Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. COFIANT MR, WILLIAM JONES, CEIDIO, SIR GAERYNARFON. Y mae dodi hanes dynion a fu yn enwog, mewn rhyw ffordd, gyda chrefydd, yn beth adeiladol a bendithiol. Y mae rhy fach o sylw wedi cael ei dalu i hyn o dro i dro, ac felly collwyd coífadwriaethau llawer o rai y buasai yn werth eu bod ar gael i'r oesau a ddeuant. Ganwyd Mr. William Jones, gwrth- ddrych ein cofiant presenol, yn Rodwin, plwyf Llangian, o deulu parchus; nid ymddengys iddo gael manteision cref- yddol yn more ei oes; yr oedd efe yn 31 oed pan ymunodd ag eglwys Crist; yr oedd y pryd hwnw wedi priodi â Diana Grace Earnes, merch Mr. Rowland Earnes, Treferwin, plwyf Llandudwen, yr hon a fu yn briod ffyddlawn ac ymgel- eddgar iddo hyd ddiwedd oes, ac a adawyd i alaru ei cholled ar ei ol. Yn y Cwm, Llanhaiarn, y trigai pan y cyf- lwynodd ei hun i wasanaeth ei Ar- glwydd. Symudodd o'r Cwm i Geidio, yn mhen y ddwy flynedd wedi iddo ym- uno â chrefydd, lle yr arhosodd hyd derfyn ei einioes. Nid oedd un aelod perthynol i enwad yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hòno pan aeth Mr. W. Jones yno i breswylio; ond cafodd ef yr hyfrydweh o weled adeiladu Penuel Ceidio; Soar Nefyn; a Beerseba Tyd- weiliog; a chafodd y rhagorfraint o roddi help i hwyluso ffordd cerbyd yr efengyl yn mlaen mewn amryw foddion. Bu i Mr. a Mrs. Jones chwech o blant; bu un ferch farw yn ei babandod. Y mae pedwar mab ac un ferch yn fyw; un mab, sef Mr. William Jones o'r Cwm, a'i ferch, sef Mrs. Edwards, gwraig y Parch. Samuel Edwards o Fachynlleth, yn dilyn achos y Gwaredwr. Hunodd Mr. Jones mewn oedran teg, Rhagfyr 16, 1840, yn 66 mlwydd oed, er galar mawr i'w briod, eiblant, a'i gymydogion. Yr oedd Mr. Jones yn Gristion selog a ffyddlawn; ni adawai byth i bethau bach na mawr sefyll ar ei ffordd gydag achos yr efengyl. Nid oedd yr achos yn Ngheidio ond bychan mewn cymhariaeth —ond ni ddigalonodd hyny ddim ar yr hen bererin hwn yn ei yrfa. Glynodd gydag ef hyd y diwedd, mewn ardal lle yr ydoedd "y sect hon" yn cael "dy- wedyd yn ei herbyn" gan laweroedd. Y mae yn wir y cawsai gwr yn amgylch- iadau Mr. Jones lawer mwy o gyfeillion pe yr ymunasai â'r enwad a feddai y flaenoriaeth yn yr ardal; ond boddlon- odd i fwrw ei goelbren yn mysg tlodion gyda'r Annibynwyr; a gellir dywedyd iddo lenwi cylch mawr. Cadwai ddrws agored am flyneddau lawer i weision Crist a'i achos. Pob help a allai, efe a'i rhoddai; ac yr oedd un peth nodedig yn nglŷn a'i amgylchiadau ef, canys yr oedd ganddo fodd i wneud bach a mawr, tlawd a chyfoethog yn gysurus ar eu teithiau. Ni theimlai efe byth ei hun yn fwy hyfryd nag yn ngwmni gweini- dogion yr efengyl. Byddai efe yn barod bob amser i'w hol a'u danfon ei hun gyda'i geffylau a'i gig pan yr ymwelent â'r ardaloedd. Y mae drws Ceidio yn agored etto; bydd yn dda gan Mrs. Jones, a'i mab Mr. Rowland Jones, weled wynebau cenhadon yr efengyl pan ddelont yn agos. MR. RICHARD JONES, LLANIDLOES. Mak yn ddiammau fod grym a dylanwad mewn esiampl dda, ac mai dyna yw un rheswm fod y Bibl yn cynnwys cymaint o hanes am rai fu gynt yn enwog mewn ffydd a duwioldeb; ac am hyny y mae yn ddyledswydd arnom gofnodi rhin- weddau rhai fu yn ddefnyddiol gydag achos y Gwaredwr, fel gwrthddrych y cofiant hwn. Ganwyd Richard Jones yn y flwyddyn 1776, yn agos i Fachynlleth, swydd Drefaldwyn. Yr oedd o rieni lled isel