blodau yn syrthio ar gudynau ei wallt du hirllaes a modrwyog, gwelai y gynnulleidfa ei yspeiliadau Sabbathol.