Skip to main content

Y DYSGEDYDD. GORPHENAE, 1844. COFIANT JOH¥ ROBERTS, BRWYNOG. GERLLAW TREFRIW. Mab ycloedd y trengedig i John Roberts, Brwynog, swydd Gaer- narfon. Ganwvd ef yn y flwyddyn 1813. Ymunodd â'r' Eglwys Gy n- nulleidfaol sydd dan ofal y Parch. L. Eyerett, yn Nhrefriw, yn 15 mlwydd oed. Rhedodd yr yrfa ysbrydol, gan ymdrechu (yn fwy efallai na'r cyffredin) i roddi heibio bob pwys, a'r pechod oedd barod i'w amgylchu, er cyflymu ei gam- rau i dir y bywyd tragwyddoì, i etifeddu y deyrnas a barotowyd er cyn seiliad y byd. Treuliodd ein hanwyl frawd hanner ei oes yn yr eglwys. Cyfarfyddodd angeu J. R. mewn dull tra dychrynllyd, ac a'i cymerodd ef ymaith megys â dyrnod, o fynwes yr eglwys a'i berthynasau. Fel ag yr oedd un diwrnod yn cneifio yr ŵyn, diang- odd un o honynt o'i afael, rhedodd yntau â'r ellyn cneifio yn ei law i'w ddal, cwympodd yn yr ymdrech, a brathwyd ef gan yr ellyn yn ei ochr aswy; cyfododd ar ei draed, a gofynodd i'r cyfaill oedd gydag ef, 11A ydwyfyn llwyd iaronf' Wedi hyny eisteddodd i lawr, a bu farw yn mhen ychydig fynydau. Fel dyn, dangosodd bob cefnog- aeth i onestrwydd, a chymerai ei iywodraethu gan deimladau hynod o dyner. Wylai gyda'r rhai a fyddai yn wylo, a llawenychai yn Uwyddiant eraill, a defnyddiai ei holl ddylanwad i waredu ei gyd- greadur o afaelion profedigaethau tanllyd y fuchedd hon. Fel Cristion, darllenai a myfyr- iai lawer yn y Bibl; ymffrostiai ynddo fel cyffes i'w chredu—rheol uniawn i rodio wrthi—a chorff o dduwinyddiaeth iachus; a sylfaenai obaith ei enaid gwan arno, am bob dawn ysbrydol, ar y ddaear, ac yn y nef byth. Llenwid ei brofiadau a'i weddiau, yn fynych, gan ddwys deimlad o herwydd calon lawn o bla; wylai am nad allai rodio yn un- iawn gyda Duw—ocheneidiai o herwyclcl ei fynych lithriadau mewn medclwl, gair, a gweithred. Er nad ellir clweyd iddo fyw un wythnos, diwrnocl, nac awr yn ddibechod, na chyflawni unrhyw ddyledswydd grefyddol erioed heb amryw feiau yn y goreuon, etto dysgwyd ef gan ras y nef i gyflawni yr orchestgamp hòno o "gyffesu yn ei erbyn ei hun ei anwireddau i'r Arglwyd'd." Tyst- iolaeth ei gymydogion yw, ei fod yn cynnyddu mewn ffydd, gobaith, a chariad, ac ymlenwi yn feunyddiol o eiddigedd duwiol dros ogoniant a llwyddiant teyrnas yr Iesu mawr, nes ydoedd ei gynnydd yn eglur i bawb. Ymgyfeillaehai lawer â Bu^ail Israel wrth fugeilio defaid ei dad ar fynyddoedd Arfon. Yr oedd ef yn fugail naturiol i'w dad, a Duw yn Fugail ysbrydo] idclo yntau. Aeth trwy y drws i gorlan na ddaw allan byth, ac i blith dëadell ag y mae ei Bugail yn gwaeddi—"Byw wyf fi, a byw fyddwch chwithau hefyd." Bydd y gorlan hon yn llawn, pan y bydd yr holl gorlanau daearol wedi eu difodi. Byddai yn gwedd'io llawer yn y beudai, wrth borthi yr anifeil- iaid, ac yn cyfeillachu yn wresog gyda'r baban a anwyd yn mhreseb Betlilehem; a mynych y dywedai