Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEDI, 1 DYLEDSWYDDAU GWEINIDOGIÜN Y GAIR. Teimlwyf bryder clwys ar fy meddwl wrth gynnyg ysgrifenu ar fater mor bwysig a dyledswyddau Gweinidogion y Gair, rhag mewn un modd im' wneuthur cam a'r hyn sydd yn arweddu mor iieillduol ar gyflwr yr eglwys, iachawd- wriaeth y byd, a gogoniant Duw. Os oedd Paul, apostol Iesu Grist, yn gofyn gyda golwg ar holl orchwylion y weini- dogaeth, A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? priodol iawn yw gofyn hefyd, A phwy sydd ddigonol i osod allan y dyledswyddau hyny yn holl ëangder eu gwahanol berthynasau ? Os ydyw yn bwysig mewn llys, lle byddo prawf am fywyd, fod y barnwr yn deall , gyfraith—mewn gwlad lle byddo pla, !òd y meddygon yn fedrus—mewn tref lle byddo gwarchae, fod y gwyliedydd yn effro—ac mewn llong yn yr ystorm, fod y llong-lywydd yn deall morwriaeth, anfeidrol mwy pwysig na hyn oll fod Gweinidogion y Gair yn deall yr holl fl'lyledswyddau pwysig a ofynir er iawn gyflawniad swydd santaidd y weinidog- aeth. Ar iawn weinyddiad y swydd oruchel hon yr ymddibyna iachawdwr- aeth y byd, llwyddiant yr eglwys, a'r amlygiad uwchaf o ogoniant Duw. Mae ^ain priodol yn udgorn y weinidogaeth o'r pwys mwyaf i'r byd, i'r eglwys, i'r nef, ac i uffern. Y weinidogaeth ydyw y môr a welodd Ioan wedi ei droi fel gwaed dyn marw, nes peri i bob peth ag oedd ynddo farw; felly yn ol ansawdd môr dysgeidiaeth y weinidogaeth y bydd byw neu farw yr holl ddeiliaid o honi. Gweddiwn lawer ar fod eglurder y weini- dogaeth megys môr o wydr, a'i thanbeid- rwydd megys môr o wydr wedi ei gy- mysgu â thân. Gan y dysgwylir mewn cylcli cyhoeddiad misol na byddo y traeth- odau yn cyrhaedd meithder, caf ym- drechu cynnwys dyledswyddau Gweini- dogion y Gair mewn tri dosbarth:—Eu dyledswyddau yn eu perthynas â'r weini- dogaeth—Eu dyledswyddau yn eu per- thynas â'r byd—A'u dyledswyddau yn eu perthynas â'r eglwys yn neillduol. I. Cynnwysir dyledswyddau Gweinicî- ogion y Gair yn eu perthynas â'r iceinidog- aeth yn siars Paul i eglwys Colossa, pen. \. 17.—"A dywedwch wrth Archippus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ari ti ei chyflawni hi." ATae edrych ar y weinidogaeth wedi ei derbyn gan yr Arglwydd yn nerth i ymgynnal dan ei blinderau, yn annog- aeth i ddysgwyl wrth yr Arglwydd am nerth i'w chyflawni, ac i gadw ystyriaeth effro ar y meddwl o'r cyfrif a raicl roddi i'r Arglwydd o'r dull y cafodd ei chyf- lawni. Nid Gweinidogion sydd yn crëu Gweinidogion: gwaith Duw yw gwneud gwir Weinidogion y Testament Newydd ; a diammau fod rhywrai yn llestri ethol- edig gan Dduw i ddwyn ei enw ger bron y cenhedloedd. Mae y weinidogaeth yn cael ei nodi fel un o'r bendithion neill- duol a ddeilliodd oddiwrth esgyniad ein Harglwydd i ogoniant; ac edrych ar y weinidogaeth mewn rhyw olygiad arali sydd anysgrythyrol a gwir iselwael. Mae gorchwylion pwysig y weinidog- aeth yn gofyn i bawb a'i cymer hi arno ymroddi iddi yn hollol. " Myfyria yn y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros." Nid oes dim yn fwy peryglus i Weinidog na thybied ei fod yn deall digon ar y Bibl—o herwydd ei fod wedi cael allan ryw wirionedd, ei fod wedi cael allan y cyfan. Yr oecld Paul yn dymuno gwybod ychwaneg—yr angylion a chwennychant edrych ar y pethau syddi'wdadguddio— a Dafydd a ddywed fod y gyfraith yn cynnwys pethau rhyfedd ; a gweddia am gael ei feddwl wedi ei oleuo er eu ham- gyffred. Ni ddichon un dyn ragori mewn un gelfyddyd neu alwacl heb ymroddi iddi yn hollol. Paham mae un yn deaìl cyfraith yn well nag eraill? Am ei fod yn ymroddi iddi yn hollol. Paham mae y llall yn deall meddyginiaeth? Am ei íbd yn ymroddi iddi yn hollol. Paham mae llywodraethwyr yn deall llywodr- aeth? Am eu bod yn parhaus a chyson gyda'r pethau sydd yn perthyn iddi. Ac er bod gwybodaeth ddwyfol yn gwa- haniaethu mewn rhai pethau oddiwrth bob gwybodaeth naturiol a bydol, nid felly yn hyn. Trwy gyson ymarfer a chynefindra y galluogir y synwyr i wahaniaethu rhwng gwirionedd a chyf- eiliornad, rhwng da a drwg, Heb. 5. 14, ac aros ynddynt. Peth dychrynllyd yw gweled Gweinidog yn ymwneud á dyled- swyddau y weinidogaeth oddiar ddeddf angenrheidrwydd : ymwneud â'r gwaith lieb fod y galon yn y gwaith sydd yn sicr o ddwyn y cyfryw, naill ai yn fuan neu yn ddiweddar, i warth a dirmyg, ac yn bur gyffredin i derfynu yr oes mewn