Skip to main content

Y DYSGEDYDD. EBRILL, 1845, COFIANT Y DIWEDDAR JOHN HUGHES PURGATÜRY, NEWMARKET, SWYDD FFLINT. Hyfryd iawn genym ddarllen ein Biblau er gwybod pa beth mae Duw yn ei ddy- wedyd ; a buddiol genym hefyd ddarllen cyhoeddiadau misol a phapyrau geirwir, er gwybod pa beth mae Duw yn ei wneuthur. Mae cael hanes bywydau dyuion gwerthfawr a defnyddiol fel ail- argrctffiad o air Duw, neu, megys prawf newydd ac amlwg o ddwyfoldeb yr ys- grythyrau. Dengys i ni wirioneddol- rwydd y grefydd Gristionogol, bod y drefn gyfryngol, peiriant achub, mor nerthol ag erioedj a dengys fod ein Harglwydd, yn awr, yn ymddangos ger bron JDuw drosom ni—a chan ei fod ef wrth ei swydd tu mewn, yn y cysegr, dylem ninnau fod gyda'i waith yntau. Y fath yw sefyllfa dywyll, lygredig, a chnawdol ein hoes a'n gwlad, fel yn fwyaf cyffredin y dynion balchaf, creu- lonaf, ffieiddiaf, a melldigedigcaf, a gânt eu cyfodi a'u hanrhydeddu, a chof- golofnau eu hadeiladu, er mwyn bytholi eu henwau ar ol eu claddu! Y bobl a ddyrchafasant eu hunain trwy sathru eraill, trwy achosi i fìloedd o fechgyn tlodion gael eu lladd mewri rhyfeloedd, a thrwy yspeilio bywydau a meddiannau y diniwaid,—i'r rhai hyny y cyfodir y cof-golofnau uchelaf yn y byd gwael a llygredig hwn! Os nad oes adgyfodiad a byd dyfodol, truenusaf o bawb ydym mewn ystyr: ond credwn yn ddiysgog fod enw y duwiol i fod byth yn fendigedig, ond enw yr annuwiol i bydru. Yn yr ychydig a ddywedaf yn awr am fy hen gyfaill John Hughes, ymdrechaf beidio myned i'r eithafion cyffredin, sef cynnyg cyfodi y trancedig ar y draul o iselu a dirmygu eraill. Ymddengys bywgraffiadau yn dra dirym a diwerth, pan y maent felly—wrth geisio profi gormod, methu profì dim yn gywir a nerthol. Ganwyd fy hen gyfaill yn y Purgatory, Newmarket, Rhagfyr 17,1788. Ei rieni Edward ac Anne Hughes, yn analluog ac anghyfìeus iddynt roddi ysgol ddydd- iol i'w plant, gan hyny ni chafodd ef y fantais anmhrisiadwy o gael addysg o'i febyd. Bu farw ei dad yn fuan, a gorfu iddo yntau fyned at wailh caled ac afiach pan yn hogyn ieuanc, a bu yn weithiwr da a ffyddlawn, yn fab tyner a thirion i'w fam, yn frawd serchog a gofalus, ie yn debyg i dad caredig at ei frodyr a'i chwiorydd amddifaid hyd ei farwolaeth. Er fod y teulu yn lled foesol a pharchus, a chysylltiedig â'r Eglwys Wladol, ond y modd y daeth ef i ragori ar y teulu, ac ar ei gymydogion, ydoedd trwy fenthyca llyfrau da, ymneillduo oddiwrth ei gyf- oedion gwyllt ar y Sabbathau, darllen, myfyrio, barnu drosto ei hun, &c. Er bod heb fanteision helaeth at gyrhaedd addysg cyfifredin na chrefyddol, etto trwy ei ymdrech a'i ddiwydrwydd, ac oblegid fod ganddo alluoedd naturiol lawer cryfach na'r cyffredin, daeth yn ysgolhaig tra chyflawn, yn alluog i ddeall awdwyr Saesonaeg, ysgrifenu a chyfeillachu hefyd yn yr iaith Saesonaeg. Pan o 18 i 20 oed, daeth yn wrandaw- wr rheolaidd ac astud ar y Parch Thomas Jones, ac i ymarfer â phob moddion gras. Yr oedd y gyfeillach eglwysig y pryd hyny yn nhý y gweinidog, ac un nos Iau daeth hen ŵr teilwng heibio i J. H., ac a'i cymhellodd gydag ef i'r gymdeithas grefyddol, yntau a ufudd- haodd yn siriol; a buan y canfyddwyd ei alluoedd cryfion, ei gynnydd mewn gwybodaeth, a'i awydd i fod yn ddef- nyddiol. Cymhellwyd ef cyn pen llawer o flyu- yddau i arfer ei dalent a'i ddawn fel pregethwr cynnorthwyol, a bu yn llafurus a ffyddlawn iawn hyd ei farwolaeth—yn cydlafurio, trwy bregethu gyda'r gweini- dog trwy yr holl ardal, ac yn dra ufudd a pharod i fyned i gapeli cymydogaethol pan y gelwid ef.