Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MAI, 1852, BYWYD WILLIAM TYNDAL, Yr oedd WiIIiam Tyndal yn un o'r prif Ddiwygwyr Protestanaidd. Mae yn amlwg mai Cymro oedd y gwr mawr bwn, oblegid yr oedd yn enedigol o derfynau sir Fynwy a Henffordd: yr oedd y manau hyny, yn amser Tyndal, yn cael eu poblogi yn gyffredinol gan y Cymry. Bernir gan rai mai Tyndal a gyfieithodd bum llyfr Moses i'r Gymraeg, am yr hwn y crybwylla Dr. Richard Davies, Esgob Tý Ddewi, yn ei Iythyr Cymreig o flaen Testament Newydd Gwilyui Salesbury. Gwel Historical Account of the Welsh Yersions and Editions of the Bible, by Dr. Llewelyn. Un o brif seiliau y dyb mai Cymro oedd Tyndal yw mai yn yr ardal a nodwyd yr oedd yr enw Tyndal yn arferol: heblaw hyny, dywed y Parch. Joshua Thomas, yn ei hanes o eglwys Olchion, yn swydd Henffordd, iddo, oddeutu y flwyddyn 1740, glywed ben foneddwr yn dywedyd fod William Tyndal yn gyfaill neillduol i'r Bedyddwyr; ac y mae hyn yn rhes- ymol, am mai y Bedyddwyr oedd prif ymneillduwyr Cymru yn araser Tyndal; ac yr oedd yn naturiol i ŵr o'i fath ef garu y fath bobl, am ei fod yntau hefyd yn ymneillduwroddiwrth eglwys gyffred- inol ei oes, sef yr un Babaidd. Hefyd, yr oedd yn eglwys y Bedyddwyr yn Llanwenarth a'r Feni aelodau cyfrifol o'r enw Mr. Llewelyn Tyndal, a Hezekia Tyndal, oddeutu y flwyddyn 1700, ac nid oes ammheuaeth nad yr un teulu oeddynt. Gwel Hanes y Bedyddwyr, gan J. Thomas, tudal. 10,66. Ffurflwyd eglwys Olchion tua'r flwyddyn 1600, a'r Feni 1652, fel y bernir; ond Olchion oedd mam-eglwys holl ymneillduwyr Cymru, ebai Hanes y Bedyddwyr, tudal. 76. Bernir yn gyffredin i'r gweinidog enwog hwn i Iesu Grist gael ei eni tua'r flwyddyn 1500. Dygwyd ef i fyny yn Mhrifysgol Rhydychain, lle y cynnydd- odd, mewn ieithoedd a chelfyddydau a gwybodaeth o'r ysgrythyrau, yn mhell tuhwnt i'r cyffredin. Byddai yn arfer, yn ddirgelaidd, darllen duwinyddiaeth i nifer o ysgolheigion oedd yn ysgoldy Magdalen, gan eu hyfforddio mewn gwybodaeth o egwyddorion ysgrytbyrol, ac yr oedd ei foesau duwiol yn hollol gyfatebol i'w gynghorion grasol. Ar ol iddo gynnyddu yma mewn dysg, urdd- wyd ef yn ol y graddau gofynol. Y mae mewn llyfrgell yn y Coleg a nodwyd ddarlun neu eulun o hono, yn nghyda'r darlleniad canlynol yn Lladin, —Refest haec Tábela (quod solum patuit Ars) Gulielmi Tindal effigiem, hujus olim Anlae Alumni sbnel et Ornamenti; qui, post felices Purioris Theologiae primitia8 hic despositas, Antwerpae in Novo Testamento nec non Pentateucho in vernaculam transferendo operam navavit Anglìs suis eo usque salutiferam, ut inde non immerito Anglia Apostulus audierat.— Wilfordce prope Bruxellas Martyrio coronatus, A.D. 1536.— Vis, si vel adversario (Procuratory nempe ImperatorÌ8 generali) credamus, per- doctus, Pius et bonus. His. and Antig. Oxon. Lib. ii. p. 379, see Lewis' Hìst. of the Engli8h Translators of the Bible, p. 73. Gwelir yn yr hanes uchod dalfyriad o lafur Tyndal yn cyfìeithu y Bibl i'r Saesoneg, am yr byn y cafodd ei fertbyru, fel y gwelir yma yn mhellach.