Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. OHWe'ÍROE, 1845, COFIANT NEHEMIAH ROBERTS, Ganwyd ef yn 1812. Enw ei rîcni oeddynt Thomas a Hannah Roberts yn Mostyn. Magwyd ef yn yr Ysgol Sab- bathol. Gwyllt a lled anwaraidd ydoedd yn ei ieuenctyd. Cymerodd ei ddy- chweliad le fel y canlyn. Fel yr oedd ef a'i frawd Robert (yr hwn hefyd sydd bregethwr yn awr gyda'r Annibynwyr yn Mostyn) yn myned i'r ysgol ar fore Sab- bath rhewllyd yn y gauaf, temtiwyd hwynt ill dau i fyned i lithro ar rew yn lle myned rhag eu blaen. Yr oedd eu Biblau o dan eu ceseiliau pan yn chwareu fel hyn. Daeth hynafgwr heibio o'r enw John Jones, yr hwn oedd yn myned i'r ysgol, ac anerchodd hwynt, "Pa beth! a'i chwareu yr ydych ar ddydd Duw, a'r barnwr o dan eich cesail?" Synodd yn ddwys wrth yr anerchiad, cafodd argraff ddwfn ar ei feddwl, a dywedodd wrth ei frawd, " Fy mrawd, ydym yn haeddu ein damnio byth—ni sleriaf mwy ar y Sabbath." Yr oedd o gylch 14eg oed y pryd hwn. Buan wed'yn gwnaeth broffes o Fab Duw trwy ymuno ag eglwys y Trefnyddion Calfìnaidd. Coffùi am hyn yn fynych yn ysbaid ei oes, a dywedai os cai byth fyned i'r nefoedd mai un o'r pethau cyntaf a wnai fyddai rhoddi llon-gyfarch- iad i John Jones. Peth da yw gair yn ei bryd. Nid hir y bu heb iddo gael ei alw i anerch Gwrandawwr gweddi mewn cyf- arfodydd. Barnodd llawer ei fod yn meddu ar gymhwysder i fod yn fwy cyhoeddus gyda'r gwaith, a chymhell- wyd ef i ddarparu at hyny. Yr oedd ynddo yntau gryn awydd i bregethu Crist. Ond cyfododd rhwystrau annys- gwyliadwy, ac attaliwyd ef i ymaflyd yn y gwaith. Daeth amgylchiadau i alw am ei symudiad o Mostyn i Bagillt. Yno barnodd mai ei ddyledswydd oedd ymuno ù'r eglwys o dan ofal y Parch. B. Evans. Buan wed'yn y cafodd ganiatàd i arfer ei ddawn fel pregethwr, a bu yn ffyddlon ac yn ddefnyddiol hyd ei ddiwedd. Symudodd i'r Maesglas er .cyfle i ddilyn ei orchwyl fel glöwr. Tra gyda'i orchwyl, syrthiodd darn craig o anferth bwysau ar ei gefn, a chariwyd ef adref wedi briwo yn dost. Bu yn ymboeni am rai dyddiau, ond yr oedd ei synwyr ganddo, ac yr oedd ei leferydd yn tyst- iolaethu yn groyw am Grist a'i ras. Dywedai wrth ei frawd " fod y mater mwyaf wedi ei benderfynu er's blynydd- oedd—fod ganddo fywyd wedi ei guddio gyda Christ yn Nuw, allan o gyrhaedd angeu a diafol." Anerchai weinidog a ymwelai ag ef—" Pregethwch Grist; daliwch i bregethu Crist; y mae efe yn werth i'w bregethu—yr wyf fì yn ei brofi felly yn awr." Gofynai gweinidog iddo pa fodd yr ymdeimlai, atebodd, "Da iawn—y mae pob gwaith wedi ei orphen —nid oes genyf ddim yn y byd i'w wneuthur ond marw—y mae hyny yn llawn digon o waith ar unwaith." Fel hyn y bu yn gorfoleddu yn Nghrist, yn canu hymnau, ac yn cymhell pawb oddiamgylch iddo i geisio crefydd iawn, hyd nes yr ehedodd ei ysbryd i fyd tragwyddol ar ddydd Mawrth, Tachwedd 5,1844. Claddwyd ef y Sadwrn canlynol, a dilynwyd ei gorff gan dyrfa luosog iawn o'r rhai a'i parchent yn ei fywyd. Gad- awodd weddw ar ei ol. Ei NODWEDD. Un tra darllengar ydoedd, yn neillduol y Bibl. Un hoff o ymddyddanion crefyddol ydoedd—gyda'i gydweithwyr. Un mawr meicn giceddi ydoedd. Caf- wyd ef lawer gwaith mewn conglau dirgel yn y gwaith yn penlinio o flaen y Goruchaf. Bu oriau lawer noson oer yn y goedwig, ger Mostyn, yn myfyrio ac yn gweddio. Un llarìaidd iawn ci dymher ydoedd. Yr oedd mwynder ar ei wedd a'i ymad- roddion. Un o dymher naturiol gwyllt ac afrywiog, ond dengys ei ngwedd ef