Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. GORPHeFaF, 1845, COFIANT MRS, JANE JONES, TY'NTWR, BETHESDA. Ganwyd Jane Jones Ebrill 27,1810. Ei i'hieni ydynt John ac Elinor Pritchard, Carneddi, ger Bethesda. Yr oeddynt yn aelodau gyda'r Annibynwyr y pryd hwnw yn Rhosyffordd, lle byddent yn addoli cyn adeiladu Bethesda, dan ofal gweinidogaethol y diweddar Barch. D. Roberts, Dinbych; a daliasant yn ffydd- lon gyda'r achos hyd heddyw. Dygwyd Jane i fyny yn grefyddol, a dangosodd fwy o barch i grefydd a chref- yddwyr na'r ieuenctyd yn gyffredin y blynyddoedd hyny; ond bu am ychydig amser heb ddilyn y cyfeillachau cref- yddol yn rheolaidd, eithr nid heb fod a'i meddwl yn wastad gyda'r achos. Yn y fl.1828, rhoddodd ei hun yn aelod cyflawn oeglwys Bethesda, dan ofal y Parch. Ll. Samuel. Yn y fl. 1832, priododd â Mr. Owen Jones, Ty'ntwr. Ganwyd iddynt bump o blant; bu feirw tri o honynt yn y fl. 1840, o fewn mis i'w gilydd. Ei thuedd benaf pan yn blentyn oedd at ganu, a dangosodd chwaeth ryfeddol at y gelfyddyd hon pan yn bur ieuanc. Difyrid ei chyfeillion yn fawr wrth wrando arni yn myned dros ei hemynau. Bu diwygiad mawr ar y canu yn Bethesda er's tua phymtheng mlynedd yn ol; ym- drechodd rhai dynion ieuainc ddysgu nodau peroriaeth. Ffurfiwyd cymdeith- as gerddorawl newydd ganddynt, a der- byniwyd Jane yn aelod o honi; a buan iawn y dangosodd ei medrusrwydd yn dysgu anthemau mawrion a thônau priodol i'w canu mewn addoliad cref- yddol. Bu yn hynod o ffyddlon i ddilyn y cyfarfodydd canu, er fod anhawsderau lawer ar ei ffordd—y plant yn lled fân, ac amryw bethau eraill; er hyny pur anaml y byddai yn absenol hyd nes ei lluddiwyd gan yr afiechyd a derfynodd yn angeu iddi. Cofir yn hir genym yn Bethesda am ei llais hyfryd a'i ffyddlon- deb diflino gyda'r ganghen hon o achos yr Arglwydd. Bu hi a'i phriod yn hynod o ddifyrus i'w gilydd yn y mater hwn, canys yr oedd yntau yn gantor medrus; ond er mor ddedwydd fu y teulu hwn am lawer blwyddyn, nid oeddynt allan o gyrhaedd profedigaethau a helbulon. Effeithiodd yr amgylchiad galarus o farwolaeth y plant yn ddwys iawn ar feddwl Jane Jones; ac yn mhen ychydig o fisoedd ar ol hyn, gafaelodd afìechyd trwm yn ei chyfansoddiad, ond bu yn alluog i godi a myned i'r capel amryw fisoedd, er trwy boen fawr. Ymdrech- odd hi a'i phriod lawer am feddyginiaeth gydag amryw feddygon, ond bu y cwbl yn ofer. Yn mis Medi, 1843, aeth i orwedd yn hollol, a dyoddefodd boenau mawrion yn hynod o amyneddgar ac mewn gwroldeb Cristionogol. Gweddi- odd lawer am fodd i beidio grwgnach, a bod yn dawel yn ei chystudd, gan ystyr- ied llaw yr Arglwydd yn y cwbl; a dangosodd yn amlwg iddi gael ei hateb, canys ni chlywyd yr un gair o duedd rwgnachlyd yn dyfod o'i genau yn ei holl gystudd. Derbyniodd lawer iawn o gysur yn ei chystudd oddiwrth diriondeb ei phriod a'i pherthynasau tuag ati; a byddai ymweliadau ei chyfeillion cref- yddol yn sirioli ei meddwl yn fawr. Bob tro y byddai y cantorion yn ymweled â hi, byddai yn cael y fath hyfrydwch i'w meddwl nes ymddanghosai fel pe buasai wedi ymadael â'i holl ofidiau, gan mor hoff ydoedd o glywed canu. Un ffaith a brawf hyn: pan aethant i ymweled â hi unwaith, dymunodd arnynt ganu Salm 55, a gwrandawodd arnynt yn astud yn myned drosy geiriau, " Clyw fy ngweddi, O Dduw, ac nac ymguddia rliag fy neisyfiad," &c.; ond pan ddaethant at y geiriau, "O na bae i mi adenydd megys colomen! yna yr ehedwn ymaith, ac y gorphwyswn," effeithiasant gymaint arn fel y buasid yn tybied yn yr olwg arn fod ei henaid yn barod i ymadael â'