Skip to main content

Y DYSGEDYDD. RHAGFYR, 18 44. UNDEB CRISTIONOGOL. Un o arwyddion goreu yr amserau yw fod Undeb Cristionogol yn cael cymaint o le yn meddyliau, a gweddiau, ac ysgrifen- iadau Cristionogion. Y mae fod y fath wýr a Harris, a Hoppus, a Noel, a Leif- child, a James, a Hamilton, ac Alexan- der, wedi eu cydgynhyrfu i gyd-dderch- afu eu llef o'i blaid, yn argoel goleu nad hir iawn etto y caiff cynhenau, cenfìgen- au, llidiau, ymrysonau, goganau, hus- tingau, ymchwyddiadau, anghydfydd- iaethau, warthruddo eglwys Dduw. Gan obeithio y bydd i'r ychydig linellau a ganlyn dueddu, yn eu graddau, i wasan- aeth yr un achos teilwng,—ac na bydd ynddynt, o leiaf, ddim yn tueddu i'r gwrthwyneb, cynnygiwn sylwi ar I. Natur Undeb Cristionogol. Y mae o bwys i wybod yn mha beth y mae gwir Undeb yr Eglwys yn gynnwysedig. Y mae llawer yn tybied ei fod y peth nad yw,acoganlyniad yn meddwlei fod y lle nad oes mo hono; ac ar y llaw arall yn meddwl nad oes mo hono lle y mae mewn gwirionedd yn bod. Rhag camgymeryd, sylwn,— Nad yw Undeb yr Eglwys yn gofyn ein bod oll yn un enwad. Nid wyf yn dweyd nad felly y dylem fod, ac nid wyf sicr nad felly y byddwn ryw bryd, "abod galw y dysgyblion yn Gristionogion" etto megys cynt. Ond dichon yr eglwys fod yn un enwad, ac etto heb ddim undeb; a dichon yr eglwys fod yn wahanol enwadau, ac etto "oll yn un." Y mae'r fyddin oll yn un, er fod ynddi wahanol ddosbarthiadau. Ymaebyddin yr Oen oll yn un, er fod ynddi wahanol enwadau, a phob gwir aelod o honi yn fllwr da i Iesu Grist. Nid yw Undeb Cristionogol yn gofyn ein bod oll o'r unfarn. Nid oedd pawb yn Rhufain o'r un farn, er eu bod yn "anwyl gan Dduw, ac wedi eu galw i fod yn Baint." " Y mae un yn barnu diwrnod uwchlaw diwrnod; ac arall yn barnu pob diwrnod yn ogyfuwch." Yr oedd Paul yn goddef hyny. "Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun." "Y mae un yn credu y gall fwyta pob peth ; ac y mae arall, yr hwn sydd wan, yn bwyta dail. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta ; a'r hwn nid yw yn bwyta, na farned ar yr hwn sydd yn bwyta; canys Duw a'i derbyniodd ef." Ac os Duw a'i derbyn- iodd ef, pwy a feiddia ei wrthod? "Yr hwn sydd wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, nid i ymrafaelion rhesymau." Nid yw Undeb yr Eglwys yn gofyn ein bod oll yn ymgadw at yr unffurf. Gall- wn fod "oll yn un" heb ymagweddu yr un fath—heb wisgo yr un fath—heb eirio yr un fath wrth weddio a phregethu— wrth ganu a chymuno. Amryw ò&omau, amry w weinidogaethau, ac amry w weith- rediadau sydd yn eglwys Crist, ond yr un Duw, yr hwn sydd yn gweithredu pob peth yn mhawb. " Mae y fath beth a "Deddf Uuffurflad;" ond gvvyr pawb fod llai o undeb yn yr enwad a'i pi'au nag un enwad arall o grefyddwyr yn ein gwlad. Y mae gwir Undeb Cristionogol, 1. Yn undeb ysbryd. " Undeb yr Ysbryd yn nghwlwm tangnefedd." Un- deb ysbrydol. Undeb o weithrediad yr Ysbryd Glan yn adnewyddu ysbrydoedd dynion nes eu gwneud yn un—yn meddu yr un anian—yr un dymher—yr un teimlad;—yr un cariad tuag at Dduw, tuag at eu gilydd, a thuag at bawb. Felly yr oedd hi gynt: " A lluaws y rhai a gredasent oedd o un galon, ac un enaid" —fel pe na buasai dim ond " un enaid " rhyngddynt oll—dim ond un ysbryd yn eu hysgogi i gyd. Yr oedd eu calon "fel calon un gwr." 2. Undebffydd. " Hyd oni ymgyfar- fyddom oll yn undeb ffydd a gwybodaeth 2 Y