Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MAWRTH, 1852, DANIEL DE FOE, l'ABHAD O TÜDAL. 6. Ar esgyniad y frenhines Anne i'r orsedd, hi a ddechreuodd redeg i eithafion en- hydns. Yr oedd hì wedi cael ei dwyn i fyny yn nghanol Uchel-eglwyswyr, a'r dosbarth mwyaf selog o'r rbai hyny ; gan hyny, hi a feddyliodd, fel arfer dynion poetblyd yn gyffredin, mai yn eu dwylaw hwy yr oedd y gamp, a phawb eraill dan eu traed. Gwelodd yr Angbydffurfwyr yn ebrwydd eu bod wedi ymddwyn yn ffol wrth adael y ffrewyll yn nwylaw eu gelynion. Yr oeddynt wedi eu cau allan mor llwyr o bob lle yn y wladwriaetb, ac oddiwrth bob gobaith am ymddyrcbafu yn y dalaetb, ag yn nyddiau gwaethaf yr ormes Babyddol. A Deddf y Goddefiad, yr hon a ennillasid ganddynt trwy lafur caled, a ddirymid ac a gwtogid yn awr yn gymaint ag oedd bosibl; a rboes De Foe allan yr alarwm rybuddiol. Ond yr oedd Ymneillduwyr fel rbaff dywod, ac ni wnaent mewn modd yn y byd ddal wrth eu gilydd. Yr oedd rhai yn eu plith yn parchu eu golygiadau mor bell ag i beidio cydymffurfio â'r £glwys; ond ni roent gymaint o fri arnynt fel ag i adael i fanteision bydol fyned Ile yr elent er eu mwyn. Caniatäent gydffurfiad achlysurol, fel ei gelwid, er mwyn swyddau; elent i'r Eglwys, cymerent y sacrament, a pbenlinient, ac felly yn mlaen, er yn eu calonau yn Ymneill- duwyr. Yn awr, yr oedd De Foe, fel pob dyn cywir, yn casàu hanner dynion. Ysgrif- enodd lyfryn bycban ar y pwnc hwn yn y flwyddyn 1697, pryd y cymerodd Syr Humpbrey Edwín, yr Arglwydd Faer, [Llundain] y cleddyf, a'r telmau swydd- ol, i'r Eglwys yn y bore, ac i'r cBpel yn Pìnner's Hall prydnawn yr un Sabbatb. Ond syrthiodd y cwestiwn i lawr y pryd hwnw, ac ni bu un achlysur neillduol i'w ailgodi hyd nes ar ol i'r frenhines Anne esgyn i'r orsedd yn 1701, pan y cryfbaodd yr hòniadau eglwysig, ac y gwelwyd yn anghenrheidiol sefyll yn fwy týn nag erioed at egwyddor. Syr Tbomas Abney oedd yr Arglwydd Faer y flwyddyn hòno, ac efe a ddilynodd esiampl Edwin: cydffurfiai â'r Eglwys, ac ymneillduai oddiwrtbi, ar yr un pryd, yr hyn a gymerodd De Foe yn achos difrìaeth. Nid ymddengys iddo gael un bai arall yn Abney. Gwyddom rywfaint am ei driniaeth dyner a Cbristionogol o Dr. Watts, yr hwn y darfu iddo ei wahodd i'w dŷ ar ol iddo gael clefyd peryglus, ae a'i cadwodd hyd nes y gwellbaodd, ac am lawer o flynyddau wedi hyny. Ond yn y cydffurfiad achlysurol hwn yr oedd ar fai; ac ym- ddygodd De Foe yn ffyddlon wrth ei argyhoeddi o hono. Yr oedd hon yn esiampl annheilwng o eiddo prif ynad y ddinas benaf o fewn gwledydd cred, i dwyll-chwareu gyda chrefyddau yn y modd byn: cyfrinachu yn ddirgelaidd ag Eglwys Loegr i arbed dirwy, ac yna myned yn ol drachefn at yr Ymneilldu- wyr o'r Eglwys hòno. Teimlodd De Foe yn gryf yn yr achos, a cbyfeiriodd argraffiad newydd o'i "Ymholiad" at weinidog Syr Thomas Abney yn Pinner's Hall—y Parch. John Howe—yr hwn oedd wedi bod yn Eglwyswr, ond wedi hyny yn Anghydffurfiwr erlidiedig. Am- can De Foe oedd tynu rhyw amddiffyniad oddiwrth Howe, os oedd ef yn cymerad- wyo yr arferiad, neu ynte i roddi cyfle iddo i ddatgan yn ei erbyn, os nad oedd, heb roddi y tramgwydd o wneud hyny yn ddigymhellìad. Ond ni chafodd ddim boddlonrwydd: dylatai ddewis dyn ieuangach ; o herwydd yr oedd John Howe wedi myned yn rhy bell ar ei ffordd i'r nefoedd i gael ei lusgo yh ol i ganol dadleuon y byd belbulus hwn. Diaramau mai duwioldeb enwog awdwr y " Jiedeemers tears over loat $ouls" a