Skip to main content

Y DYSGEDYDD. HYDREE, 1845, COFIANT MAEY JONES, NANTYDUGOED, GER DINAS M A W D D W Y . Ganwyd Mary Jones yn y flwyddyn 1818. Ei rhieni ydynt Richard ac Anne Jones o'r lle uchod, pa rai ydynt. aelodau liardd o'r Eglwys Gynnulleidfaol a ym- gyferfydd yn Bethsaida. Mary oedd yr ieuangaf o saith o blant. Fel gwobr am eu llafur a'u hymdrech yn tlwyn eu plant i fyny yn "addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd," cawsant eu gweled oll yn rhodio gyda hwy i dŷ yr Arglwydd, yn ymgyflwyno at ei waith, ac yn glynu hyd yma o lwyrfryd calon wrtho. Nid yw y rhai hyn " o'r rhai sydd yn tynu yn ol i golledigaeth." " Megys y derbyniasant yr Arglwydd Iesu Grist; felly maentyn rhodio ynddo." Yn mis Tachwedd, 1833, yn bedair blwydd ar ddeg oed, ymrestrodd gwrth- ddrych y Cofiant byr hwn, a'i chwaer Margaret, yn nghyda chwech eraill o'u cyfoedion, yn myddin yr Oen, o ba rai mae chwech yn aros hyd yr awr hon; ond Mary, a Richard Davies, Blaen- tyfolog, a hunasant yn yr Arglwydd. Treuliodd y ferch ieuanc brydferth hon ddeuddeg mlynedd yn ngwinllan Crist, er mawr gysur iddi ei hun a'r eglwys, er gogoniant i grefydd Mab Duw, er gwneud ei choffadwriaeth yn fendigedig, ac er gosod esiampl deilwng o efelychiad i'w chyfoedion ar ei hol. Pan yn nghanol ei harddwch dynol a chrefyddol, pryd nad oedd neb yn dys- gwyl, ymaflodd cystudd ynddi, ac ni ollyngodd ei afael angeuol hyd nes gwthio ei chorff i'r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. Nid oedd neb yn meddwl fod amser ei hymddattodiad mor agos. Nid oedd ei chystudd ond effaith ychydig o arosiad mewn dillad gwlybion, a hithau mewn sefyllfa anfanteisiol o ran ei chyf- ansoddiad corfforol i ddal hyny. Dy- oddefodd ei byr ysgafn gystudd yn odidog ragorol, heb roddi dim yn erbyn Duw. Ei phrofiad wrth ymadael oedd gymysg- lyd. Dywedai wrth ei chwaer, pan ofynwyd iddi oedd arni ofn marw, ei bod yn gweled ei hun yn fyr o gymdeithasu digon â dyoddefìadau Crist, a bod hyny weithiau yn codi ofn arni; ond ei bod yn eofio Mr. Williams o'r Wern yn dy wedyd mai trwy edrych i Gethsemane a Chal- faria yr oedd y Cristion yn cael y fudd- ugoliaeth, a'i bod hithau am wneud hyny; ac felly, yn ddisymwth, bu farw ar yr 8fed o Awst, 1844; a chladdwyd hi yn ngwyddfod torf luosog anarferolyn mynwent Garthbeibio, ar y 12fed o Awst.—Mae Mary Jones, er wedi marw, yn llefaru etto. 1. Wrth benau teuluoedd a rhieni plant, am wneud fel gwnaeth ei thad a'i mam hi; sef ei dysgu a'i chynghori yn fore yn y pethau a berthynent i'w thragwyddol heddwch, a'i hannog i ymgysegru yn fore i'r Arglwydd. 2. Wrth blant yr Ysgol Sabbathol. Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw. Peidiwch ag oedi rhoddi eich hunain i'r Arglwydd. Pe buaswn i yn oedi, buasai fy nhymmor drosodd cyn gweithio un awr yn y winllan. Cofiwch y chwech ar hugain oedd ar fy arch i. 3. Wrth y chwech sydd ar ol ar faes y rhyfel, a dderbyniwyd yr un Sabbath. Byddwch ffyddlon hyd angeu; ni phery yr ymdrech yn faith; yr ydym ni ein dau wedi blaenu y daith. 4. Wrth weinidogion yr efengyl. " Derbyniwch atoch y gwan yn y ffydd." Mae nerth i'w gael yn ol y dydd. Peid- iwch diystyru dydd y pethau bychain. Cofiwch y 14 oed sydd yn fy hanes. 5. Ieuenctyd yn gyffredin. "Cofiwch fy esiampl." Mae yn addas sylwi bod Mary Jones wedi gwrthod yr arferiad llygredig yn mhith ieuenctyd o gyfeill- achu y nos. Edrychai ar hyny yu ffolineb ac ynfydrwydd o'r fath ag oedd yn hollol anghydweddol â lledneisrwydd y grefydd Gristionogol. Er bod pob peth yn ei phryd a'i hamgylchiadau ag