Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. MAI, 1844. COFIANT BYE AM DDWY CHWAER, Medi 20, 1843, ar ol byr glefyd, hu farw Elizabeth, merch ieuangaf Mr. Stephen Brees, Clegerddwr, Llanbrynmair, yn 15 oed. Deuai i'r gyfeillach grefyddol erys tros flwyddyn, a chymhellai eraill i ddyfod gyda hi. Yr oedd yn nod- cdig am gofio pregethau, a charai ymddyddan am bethau crefydd. Ond tra yr oedd yr eglwys yn oedi ymaflyd yn ei llaw i'w gwahodd i'r "tý," daeth angeu a chymerodd hi ymaith rhwng ein dwylaw, o ymyl y drws. Yr ydym yn credu fod ei chalon i mewn erys misoedd, a bod Duw yn ei hystyried yn un o fab- anod ei dý. Tarawodd angeu hi ar unwaith mor drwm, fel nad all- odd wneuthur dim ond codi llef wan am drugaredd Iesu, mewn gweddi debyg i weddi y publican. Oddiwrth ei marwolaeth gall plant pymtheg oed, a gall eglwysi hefyd, gymeryd addysg i wneutliur brys. Ei chorff hi oedd y deuddegfed a gladdwyd o fewn deuddeg w-ythnos yn mynwent newydd yr Hen Gap- el. Nid ychydig oedd hyn, yn Iiyny o amser, mewn plwyf teneu ei breswylwyr, ac ystyried fod bedd- rod y tadau mewn lle arall; am ba un y gall llawer plentyn ddy wedyd, "Yno y cleddais i fy rhieni;" a llawer mam ddywedyd, " Yno y cleddais innau John a Mari." Y gwyn gyffredin yw, "O na buasid yn dechreu claddu wrth y capel erys blynyddau." Petli hyfryd yw cael claddu ein meirw wrth y man y dewiswn gyfarfod i addoli. Tachwedd 9,1843, yn mhen saith wythnos, daeth angeu eilwaith i'r unteulu, a bu farw ei chwTaer Anne Brees, yn 25 oed. Ceisiodd yr Arglwydd yn fore. Daeth at gref- ydd yn fuan ar ol marwolaeth y Parch. John Roberts, gan dystio y buasai yn dda ganddi ddyfod yn gynt, pe na buasai ond er mwyn yr hyfrydwch o gael cyfle i gyffesu wrth ei hen athraw anwyl ei bod am blygu dan iau Iesu Grist. Gwnaeth ei marwolaeth fwlch yn y teulu ag a bâr lawer o hiraeth, o blegid yr oedd, nid yn unig yn blentyn ufudd a thirion, ond yn un egn'iol a medrus gyda phob rhan o'i galwedigaeth: a thrwy ei bod yn un o ysbryd myfyrgar, ac mor hoffus drwy dymmor ei phroffes o holl ordinhadau crefydd, yr oedd ei phrofiad yn helaeth am bethau bywyd tragwyddol. Gellid cry- bwyll ei bod yn un o galon barod i wneuthur yr hyn a allai at gynnal- iaeth a Iledaeniadachoslesu. Bydd- ai yn serchog o bawb, ond yn neill- duol o bregethwyr yr efengyl, pan ymwelent â'r teulu. Un tro, ar ymweliad annysgwyliadwy fclly, pan oedd y teulu mewn crjii dra- fferth, coffaodd wrth ei chw-iorydd y geiriau—"Yn g}Tmaint a'i wneu- tlmr o honoch i un o'r rhai hyn, îy mrodyr lleiaf, i mi y gwnacthoch." Dro arall, pan oeddid yn casglu at orphen talu dylcd yr addoldai yn yr ardal, aeth at ei thad, a dywed- odd, "O nhad, yr ydych yn rhoi braidd rhy fach—rhowch un bunt yn rhagor;" a darfu i'w dull a'i llais yn gofyn sicrhau llwyddiant y gais mewn moment. Effeithiodd marwolaeth ei chwaer mor ddwys