Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MAI, 1845, COFIANT HENRY ROWLANDS, DEILDRE-ISAF, LLANUWCHLLYN. Ganwyd H. Rowlands yn y Deildre- isaf, yn y flwyddyn 1764. Ei rieni oeddynt Rowland a Margaret Evans, y rhai, gan eu bod heb weled ond ychydig o werth crefydd eu hunain, nid oeddynt yn gofalu llawer am ddwyn eu plant i fyny yn ffyrdd crefydd a duwioldeb. Cychwynodd yntau ei yrfa yn lled eofn ar hyd y " ffordd lydan;" ond pan tua •22ain oed dechreuodd arafu ychydig, ac ystyried ei ffyrdd, pryd y newidiodd ei ddull o fyw; gadawodd ei hen ddigrif- wch a'i hen gyfeillion, dechreuodd ym- wasgu à phobl yr Arglwydd, ac yn y flwyddyn 1787 derbyniwyd ef yn aelod o eglwys Dduw yn Hen Gapel Llanuwch- llyn, yr hon oedd y pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y Parch. A. Tibbot, o'r hon y bu yn aelod gweithgar hyd derfyn ei oes; Ue hefyd y ffyddlon gyflawnodd y swydd o ddiacon dros agos i ugain mlynedd. Yr oedd ei iechyd er's tro wedi anmharu yn fawr, ac arwyddion amlwg fod ei babell yn parhaus ddad- feilio, ond ni bu yn cadw ei wely, oddi- eithr ar achlysuron, hyd o fewn wythnos i'w farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Chwef. 5, 1843. Gadawodd ar ei ol sail gref i hyderu fod marw yn dragwyddol elw iddo.—Yr oedd y rhinweddau can- lynol mewn modd neillduol i'w canfod yu ei nodwedd. Bu trwy ei oes yn ymdrechgar a îlafurus er cyrhaedd gwybodaeth. Nid yn unig yr oedd yn meddu ar synhwyrau a galluoedd dirnad cryfìon, ond def- nyddiai hwy i chwilio am wybodaeth trwy bob moddion cyrhaeddadwy; dar- llenai lawer, ac ni byddai fel rhai yn foddlawn ar ddarllen neu glywed yn unig, ond bob amser ymdrechai ddeall yr hyn a ddarllenai neu a glywai, ac yr oedd ei wybodaeth yn cynnyddu fel yr oedd manteision gwybodaeth yn cyn- nyddu; canlynai yr oes: ac, yn ẁyneb ymddygiadau gwahanol mewn eraill, ymddygodd ef yn gydweddol ag un yn proffesu cymeryd Gair Duw yn rheol, a barnu drosto ei hun yn ei wyneb. Ymhyfrydai yn fawr mewn cyfranu gwybodaeth i eraill. Diau y teimla pawb ystyriol golled ar ei ol yn yr Ysgol Sab- bathol, y gymdeithas neillduol, &c. Cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn y fraint o fod yn aelod o'i ddosbarth yn yr Ysgol Sabbathol dros amryw flynyddau, a gall dystio ei fod yn un o'r cyfleusderau mwyafmanteisioli gynnyddumewn gwy- bodaeth ac ysbryd efengylaidd. Byddai wrth ei fodd pan y cai gyfle i gyfranu addysg; ac er nad oedd yn meddu ar yr hyn a ystyria rhai yn ddawn ymadrodd hwylus, etto cyflëai syniadau grymus yn y meddwl gyda llawer mwy o ddeheu- rwydd nag y gwnai llawer a fynent eu cyfrif yn mhell tu hwnt iddo ef o ran ffraethineb ac ystwythder ymadrodd. Yr oedd yn nodedig am ei ddirodres- rwydd a'i wroldéb. Ymddangosai mai ychydig iawn o ofn dynion oedd arno; dywedai ei feddwl, pryd y byddai hyny yn angenrheidiol, heb betruso, a gellir dweyd mai ei nodwedd cyffredin yn yr ystyr hwn oedd glynu yn ddiwyro wrth ei egwyddorion a'i gyfeillion, er gwybod y byddai i hyny achlysuro anfantais iddo. Ffyddlon gadwai ei gydgynnulliad. Byddai yn mhob moddion, Sabbathol neu wythnosol, nos neu ddydd, braidd, a phob amser yn brydlon ; a pharhaodd felly hyd ei ddyddiau olaf. Buasai ei oed a'i wendid ef yn fwy na digon o esgus gan lawer un dros esgeuluso ei gydgyn- nulliad, mae yn ddiammau; ond yr oedd ei ymlyniad ef yn gymaint vvrth bethau crefyddol, fel, er ei holl anfanteision, mai anfynych iawn y gwelwyd ei le ef yn wag yn nghynnulliadau ei frodyr hyd ei ddyddiau olaf. Y mae ef wedi marw yn llefaru etto,—Byddwch ddilyn- wyr i mi mor bell ag y bum i yn ddilyn- wr i Grist. E. T. Dayies.