Skip to main content

Y DYSGEDYDD. TACHWEDD, 1844 COFIANT DWY CHWAER GREFYDDOL, Profiad cannoedd yn Nghymru ydyw fod crefydd yn cenedlu teimladau gwa- hanol yn y meddwl dynol i ddim arall. Yn ei gafael y dywed llawer, "Penaf peth yw doethineb." Mae ganddi Dduw yn wrthddrych, y Bibl yn rheol, cariad yn egwyddor, a gogoniant Duw yn ddyben blaenaf. " Nid oes dim yn fychan mewn crefydd: nid oes dim yn fawr heb grefydd." Rhagora crefydd ar bobpeth a welir, cymaint ag y mae pethau ysbrydol yn rhagori ar bethau naturiol, cymaint ag yw nefoedd yn well na daear, a chymaint ag yw Duw yn well na dyn. " Gwerthfawrocach yw hi na gemau; a'i chynnyrch hi sydd well nag aur coeth," sef yr aur goreu yn mhlith yr Iuddewon. "Pren bywyd yw hi," &c. Mae bywyd yn ei gwreiddyn, ei changau, a'i dail. Nid pren Iieb íîrwyth, cwmwl heb ddwfr, na lamp heb olew ydyw; ond y mae yn sylwedd didwyll a diledrith. " I beri i'r rhai a'm carant etifeddu sylwedd." Mae ganddi berthynas â Duw, mae ynddi wybodaeth o Dduw, nid penboethni ydy w ; mae yn aberth yn y fuchedd, nid ffurf a phroffes ydyw. Mae mewn gwir grefydd gysegriad o holl serchiadau y galon i Dduw fel gwrthddrych parch a chariad, rhoddiad ifyny hollgynneddfau yr enaid i reolaeth ei gyfraith. Mae ganddi hyfdra ynddo, ufudd-dod iddo, a mwynhad o hono. Mae ynddi gymdeithas â'r Drindod. " Os câr neb fi, efe a geidw fy ngair; a'm. Tad a'i câr yntau, a nyni a ddeuwn ato, ac a wnawn ein trigfa gydag ef." Mae ganddi y gymdeithas ogoneddusaf, a'r egwyddorion puraf; mae yn adnewyddu yr enaid i'r ddelw hawddgaraf, ac y mae yn dyrchafu i'r drigfan uchaf;—y nefoedd yw ei diwedd. Bydd un awr o fwynhad o Dduw yn y nefoedd yn ddigon o dàl am holl daith yr anialwch. Mae crefydd yn dyfod a phobl i garu eu gilydd yn well nag o'r blaen. Mae priod yn caru priod, cymydog yn caru cymydog, plant yn caru rhieni, a rhieni yn caru plant, yn well. Mae yn gwneud pawb o'i pherch- enogion yn anwyl o'u gilydd, yn eu tynu yn nes at eu gilydd, yn eu tynu yn nes at Dduw, ac yn nes i'r nefoedd bob dydd; mae ganddi filoedd ar y ffordd yn myned, a miloedd wedi cyrhaedd eu cartref. Yr oedd dwy chwaer grefyddol yn perthyn i'r eglwys Annibynol yn Llan- ddeusant, Môn, y rhai a berchid yn fawr gan yr eglwys a'r gymydogaeth; sef Mrs. Roberts, Half-way; a Mrs. Williams, Shop, Llanddeusant. Yr oedd Mrs. Roberts yn perthyn i deulu parchus, ac yr oedd yn un o ysbryd mwyn, bon- eddigaidd, ac anwyl iawn. Cefais y fraint o'i gweled yn troi ei hwyneb gyntaf at bobl yr Arglwydd. Y tro cyntaf y daeth i'r gyfeillach oedd yn Llanfachreth, mewn cyfarfod misol; wedi hyny aeth i Eglwys y plwyf am rai misoedd, am ei bod wedi arfer gyda'i theulu gynt, ond buan y dangosodd nad oedd yn foddlawn ar y grefydd hòno, a daeth atom dra- chefn i Landdeusant. Dangosai wrth ymarfer â moddion gras ei bod yn cael ei boddloni yn fwy bob Sabbath, a bod egwyddorion crefydd y Testament New- ydd yn gwreiddio yn ddyfnach yn ei meddwl, a'i bod wedi gwneud tý ei Duw yn gartref; ond nid hir y bu heb gael gwybod fod yn rhaid iddi fyned i'r tŷ tragwyddol yn y nefoedd. Gadawodd briod a phlentyn, mam, brodyr, a chwiorydd, i wylo ar ei hol, yn nghyda lluaws o gyfeillion crefyddol a chymyd- ogion parchus. Yr oedd Mrs. Williams yn wraig rin- weddol, yn perthyn i deulu enwog, ac edrychid arni yn anwyl iawn gan yr holl eglwys. Yr oedd achos y Gwaredwr yn 2 s