Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. HYDREF, 1844 COFIANT MRS, ANNE JONES, CEFNGWIRGRIU, OER ABERHOSAN. Ystyriwyf mai gorraod o hyfdra raewn undyn yw meiddio gwlychu ei ysgrifell yn " enaínt gwerthfawr rhai rhagorol y ddaear" er arliwio enw y drygionus i ymddangos, ar ol ei ymadawiad â'r byd hwn, yn beth hollol wahanol i'r hyn oedd mewn gwirionedd tra mewn byd o brawf. Haera rhai bod cadw at y "por- tread" wedi myned yn eithriad yn y dyddiau hyn, a thrwy hyny fod yn ddyledswydd ar bawb roi i fyny ysgrifenu bywgraffiadau o un math, am eu bod, (er yn dda yn wreiddiol) yn arwain llawer i feddwl fod ymadawiad à'r byd hwn yn gweithio math o gyfnewidiad yn nghy- meriad yr ymadawedig, ag sydd yn rhoddi sail canmoliaeth i'r bywgraffydd. —Mae yn ofynol cael 11 aw gelfydd, a chalon wenieithus, a chydwybod seriedig, at y gorchwyl o wisgo celain farw i bob rhinwedd, â chyfiawnder y saint. Ond, yn lle rhoddi heibio, ymdrechir rhoddi siampl er diwygio: yr hyn a wnaeth hon a hysbysir am dani hi. Merch hynaf William ac Elizabeth Bebb o Brynaironuchaf, Llanbrynmair; a chwaer i Mrs. Davies, Rhiwlas, ger Machynlleth, a Mrs. £zeciel Hughes, talaeth Ohio, Gogledd America, oedd gwrthddrych y Cofìant hwn. Daeth i'r byd helbulus hwn yn y flwyddyn 1774. Gwenodd Rhagluniaeth ddwyfol arni; rhoddes gorff iach a hardd iawn iddi: arliwiodd ei gruddiau â rhosynau, a'i chorff â pheiriannau llafar rhagorol, fel y cymhwyswyd hi gan natur a chelfydd- yd i fod yn enwog mewn canu mawl i Awdwr pob rhodd berffaith a phob rhoddion daionus. Cafodd fanteision gwybodaeth, a hi a wnaeth ddefnydd o honynt. Bu yn " ufudd i'w rh'ieni yn yr Arglwydd," a dim yn mhellach. Pan ddaeth i sefyllfa alluog i farnu drosti ei hun, defnyddiodd ei hawl a'i chymhwys- der; a'r canlyniad fu, iddi farnu yn wahanol i'w rh'ieni o barth teilyngdod yr Eglwys Wladol i fod yn faethrinfa rhin- weddau Cristionogol; a gweithredodd yn ol ei barn, er dyoddef gradd o wrthwyn- ebiad. Pan yn mlodau ei dyddiau (yn 22ain mlwydd oed) ymunodd mewn cymundeb â'r Eglwys Gynnulleidfaol a gyfarfyddai yn Hen Gapel Llanbryn- mair, yr hon, ar y pryd, oedd dan olygiaeth y Parch. Richard Tibbot, Mehefin ö, 1796. Ar ol iddi roddi ei hun "i'r Arglwydd ac i'w bobl, yn ol ei ewyllys," a cheisio yn gyntaf deyrnas Dduw a'i gyfiawnder ef, dewisodd Griffith Jones, Ysw., Ty- gwyn, Penegoes, i fod yn gydetifedd gras y bywyd â hi. Yr oeddynt yn proffesu yr un egwyddorion, yn cyrchu at yr un nôd, ac yn rhodio wrth yr un rheol. Ar ol ieuo mor gymharus, gellir casglu fod yno gydlafurio yn ewyllysgar er dwyn yn mlaen helyntion bywyd: fellybu. Gellir datgan, yn ddiofn edliwiaeth, iddynt dreulio eu tymmor mor heddychol ag y gellir dysgwyl i greaduriaid mewn sefyllfa o anmherffeithrwydd wneud. Bu iddynt wyth o blant: bu farw pump; ac y mae tri eraill yn byw yn y manau canlynol:— Mr. Evan Jones yn Tygwyn, Penegoes; Mr. William Jones yn Dolgadfan, Llan- brynmair; a Mr. Griffith Jones, gartref gyda'i dad. Prif elfenau ei chymeriad oeddynt y rhai hyn:— Gostyngeiddrwydd.—Yr oedd Mrs. Jones yn gydostyngedig â'r rhai iselradd; amlygodd hyn yn mhob dull a lle yn yr eglwys; er o ran oed, cyfoeth, a don- iau, gallasai ddangos lawer gwaith duedd at hunanddyrchafiad; ond nid un amser y gwnaeth, yn ol pob hysbysrwydd a gafodd yr ysgrifenydd. Er ei bod y fwyaf yn mhlith ei chwiorydd, etto yr oedd yn foddlawn i'w gwasanaethu oll. 2o