Skip to main content

Y DYSGEDYDD. MAWBTH, 1844. COFIANT ME, EYAN WILLIAMS, Ma. Gol.—Y Cofiant canlynol a ddetholwyd ac a gyfieithwyd allan o lyfr a ysgrifenwyd gan y Parch. Edmund Jones, gynt o Bontypool, ac a argraffwyd yn Llundain yn y flwyddyn 1750. Ac os caniatewch iddo ymddangos yn eich Cy- hoeddiad, efallai y peri ddywenydd i rai o'i ddarllenwyr lluosog.—E. Rowlakds, Pontypool. Mr. Evan Williams a anwyd, Ionawr 6, 1719, mewn lle a'r enw Abercrafe, yn mhlwyf Ystradgynlas, swydd Frechein- iog. Enw ei rieni oeddynt Evan a Gwenllian Williams. Yr oeddynt ill dau yn grefyddol, a'i fam yn neillduol felly; ac yn deilliaw o hil yr Ymneilldu- wyr cyntaf yn y parthau hyny. Yr argraffiad neu yr argyhoeddiad cyntaf a wnaed gan Dduw o'i ras ar feddwl E. W. am ei gyflwr pechadurus pan oedd yn gwrando pregeth a dra- ddodid gan un Mr. Lewis Jones,* pre- gethwyr enwog yn mhlith yr Annibynwyr yn ei ddydd; ond prif foddion ei ddy- chweliad oedd darlleniad llyfr bychan o waith Bunyan,a elwir Come andWelcome to Jesus Christ. Mawr oedd ei serch at y llyfryn hwnw; gwerthfawrogai ef yn nesaf at y Bibl; cariai ef am gryn amser gydag ef i ba le bynag yr elai,a darllenai * Gweinidog Penbontarogwyr, mae yn debyg, ydoedd hwn. + Y Dissenters a elwid y pryd hyny yn y Gogledd yn Garadogiaid, oddiwrth Mr. Walter Caradock, yr hwn a anwyd mewn lle a elwir Trevelah, yn mhlwyf Llangome, swydd Fynwy. Yr oedd efe yn etifedd i etifeddiaeth led helaeth. Dygwyd ef i fyny yn Rhydychain; a phan ymadawodd oddiyno, aeth i wrando yr enwog Mr. Roth o Lanvaches, yn yr un sir, yr hwn oedd y Gweinidog Anghydffurfiol cyntaf yn holl Gymru. Dychwelwyd ef at Dduw trwy weinid- ogaeth Mr. Roth. Yn ganlynol i'w dröedigaeth, cafodd Mr. Caradock ei ddiystyru a'i ddigaloni yn fawr gan y cyfryw ag oeddynt yn wrthwyn- ebol i'w ddychweliad at Dduw ; ac hyd yn oed ei berthynasau a droisant yn wrthwynebwyr iddo. O herwydd hyny gadawodd ei dref a'i wlad, ac ryw fodd (ni3 gwn pa fodd) efe a gafodd fyned i weinidogaethu i "Wrexham, swydd Ddinbych, lle y pregethodd yn selog, gwresog, a ffyddlon i gynnulleidfa luosog: ac yn lle darllen y boreuol weddiau yn ol yr hen arfer, esboniai ef pan y cai hamdden, nes ei ddeall eí' yn dda, ac argraffu ei sylwedd ar ei gof. Tua'r flwyddyn 1739, derbyniwyd ef i gymundeb yr Eglwys Gynnulleidfaol yn Cwmllyfnallt (Cwmllynfell), yr hon oedd y pryd hwnw dan ofal y Parch. Roger Howell. Ond yn fuan ar ol ei dderbyn- iad i'r eglwys uchod, cyfododd dadl frwd rhwng Mr. Howell a rhai o bobl ei ofal â'r Methodistiaid Calfinaidd, yn nghylch gallu naturiol dyn} a sicrwyddffydd. Yn mhoethder y ddadl hòno ymadawodd Mr. Williams â'r eglwys ôedd dan ofal Mr. Howell, ac ymunodd â'r Trefnydd- ion. Yn fuan ar ol ei ymuniad à hwy, aeth at y Parch. Griffith Jones o Lan- ddowror i sir Gaerfyrddin, yr hwn a'i hanfonodd i'r Gogledd i gadw ysgol rad. Felly efe a aeth; a chroesodd y Traeth Mawr, rhwng swyddi Meirion ac Arfon, ar y 27ain o Chwefror, 1742. Fel yr oedd efe yn myned tua phentref Penmor- fa, yn sir Gaerynarfon, daeth dyn i'w gyfarfod, yr hwn a ddechreuodd ei holi yn lled ddwys, gan ofyn iddo, ai nid un o'r Caradogiaidf ydoedd. Y dyn a'i holodd a ddywedodd wrtho, " Pe baent yr Ysgrythyrau i'r bobl, mewn modd mor syml, a chyda y fath oleuni nefol, fel, pan genid y gloch am chwech y boreu, yr ymgasglai y bobl o'r dref a'r wlad nes y Uanwent y Llan eang hwnw. Trwy yr esbonio a'r pregethu cymerodd diwyg- iad le yn y man hwn nad oedd yn dilyn darllen- iad y Llyfr Gweddi Gyffredin ; a llawer o bech- aduriaid a ddychwelwyd at yr Arglwydd. Yn mysg y rhai hyny yr oedd y pregethwyr enwog a duwiol hyny—Meistri Morgan Lloyd a Dafydd ap Hugh. A gallesid dysgwyl i bethau fel hyn ffromi Satan a'i yru i daflu dwfr ar y fath dân. Yn ganlynol i'r diwygiad, daeth bragwr o'r gymydogaeth hòno, ac a ofynodd i geidwad gwesty ynNgwrexham, "Beth sydd areich tref'.' y mae yma ryw gyfnewidiad; oblegid nid ydwyf yu gwerthu cymaint o frâg yma ag a fyddwn yn arfer. Rhaid fod rhywbeth yn achosi hyny." Yr ateb a gafodd ydoedd, mai Mr. Walter CaTadock o'r Deheudir a gyfnewidiodd y bobl trwy ei bregethau, &c. Ar hyn ffromodd y bragwr, a dywedodd, y gyrai efe ef ymaith oddi- yno. Bu cynddrwg a'i air. Defnyddiodd ei