Skip to main content

Y DYSGEDYDD. T A CHWEDD, 184 (JOFIANT Mll, JOHIST PHILLIPS, BIIYNMAWH, GER NANTYGLO. üanwyd y patriarch duwiol hwn yn Cwraclydach, swydd Frycheiniog. Ei rieni oeddynt Richard ac Anne Phillips. Gofalodd Duw am dano yn fore, trwy ei alw i'w winllan, a gwnaeth ddefnydd mawr o hono. Ond wedi y cwbl, hu farw ein hen gyfaill caredig a ffyddlawn ar fore Sabbath, Awst 24, 1845, yn y seithfed flwyddyn a thriugain o'i oedran, er galar a cholled, braidd rhy anhawdd eu darlunio, i'w deulu hiraethlon, i'r eglwys yma, ac i'w ardalwyr yn gyff- redinol. Ni chafodd ond cystudd byr. Nos Sabbath, y trydydd o Awst, pan yn yr addoliad yn Carmel fel arferol, teimlai ei natur yn llesgâu, a methodd aros hyd ddiwedd yr addoliad. Cychwynodd tuag adref, yn bur glaf, yn mraich ei fab- yn-nghyfraith, John Maliphant, a dyna'r cwrdd diweddaf a gafodd yma yn Carmel. Bu farw megys yn nghanol ei ddefnydd- ioldeb. Aeth ei ysbryd at Dduw ar y Sabbath i ddechreu Sabbath na dderfydd byth. Dydd Mawrth canlynol, er arwyddo eu parch a'u cydymdeimlad, ymgynnullodd tyrfa luosog o wahanol enwadau crefyddol, yn mysg ei gymyd- ogion, ei geraint, a'i berthynasau hen ac ieuanc, i'w gladdedigaeth. Cyn cychwyn y corff tua thý ei hir gartref, gwedd'iodd ý brawd Daniel Jones, Ken- dle, a phregethodd y brawd Williams (B.) o Hermon yn fyr ac effeithiol oddiar 1 Tim. 6. 12. Yna cychwynodd y dorf luosog a'i ran farwol tua Charmel, mewn modd pwyllog ac arafaidd, gyda theiml- adau o sobrwydd cyffredinol, a'r haul yn hyfryd dywynu ar feddrod ei hynafiaid. Wedi cyrhaedd yr addoldy, gweinydd- wyd drachefn gan y brawd Stephenson, Rehoboth, trwy anerch gorsedd gras, a dywedodd ychydig yn effeithiol iawn am ein hen gyfaill ymadawedig. Yna ysgrifcnydd y llinellau hyn a ddywedai ychydig oddiar destun dewisedig ganddo er's rhai blynyddau yn ol i fod ar ddydd ei anghladd, sef, " Gwaed Iesu Grist ei Fab ef sydd yn ein glanhau ni oddiwrth bob pechod." Mae yn canu yn uwch heddyw am dano nag y darfu yma ar y llawr. Er iddo ddweyd llawer am dano yr ochr hon i angeu, dywed yn fil rhag- orach yr ochr draw. Yna rhoddwyd ei gorff i huno yn ei wely pridd hyd fore mawr caniad yr udgorn diweddaf. " Er mai tir angof yw y bedd," ac er gwyllted ydyw treigliad amser, y mae cof parchus hyd heddyw yn yr eglwys a thrwy'r ardal yma am ddefnyddioldeb John Phillips, fel cymydog, fel gwladwr, ac fel crefyddwr yn nodedig. Derbyn- iwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuanc gan yr hen athraw parchedig Davies o Langattwg, a bu yn teithio yno drwy bob tywydd bron, gyda'i hen gyfaill ffyddlawn Edward Reynallt. Yr oedd- ynt ill dau fel Jonathan a Dafydd, megys yn un i fyned yn mlaen a'r arch tua'u gwlad. Wedi i ychydig achos ddyfod yma, i Kendle, darfu i'r ddau wron hyn, yn nghydag ychydig eraill, gael achos i'r Gwaredwr yno, a gwelsant gynnydd a llwyddiant mawr arno cyn eu hymad- awiad. Bu John Phillips yn ymdrechgar iawn gyda chrefydd am oddeutu chwe blynedd a deugain, a neillduwyd ef i fod yn ddiacon yn Carmel, a gwasan- aethodd y swydd am o 18 i 20 mlynedd, sef hyd derfyn ei fywyd, yn dduwiol, diwyd, a ffyddlawn, mewn cymeradwy- aeth mawr. Yr oedd trefn a defnydd- ioldeb yr eglwys yn gorphwys yn agos iawn ar ei feddwl; anfonodd lawer o weddîau taer i'r nef am ei Ilwyddiant, a chafodd ef a'i hen gyfaill achos i ddweyd na bu eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Yr oedd ynddo lawer o bethau teilwng o'u cadw mewn coffadwriaeth fytholj 'ie, pethau teilwng o'u hefelychu i'r oesoedd a ddeuant. Yn ei fywyd duwiol a ffydd- lawn y dywedodd fwyaf am Grist. Ni chafodd fawr hamdden yn ei gystudd