Skip to main content

Y DYSGEDYDD. BBRILL, 185 2, COFIANT Y PARCH, D, DAYIES, LLANEEFYL, Mae yn arferiad cyffredinol bron yn mhob oes a gwlad i ysgrifenu bywgraff- iadau dynion enwog; ac y mae byny lawer pryd wedi ateb dybenion da, trwy ddwyn eu prif ragoriaethau i'r golwg, a cbynbyrfu eu holynwyr i'w hefelychu yn eu pethau rbagorol, ac i ochelyd eu pethau diffygiol. Y bywgraffydd goreu yn ddiammbeuol yw yr un a ddengys yn fwyaf eglur a grymus wir ragoriaethau y dyn ar un llaw, ac a ddarlunia yn onest ac yn gywir eiddiffygion a'i wendidau ar y llaw arall. Ond yn fynycb, y mae anbawsderau mawrion i wneud hyn yn deg, yn gyflawn, ac yn effeithiol; a dicbon mai lled anfynych y mae yr ysgrifenydd yn gallu boddhau ei bunan, heb son am gyfarfod à chwaeth, a Ilenwi dysgwyliadau ei ddarllenwyr. Ganwyd gwrthddrych y Cofìnnt hwn mewn Ile o'r enw Tý-gwyn, yn mhlwyf Llanerfyl, tua'r flwyddyn 1780. Enwau ei rieni oaddynt Thomas a Mary Dayies, ac yr oedd Dafydd yn un o bump o blant, y rhai a faont feirw o'i flaen, ond un. Nid oes genym uemawr o'i hanes yn ei ddydd- iau plentynaidd, ac ni cblywsom am ddim yn neillduol a ddygwyddodd iddo, oddieithr iddo rywbryd, pan yn blentyn lled fychan, dòri neu ysigo ei goes. Mae genym le teg i gasglu iddo gael manteis- ion crefyddol er yn blentyn—cafodd yn ddiammau ei ddwyn i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd; oblegid yr oedd ei rieni yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni: yr oeddynt y pryd hyny ill dau yn aelodau cyson gyda'r Trefnyddion Calflnaidd. Trwy yr add- ysgiadau a'r eeiamplau boreuol hyn, cafodd Dafydd bach ei gadw rhag Ilawer c ddrygau a liygredigaethau yr oes, a daeth yn raddoJ ar gynnydd mewn gwyb- odaeth am athrawiaethau a dyledswyddau crefydd—yn deuluaidd ac yn gymdeith- asol: ac fel hyn, bron yn ddiarwybod iddo ei hun, magwyd ynddo syniadau a theimladau parchus at grefydd a chref- yddwyr. Er's tua hanner canrif yn ol, arferai y diweddar Barch. Mr. Hugbes, o'r Dinas, ddyfod i'r cymydogaetbau hyn i bregethu yr efengyl. Bu yn arfer dyfod yn rheol- olaidd am flynyddau i gynnal moddion i'r gwahanol dai yn y gymydogaeth, megys Tý-gwyn, Pandy, Rhosgall, y Gyfylche, a manau eraill. Arferai gwrthddrych ein Cofiant fyned i wrando ar Mr. Hughes, ac ennillwyd ei sylw a'i serchiadau pan yn Ued ieuanc at betbau mawrion a phwysig efengyl gras—teiml- odd ei dylanwad nefol ar ei galon; ac yn raddol, addfedodd y teimladau parchus byn at efengyl a'i hordinhadau i bender- fyniad diysgog i ymroddi yn gyflawn i waith yr Arglwydd, a derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan o gylch 30oed. Wedi dyfod i'r winllan, ni bu yno yn segur, ond ymaflodd yn ei ddyledswyddau cref- yddol â'i boll egni, fel un yn credu ac yn teimlo fod ganddo waith i'w wneud dros Dduw yn y byd. Wele ni yn awr wedi cael cipolwg arno yn ei ddyddiau bor- euaf, a'i ddilyn nes y cawn ef yn gyflawn aelod yn eglwys Dduw. Bellacb, rhaid i ni ymdrechu ei ddilyn ychydig yn fan- ylacb, ac edrych arno yn ei gymeriad peraonol a chyhoeddus. Edrychwn arno i ddechreu fel dyn. O ran ei berson, yr oedd ofaintioli cyffrcdin —heb fod yn fawr nac yn fycban; corff