Skip to main content

Y DYSGEDYDD. IOffAWR, 1845, MERTHYEDOD JOHi\ PEIEY, "I shall be;r to propose whethcr there be anything more directly opposite to the doctrine and practice of Jesus Christ, than to use any kind of t'orce upon men in jiiatters of religion, and, consequently, whether thoee that prnctice it, let them be of whut church or sect they please, oufrht not justly to be called antichristian!"—Duke of Bucjunoham. Y"r ydym wedi ein cynnefino o'n mab- andod â son am erledigaeth, ac am erchylldra y driniaeth a gafodd dynion da yn achos eu crefydd; ond yn wastadol tadogid pob erlid, a lladd, a llarpio, ar Babyddion—pwy bynag oedd yn euog, hwy a fyddai dan y gyrdd. " Mari waedlyd" ac "Elisahcth rinweddol" oeddynt enwau a seinid gyda chryn dinc yn gyffredin i'n clustiau. " Ni anwyd mo Elisabeth ond i deyrnasu, ac ni anwyd mo Mari ond i dywallt gwaed," a glywid yn fynych iawn o bulpudau, nes yr oedd casineb a dychryn wedi ei wreiddio yn ein meddwl atbob Pabydd— dychymygera mai dyn â chwlbren a dagr a fyddai hwnw, lle bynag y cyfarfyddid ef. Ond wedi edrych yn bwyllog i hanes y ddwy, ceir eu bod yn chwiorydd per- ffaith mewn ychwaneg nag un ystyr. Erlidiwyd a merthyrwyd saint y Duw goruchaf gan Eglwys Loegr yn amser Elisabeth, yn gystal a chan Eglwys Rhufain yn amser Mari. Un o ebyrth Eglwys Loegr oedd John Penry: "Cy- mro o waed coch cyfa." Rhoddwn yr hanesyn eilythyrau ef eihun, darlleniad pa rai sydd yn ddigon a hollti calon o graig. Cyhuddid ef gan un Daniel Buck, scrivener y Borough of Southwark, o fod yn pregethu mewn týyn Islington, ac yn gweini yr ordinhadau yno, &c. heb Gom- mon Prayer! Daliwyd ef ar yr 21ain o Fai,1592, a chollfarnwyd efam eiriau na chyhoeddwyd erioed. Anfonodd lythyr o'rcarchar, "At gynnulleidfadrallodus a ffyddlon Crist yn Llundaìn, a'r holl aelod- au, pa unbynag ai rhwym ai rhydd," o'r hwn ymae yr hyn a ganlyn yn dalfyriad: " Yr wyf fi yn tystio, modd y gallwyf roddi cyfrif ger bron Icsu Grist, a'r etholodig angyl- ion, na welais i wirionedd erioed eglurach na'r dystiolacth hon wyf yn ei chyhoeddi, yn erbyn swyddau gau — urddas—gwcithredoedd—ufudd- dod ysbrydol i ddichcllion y tywyllwch gan swyddwyr gwladol yn enw crefydd—yn erbyn cymysgiad o bob math o gymeriad mewn cjm- deithas eglwysig—yn erbyn addoliad hanncrog i'r Gwaredwr, &c. Ac yr ydwyf yn diolc-h i Dduw, fy mod yn barod i fyned i garchar neu rwymau, îe hyd yn oed i angeu, dros yr egwydd- orion hyn, drwy ei gymhorth ef! O fy mrodyr, y mae arnaí' chwant i'm dattod, a byw gyda Brenin bendigedig y nef, gydag Iesu Grist a'r angylion, gydag Adda, Enoch, Noah, Abraham, Moses, Job, Dafydd, Jeremiah, Daniel, Paul (apostol mawr y ccnhedloedd), a'r holl saint— gyda brenhinoedd, prophwydi, merthyron, a thystion Iesu Grist o ddechreuad y byd, ac yn neillduol gyda'm dau anwyl frawd, Mr. Henry Barrow a Mr. John Greenwood,* y rhai, yn ddiweddaf oll, a seliasant y dystiolaeth hon â'u gwaed. A rhaid i mi gyfaddef wrthych, fy anwyl frodyr a'm chwiorydd, pe cawn fyw yn y byd oes Methuselah ddwywaith drosodd, mewn cj-- maint hj frydwch ag a fwynhaodd Pedr, ac Iago, ac Ioan, ar ochr y mynydd, ac wedi y bywyd hwn i gael sicrwydd o'r nefoedd yn y diwodd am wadu y dystiolaeth hon, na allwn er hyn oll gilio oddiwrth y gwirionedd a gjhoeddais yn barod." Yn mhen wyth niwrnod wedi y dded- ryd, ar y diwrnod y derbyniodd y sirydd y warrant am ei ddienyddiad, dygwyd ef yn y prydnawn allan o'r Queen's Bench Prison,yn Southwark, a chrogwyd ef yn St. ThomasWatering's! Felly y coron- wyd yr Anghydffurfiwr hwn â mertbyr- dod, am air Duw a thystiolaeth Iesu Grist. Cyhoeddodd yr ardystiad isod i'r Lord Treasurer, cyn ei ddienyddiad, sy'n cynnwys hanes pwysig, yn nghydag un o'r darluniadau mwyaf cyffrous yr edrych- odd ein llygad arno erioed ! Brawd o'r un gwaed â ni fel Cymro—brawd o'r un egwyddorion â ni fel Anghydffurfiwr—a brawd o'r un ysbryd â ni fel Cristion. " Dyn ieuanc ydwyf fi, wedi fy ngeui a'm magu rhwng mynyddau Cymru. Myfi yw y cyntaf, wedi yr adfywiad diweddar ar achos yr efengy!, a lafuriodd i hau yr had gwerthfawr ar y myn- j-ddau Ilwydion hyny. Llawemchais yn fawr, • Yr ocdd Barrow n Greenwood, y merthyron eyntaf o'r Ann'hydffurfwyr i {rynddaredd Eglwys Loegr, newydd ddvoddef o'i tíaen.