Skip to main content

Y DYSGEDYDD. AWST, 1845, ,DYSGYBLAETH EGLWYSIG. "Dyma gyfraith y lŷ."—Ezec. 0 bob cymdeithas a ffurfiwyd erioed yn mhlith dynion ar y ddaear, eglwys Crist yw y rhagoraf. Mae i bob cymdeithas eì sylfaenwr, ei rheolau, ei swyddwyr, a'i dybenion. Sylfaenwr yr eglwys Grist- ionogol yw yr Arglwydd Iesu Grist. Ei rheolau ydynt yr Ysgrythyrau santaidd. Ei swyddwyr ydynt esgobion a diacon- iaid. Ei dyben yw gogoniant Duw ac iachawdwriaeth dyn. Cawn yn awr gyfyngu ein sylwadau at reolau y gymdeithas. Gweinyddiad y cyfryw yw dysgyblaeth eglwysig. Tuag at egluro y mater dan sylw, ymdrechwn ateb y gofyniadau canlynol; sef, 1. Pa beth yw dysgyblaeth eglwysig?—2. Yn nghylch pa betbau y perthyn?—3. Gan bwy y mae i gael ei gweinyddu?—4. Pa fodd y dylai gael ei gweinyddu?—5. Pa fath ydyw o ran ei natur?—G. I ba ddybenion yr amcanwyd hi?—7. Pa les- ûd sydd mewn cysylltiadâ'rgweinyddiad ftyddlon o honi ? 1. Dysgyblaeth eglwys yw gweinydd- iad cyfraith Crist, sef y rheolau a roddodd efe i'w ganlynwyr tuag at gadw ei achos yn drefnus, yn brydferth, yn gadarn, ac yn llwyddiannus yn y byd. Eondra digywilydd, a rhyfyg o'r fath waethaf, fyddai llunio rheolau newyddion, ych- wanegu at, neu dynu oddiwrth y cyfar- wyddiadau cynnwysedig yn llyfr Duw. Byddai hyny yn sarhad ar ddoethineb ac awdurdod Crist, fel Dysgawdwr ac fel Brenin Sion. Etto, dylid sylwi taw nid y llythyren, ond egwyddorion y Testa- mentNewydd, ydynt ein harweinyddion. Nid llyfr i un genedl, nac am un oes, yw y Bibl; ond amcanwyd ef at wasanaeth Cristionogion pobgwladac oes o ddydd- iau yr apostolion hyd ddiwedd y byd. 'Ni chyfnewidir y gyfraith, ac ni chwan- egir ati, yn wyneb holl wahanol arferion y byd, a'r gwahanol ddull o ddwyn crefydd yn mlaen dan wahanolamgylch- iadau. Mae cyfraith Crist yn rheoJ uniawn,hebŵyrni—gyfiawn,hebddiffyg. Yr unig reol a addefir gan Lywydd a Barnydd pawb, fel maenprawf cymeriad. Mae gweinyddiad y rheolau hyn wedi ei ymddiried i ddynion ffyddlon, o herwydd paham dylid bod yn hyddysg ynddynt, yn barchus o honynt, ac yn frwdfrydig drostynt. Hyny fyddai dysgyblu yn dda. 2. Mae cyfraith y tý yn cynnwys rheolau yn nghylch derbyniad aelodau, triniaeth y teulu, a diarddeliad y rhai annheilwng. Nid gwaedoliaeth, na chyfoeth, na mawredd daearol, a rydd gymhwysder na hawl i un fod yn aelod yn eglwys Crist; ond gwybodaeth gy- mhesur yn ngair Duw, teimlad difrifol yn nghylch pethau crefydd, a chymeriad diargyhoedd sefydlog ger bron y byd. Ped edrychai yr eglwysi yn fanylach am y cymhwysderau hyn yn y rhai a gyn- nygiant eu hunain i fod yn aelodau ynddynt, cyn gwneuthur derbyniad o honynt, diau y rhagflaenid llawer o warth a gofìd. Nid oes a wnelo dysgyblaeth ag egwyddorion, tueddiadau, ac amcan- ion, hyd oni ddeuant i'r golwg. Duw biau chwilio y galon. Pethau amlwg a roddwyd i ni. Dylid ymdrechu cael pob aelod,hen ac ieuanc.cyfoethog a thlawd. i iawn droedio at wirionedd yr efengyl, i ateb dyben aelodaeth. Dylid cyfar- wyddo ac annog bawb eu gilydd. Mae cyfraith Crist, cariad gwresog, cydym- deimlad, cydymdrech yn mhlaid y ffydd, yn angenrheidiol. Dylid rhybuddio yr afreolus; ac os bydd neb yn parhau yn gyndyn, yn diystyru cynghor a cherydd, ac yn parhau yn anniwygiedig, daugosir yn y gair mai diarddel y cyfryw a ddylid. a'i ystyried fel yr ethnig a'r publican, Diarddeliad yw ypeth diweddaf sydd gan eglwys Crist i wneud ag aelod, ar oi gwneud pob ymdrech i ddwyn y trosedd- wr i edifeirwch, a methu ei ddiwygio. 3. Mae gweinyddiad dysgyblaeth yn perthyn mewn rhan i bob aelod yn yr 2 F