Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MEHEFIjNT, 1844, COFIANT MES, GEIFFITH, CAEENARFON, GWRAIG MR. WALTER GRIFFITH. " Gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef." Psalm cxvi. 15. Elen Griffith ydoedd ferch i Mr. Owen Griffith, barcer, Caemarfon, (mab i'r diweddar Mr. Humphrey Griffith, o Bwllheli,) o Margaret ei wraig, (merch y diweddar John Morgan, Ysw., o Las- ynys, Meirion.) Bu ei thad farw pan nad oedd hi ond tair blwydd a hanner oed. Yr oedd bob amser o gyfansoddiad gwanaidd. Cafodd ddygiad i fyny cref- yddol, dan ofal ei mam, yr hon a fuasai yn weddw dros naw mlynedd; ac wedi i'w mam briodi y Parch. W. Williams, cafodd Mrs. Griffith ychwanegiad at ei breintiau crefyddol, yr hyn a gydna- byddid ganddi, gyda diolchgarwch, hyd ddiwedd ei thymmor byr. Crefydd a phethau crefyddol oedd ei phrif hyfryd- wch, o foreu ei hoes. Arferai fyned i'r gyfeillach grefyddol, gyda'i mam, am flynyddau, cyn eael derbyniad cyflawn, yr hyn a gymerodd le, Medi 26ain, 1839. Nid amlygodd erioed un tuedd i rodio yn ffyrdd ieuenctyd gwamal, nac mewn dilyn arferion llygredig; ond yr oedd ei bywyd yn fywyd o sobrwydd a chrefydd- older. Yr oedd yn newisiad ei chyfeill- ion yn dra neillduol: os rhai ieuainc a fyddent, rhai ieuainc o dueddiadau crefyddol; neu os rhai wedi myned i'r sefyllfa briodasol, rhaid a fyddai eu cael o'r un argraff: ac yr oedd ganddi fwy o gyfeillesau yn y dosbarth diweddaf nag yn y cyntaf. Darllenai lawer, a myfyriai yn ddwys mewn pethau crefyddol; a dangosai, bob amser, fod ei meddwl yn ngafael â phethau byd arall. Pan yr ymddy- ddenid am bethau crefyddol, nid hi a roddai yr amlygiad cyntaf o awydd i newid testun yr ymddyddan. Yr oedd wedi cael ei dysgu o'i mebyd i barchu gweinidogion yr efengyl, a'r weinidog- aeth santaidd; a theimlai yn ddwys^ ond yn ddystaw, pan y clywai bethau mawr- ion yr iechydwriaeth yn cael eu cynnyg yn rhad i bechadureuog sydd hebddim. Mawrth y 3ydd, 1842, priododd Mr. Walter Griffith, Goruchwyliwr Cymreig yr Anti-Corn-Law League, yr hwn a gafodd yn gymhar tirion a gofalus, ac a fu o lawer o gynnorthwy i ëangu ei meddwl yn y pethau a berthynent i'w heddwch, megys y dywedai ychydig o oriau cyn ei hymadawiad. Cafodd lawer o afiechyd, ac ymgy- nghorai â'r meddygon parchusaf yn Nghaernarfon a'r gymydogaeth am fiyn- yddau. Yn ystodyr haf diweddaf, aeth, drwy gyfarwyddyd O. O. Roberts, Ysw., i ffynhonau Trefriw, gan feddwl derbyn gwellhad. Cafodd lawer o sirioldeb yno gan y cyfeillion caredig canlynol:— Mr. a Misses Rogers, Shop (y rhai ydynt aelodau parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd); Elen Jones, Tŷ'r Capel; Miss Hughes, o'r Union; yn nghyda y dyeithriaid oeddynt yno ar y pryd, yn enwedig Mr. a Mrs. Owen, Trewyn, Môn, a boneddiges hawddgar Mr. O. O. Roberts. Ond nid oedd dim yn tycio, oblegid yr oedd yr angeu creulawn wedi ymaflyd yn ei chyfansoddiad, yr hwn ni ollyngodd ei afael o hono hyd Ionawr y löfed, pan y cafodd Mrs. Griffith fyned- iad helaeth i mewn i dragwyddol lawen- ydd ei Harglwydd. Goddefodd y rhan ddiweddaf o'i chystudd, yr hwn a barhaodd am tua chwech wythnos, gydag amynedd Crist- ionogol, heb rwgnach dim. Dywedai y meddyg ei fod o'r farn na allasai ddal cyhyd, oni buasai ei llwyr-ymroddiad i ewyllys yr Hwn sydd ganddo awdurdod i ladd a chadw yn fyw. Ni ddywedai lawer yn ei chystudd, oblegid ei gwendid; ac ni chwennychai ychwanegiad at y