Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. M E D I, 1844 COFIANT MRS, DAVIES, PLASYRHAL. RUTHIN, "History arrests the wings of time in its flight to the gulph of oblivion,"—Burke. Ganwyd gwrthddrych y Cofiant hwn yn y flwyddyn 1789. Merch ydoedd i Mr. a Mrs. Lloyd, Fagnallt, yn sir Fflint. Anrhegwyd fi à'r hanes canlynol o ddechreuad ei chrefydd gan y Parch. O. Owens, Rhesycae:— "Anwyl Syr,—Gan mai aelod gwreiddiol o eglwys Crist yn y lle hwn oedd Mrs. Davies o Blasyrhal, a'ibod yn cyfanneddu yn yr ardalrai blynyddau ar ol i mi ddechreu tymmor fy ngweinidogaeth yn yr eglwys; gwneuthym ym- ofyniad mewn perthynas i ddechreuad ei gyrfa grefyddol gyda'r aelodau hynaf o'r eglwys sydd etto yn fyw; a chefais hefyd gyfleusdra i sylwi ar ei rhodiad fel aelod eglwysig tra y bu yn aelod o'r eglwys hon, o'r pryd y daethym yn weinidog iddi hyd ei hymadawiad i Ruthin. "Y tro cyntaf iddi aros yn y gymdeithas neillduol oedd ar nos Sabbath, yn y tŷ annedd lle y byddid arferol cynnal moddion gras yn y Waendymarch, cyn adeiladu y capel. Y di- weddar Barchedig B. Powell o'r Waeddgrug oedd yno yn pregethu y tro hwnw, pryd yr ar- osodd Elizabeth Lloyd o Fagnallt (canys dyna oedd ei henw cyn priodi) yn y society er mwyn cael cwmni i fyned adref, ac eisteddodd wrth y drws fel na ddywedid dim wrthi, fel y tybiai; o herwydd nid oedd yn bwriadu dyfod at grefydd y pryd hwnw, eithr yn addunedu dyfod ar ryw amser cyfaddas, fel y dy wedai ei hun. Eithr y diweddar Robert Jones (wedi hyny) o Werny- ffynnon, a hysbysodd am dani i'r gweinidog, ac a geisiodd ganddo ymddyddan â hi, yr hyn a wnaeth; a chafodd y peth argraff dda ar ei meddwl. Derbyniwyd hi i gymundeb fel aelod eglwysig yn Rhesycae ar y 3ydd o Ionawr 1814. Cafodd Mrs. D. fanteision addysg pan yn ieuanc, ei thymher naturiol oedd syml, a'i meddwl yn ytnofyngar am wybodaeth grefyddol. Ei hym- ddygiad oedd addas i efengyl Crist; byddai yn ddyfal i ymarfer â moddion gras, ac hefyd yn ffyddlawn yn ei chyfraniadau at achos yr Ar- glwydd. Trwy'r pethau hyn, yn nghyda'i pharodrwydd i dderbyn cynghorion a chyfar- wyddiadau i agoryd iddi ffordd Duw yn fanylach, yr oedd yn cynnyddu mewn "gras a gwybod- aeth ein Harglwydd a'n Hiachawdwr Iesu Grist," ac yn caru tangnefedd. Pan y symud- Wyd hi gan ddwyfol Ragluniaeth o'r ardal hon, hi a ymadawodd gyda chymeradwyaeth yr eglwys, a'i gweddiau drosti hi a'i phriod. Pob cyfeillach a gawsom â hi wedi hyny oedd yn ein tueddu i feddwl fod ei chrefydd ar gynnydd parhaus. Yr wyf, mewn atebiad i'ch Uytbyr, yu anfon crynodeb o hanes boreuddydd crefydd Mrs. D. atoch; a chan fod gan eglwys Ruthin y fantais i graffu ar y rhan ddiweddaf o'i hoes, dros amryw flynyddau, mi a hyderaf yr an- rhegir chwi â del'nyddiau priodol, er gwneud Cofiant ein hanwyl chwaer a ehedodd ymaith yn un buddiol ac adeiladol. Ar hyn y terfynaf, " Anwyl Syr, yr eiddoch yn gywir, "Rhesycae." " O. Owens." Yn Chwefror 1824 ymbriododd â Mr. H. Davies, Penygarth, yn agos i'r Waeddgrug; ac yn y Mawrth canlynol ymsymudodd gyda'i gwr i'r ardal hon, lle hu hyd ddiwedd ei hoes. Wrth newid ei chymydogaeth, ni newidiodd ei gwaith a'i chymeriad, ei phohl na'i phlaid; ac yn hyn y mae yn esiampl deilwng iawn o efelychiad proffeswyr. Gwelwyd llawer un yn gwisgo ymddang- osiad o ffyddlondeb gydag achos Duw gartref; ond wedi eu symud i ryw fan arall, lle mae crefydd yn dygwydd hod yn isel, safant draw fel dyeithriaid, dyosgant eu mantell o ragrith, a dang- osant yn eglur i bawb a'u hadwaenant mai awel eu gwlad sydd wedi ei chwythu i'r eglwys weledig, ac nid awel oddi- wrth y pedwar gwynt. Gallai llawer gwas i Grist adrodd helyntion o'r fath hyn a wnaeth i glustiau S'ion Duw fer- wino. Ond ar ei dyfodiad cyntaf yma, ni safodd y wraig rinweddol hon o hirbell, eithr yn hytrach dangosodd ei bod wedi ymbriodi ag achos Iesu gartref, ac oddi- cartref, er gwell ac er gwaeth ; ymffrost- iodd yn ei groesau, gweinyddodd yn íFyddlawn iddo yn ei eisieu mwyaf, a bu farw a'i hanadl olaf o'i blaid. Yr oedd diysgogrwydd yn dysgleirio yn brydferth iawn yn ei chymeriad, yn gymaint ag y rhagorai yn fawr yn hyn ar ei gwrth- ryw. Nid ar unwaith y ffurfiai ei barn