Skip to main content

Y DYSGEDYDD. EBRILL, 1844. COFIANT MRS, ANIí WILLIAMS, MAESMAWR, L L á. N Y M O W D D W Y . Ganwyd Mrs. Ann Williams Medi 7, 1816. Merch hynaf ydoedd i Mr. Richard a Margaret Evans, Tynypwll, Dinasmowddwy. Gŵyr y rhan amlaf o weinidogion yr Annibynwyr yn Nghymru am y teulu hwn fel rhai croesawus iddynt ar eu teithiau trwy y dref hon. Ymdrechasant i ddangos gwerth cref- ydd i'w merch; a chawsant yr hyfrydwch o'i gweled yn ymwasgu â'r dysgyblion pan yn bedairarddeg oed. Y Parch. J. Williams, gweinidog y lle y pryd hwnw, aroddodd iddi ddeheulaw cymdeithas. Yn y flwyddyn 1838, Tach. 16, pan yn 21ain oed, ymgysylltodd mewn priodas â Mr. Harry Williams, Miner, mab John a Margaret Williams, Tyddynbach, Am- lwch, sir Fôn. Ar ol priodi sefydlasant yn y Dinas hyd Mai 1842, pryd y symud- asant i'r Maesmawr, Llanymowddwy. Ganwyd iddynt dri o blant. Y cyntaf- anedig a anwyd Hydref 1838, a bu farw yn mhen yr wythnos. Brysiodd o fynwes ei fam i fynwes Abraham. Ac yn y flwyddyn 1843, Meh. 19,bu y fam anwyl, y priod addfwyn, y chwaer grefyddol gariadlawn hon farw, a hyny "mewn tangnefedd," gan ffarwelio yn dawel á'i phriod a'i phlant, y rhai a adawyd i ddyoddef ycanlyniad dwyso'rfath golled annysgwyliedig. Y dydd Gwener can- lynol ymgasglodd torf o alarwyr i heb- rwng corff gwanaidd y gyfeilles hawddgar i'w gartref rhagderfynedig yn mynwent Mallwyd. Bernir nad yn aml y gwelwyd cynnifer wedi ymgasglu yn nghyd ar y fatb achlysur. Peraroglaidd a thra dymunol oeddynt y rhinweddau a flodeuasant yn ei bywyd er byred fu; a theilwng ydynt o gael eu hamlygu yn gyhoeddus, ac o gael eu hefelychu gan bawb ag ydynt am " ddilyn ôl traed y praidd" ar y "llwybr cul." Yn mhlith y cyfryw ymddygiadau teilwng gellir crybwyll y rhai canlynol yn mysg y rhai mwyaf nodedig:— Ymunodd à chrefydd ynforeu. Derbyniwyd hi yn aelod o eglwys Crist pan yn 14eg oed. Llawer sydd yn awr yn cofio dwysder a chrefyddolrwydd ei theimladau y pryd hwnw. Cafodd y fraint o ddilyn siampl foreuol y Ceidwad i raddau uchel. Ac wrth gynnyddu mewn corffolaeth, cynnyddodd mewn parch gyda Duw a dynion; a chafodd brofi mai " da ywdwyn yr iau inewn ieu- enctyd." Mawr oedd eiffyddlondeb gyda modd- ion gras. Rhedai iddynt heb flino, a rhodiai iddynt heb ddiffygio, tra y caniatawyd iddi y nerth a'r iechyd angenrheidiol. Tebygol ei bod yn ymwneud llawer â'i Thad nefol yn y dirgel, o herwydd ym- ddangosai ei bod yn derbyn helaeth- rwydd oddiwrtho yn yr amlwg. Ystyriai y gwaith o ymbresenoli yn nghysegr ei Duw, nid yn unig yn rhwymedigaeth arni, ond yn fraint werthfawr iddi, fel yr ysgrifenai unwaith at ei phriod:—" Yr wyf yn ganolig iach, trwy fawr ofal a bendith yr Arglwydd tuag ataf bob amser. Meddyliais lawer gwaith na chawswn byth y fraint o rodio i dý Dduw yn ychwaneg; ond trwy ei gymhorth ef, wele fl etto wedi cael. Yr wyf yn gweled hyny yn fraint fawr, heb fod o'r blaen er's un-wythnos-ar-bymtheg. O na fedrwn fod yn ddigon diolchgar i'r Arglwydd!" Yr ydoedd fel wedi penderfynu y mỳnai hi ei rhan o freintiau y tŷ, o herwydd yr ydoedd yn ffyddlon gyda'r holl foddion, ac nid gyda rhai o honynt. Enwogodd ei hun yn yr Ysgol Sabbathol, ac yn nghyfarfod gweddi y mamau a'r chwior- ydd. Fel aelod o'r Ysgol Sabbathol yr