Skip to main content

Y DYSGEDYDD CHWEFROR, 1852, COFIANT Y PARCH, JOHN JONES, DIWEDDAR WEINIDOG YR EGLWYS SAESONEG YN HALL LANE, DINAS CAERLLEON, A FV FARW TACHWEDD 9, 1851. Yr oedd Mr. Jones yn gwanycbu er's hir ddyddiau, ond trwy ymdrech dyfal a manwl iawn cyflawnodd holl gynghorion meddygon a ddeuent yn ei ffordd, a glynodd i weini gyda'i bobl byd yn ddi- weddar, cyn rhoddi gofalon yr achos yn y lle oddiar ei ddwylaw. Gwedi hyny aeth i ymweled â chyfeill- ion i fyny ac i waered, a chanddynt cafodd eu gwenau a'u croesaw calonog, eiriolai hyny ei feddwl yn fawr; ond gwaelu yr oedd ef, ac amlygu y byddai y dyn oddiallan i lawr yn y bedd yn fuan, yr hyn sydd yn awr wedi ei wirio, canys efe a fu farw, ac a gladdwyd! Yr oedd Morris Jones, ac Ellinor ei wraig, pryd y ganed Mr. Jones, yn trin ffarm ar yr ucheldir, Tal-llyn-ogwen, yn agos i Gapel Curig, sir GaerynarfoD. Arferiad pobl cymydogaeth y bryniau byny fyddai ymgynnull i'w campau ar y Sabbatbau, rhedeg, codymu, taflu mcini, &c. Tyngu, myn gwaed y coed helyg; bygythio, mi waedaf ei esgyrn tra pery min ar y twmpath brwyn ; sicr- bau, cyn wired a bod pum corn ar y myharan du, &c. Tybient arferiadau felly yn ddiniwaid; ac y mae gormod o ddywedyd etto, Yr oedd yr hen bobl ystalm yn fwy diniwaid na phobl yr oes hon. Pe b'ai hyny wirionedd, byddai pobl yr oes oleu hon yn rhagritbio yn beryglus yn ngwydd eu gilydd trwy yr eglwysi, capeli, a'r holl ysgolion mewn gwlad a threfl Byddai rhai o'r bobl gryflon (canys cryflon oeddynt yn gy- ffredin) ar amserau yn llamu dros y mynyddau, y ffordd unionaf, hyd Llan- beris, i wrando ar un Morgans, offeiriad : gwedi gwasanaeth y Llan, a chynghor da, dychwelent yr un ffordd, ac ni byddent haiach. Ond ni byddai mor hawdd cael gan y rhai hyny ddyfod i'r bryn campio y rhan arall o'r Sabbath hwnw. Dywedent, Yr ydym ni yn teimlo yn braf ac esmwyth iawn wedi bod yn yr eglwys yn y bore. Mae mwy o foddion addysg y ffordd hòno y pryd byn, a gwell pe b'ai ychwaneg. Nid oedd ewyllys gan y rbîeni ymadael o'r gymydogaeth uchod, ac nid oedd llywodraeth gan y plant ieuainc ; ond yr olwyn fawr a wnaethant i'r pethau droi fel y troisent! Ni roes yr olwyn fawr erioed dro ond o dde. Daeth y teulu i lawr i Fangor; cawsant foddion gras eu gwala ; gwaelodd y plant; bu farw dwy o'r mercbed wedi profi crefydd a chredu yn Iesu Grist; mae dwy etto yn fyw, wedi claddu yr hen bobl. John oedd yr ieuangaf. Dysgodd joineriaeth. Ymunodd â'r ymneillduwyr; bu y Parch. D. Roberts, diweddar weinidog Dinbycb, yn gyfaill ffyddlon iddo; daeth awydd arno i gynghori ei gymydogion; yn fuan cyfarwyddodd Mr. Roberts ef i ysgol y Parch. Dr. Phillips, Neuaddlwyd; bu John yn ddiwyd yno; daeth yn bregetbwr bywiog yn yr iaith Gymraeg, ac yn gymeradwy gan y cynnulleidfaoedd yr ymwelai à bwynt. Cyfarfyddais à chyfleusdra i'w anfon