Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEHEFIN, 1845, COFIANT Y PAECH, DAISTIEL JEIKYN, GWEINIDOG YB EFENGYL YN NHREFGARN OWEN, SWYDD BENFRO. " Y cyfiawn a fydd byth mewn coffadwriaeth."—Salm 112. 6. Ganwyd Daniel Jenkyn* o gylch y flwyddyn 1740, mewn lle a elwir Pwll- melyn, yn agos i Drefgam Owen. Enw ei rîeni oedd Richard a Ffrances Jenkyn; ac yr oeddynt ill dau yn aelodau hardd a íFyddlawn gyda'r Trefnyddion Calfln- aidd; ac nid anmhriodol fyddai nodi yma, eu bod hyd derfyn eu hoes yn gorfod myned can belled ag Woodstock, 12 milldir o ffordd, cyn cael cymundeb, neu fyned tu fewn i furiau yr eglwys wladol i'r cyfryw berwyl, yr hyn beth a wnaent ar droion. Bu iddynt amryw blant,a rhoddasant ysgol ddaiddyntoll, a chelfyddyd hefÿd i'r rhai oedd yn dewis hyny. Crydd oedd Daniel. Pan yn ieuanc, nid oedd yn gwahaniaethu llawer oddiwrth blant y byd yn gyffredin; a phan ddaeth i oedran gwr, priododd. Enw ei wraig oedd Mary Griffith, a bu iddynt un plentyn; ei enw oedd Thomas, yr hwn aeth i'r Amerig pan yn lled ieuanc. Er mai Trefnyddion oedd rhieni Daniel, cafodd ef ei dueddu i ymuno â'r Anni- bynwyr yn Nhrefgarn, a hyny yn mlodau ei ddyddiau. Nis gallaf benderfynu yn awr yr amser y dechreuodd bregethu, ond tebygol yw iddo fod yn bregethwr cynnorthwyol yn hir. Ar ymadawiad y Parch. Mr. Richards (1796) i fyned i Amerig, neillduwyd ef a Mr. Skeel i waith y weinidogaeth yn Nhrefgarn a Phenybont. Neillduwyd William Harris i waith y weinidogaeth yn Solfach a Rhodiad; a Mr. Meyler yn Rhosycaerau, Abergwaun, a Thregetyn, agos yr un dyddiau. Yr oedd y Parchn. George Brynberian, Morgans Henllan, a Griffiths Glandwr, yn mhlith eraill, yn y neilldu- adau uchod. Cymerodd ymadawiad Mr. * Wrth gyfansoddi y Cofiant hwn, nid oedd un bwriad yn mryd yr ysgrifenýdd iddo byth gael ei wneud yn (Cyhoeddus; eithr wrth ystyried ei dynged, sef mai ar ddifancoll yr âi ryw ddiwrnod yn ei ddull presenol, barnwyd yn addas ei drosi i'w gyhoeddi yn y Dysoepydd. Richards le yn y gwanwyn, a'r ymneill- duadau uchod tua gwyl Mihangel yr un flwyddyn. Yr oedd yn wan iawn am weinidogion efengyl yn y parthau hyn wedi ymadawiad Mr. Richards hyd y neillduadau yma. Nid oedd yr un, meddynt, a berthynai i'r Annibynwyr i'w gael yn Nghybydiog.* Mewn can- lyniad i'r neillduadau hyn, ychwanegodd yr Arglwydd lawer at yr eglwysi, o'r rhai, obeithir, ydynt gadwedig: ac nid oedd Trefgarn yn ol ar yr eglwysi eraill yn ei llwyddiant, na, hi yn hytrach oedd yn mlaenaf. Cydlafuriodd y Parch. Daniel Jenkyn a Mr. Skeel yn ddiwyd, flyddlawn, a heddychol, yn y winllan hyd nes y cafodd y blaenaf ei alw oddi- wrth ei waith at ei wobr. Ychydig cyn hyny yr oedd Mr. Griffiths, y gweinidog presenol, yn ddyn ieuanc wedi dyfod i'r ardal; ac nid hir y bu cyn iddo gael ei neillduo i gydlafurio à Mr. Skeel. Yn mhen rhai blynyddau wedi hyn cafodd Mr. Daniel Davies, Castellvilla, ei neill- duo i gydlafurio â Mr. Skeel, a Mr. Griffiths, a bu y tri Pharchedig weinidog yn cydlafurio gyda'u gilydd hyd yr amser yr ymadawodd Mr. Skeel a Mr. Davies i Benybont, gan adael Trefgarn dan ofal Mr. Griffiths, yn y flwyddyn 1822. Er na fu y Parch. D. Jenkyn mewn un athrofa, etto yr oedd yn ddyn o wybodaeth eang, ac yn bregethwr gall- uog. Y mae llawer o bregethwyr yn enwog yn yr areithfa, ond nid ydynt felly wedi dyfod oddiyno: ond am D. J., yr oedd ef yn pregethu yn ei fuchedd bob amser ac yn mhob man; hyn, yn nghyda'r hyn ydoedd fel pregethwr, mewn gwedd arall, a'i gwnai yn breg- ethwr mawr. Yr oedd yn sefyll ar dir lled uchel fel duwinydd, ac yn hyn y * Cantref yn eir Benfro o'r enw.