Skip to main content

Y DYSGEDYDD. IONAWR, 1844. ADGOFION EDWAED JONES 0 FOSTYN, Yn y Dysgedydd am Hydref, 1840, ymddangosodd y llinellau a ganlyn (tudal. 320): " Ar foreu Sadwrn y 5ed o Orphenaf diweddaf, dygwyddodd amgylchiad tra galarus ÿn ngwaith glo Mostyn. Aeth Edward Jones, yr hwn oedd bur adnabyddus i nifer luosog o bregethwyr a gweinidogion y Gogledd fel un o ddiaconiaid yr Eglwys Gynnulleidfaol yn y lle hwnw, at ei orchwyl fel arferol o gylch 6 o'r gloch, a'r brawd arall o'r un eglwys gydag ef o'r enw Edward Roberts. Wedi i nifer o'r glöwyr ymgynnull at eu gilydd mewn lle penodedig yn nghrombil y ddaear i gyflwyno eu gilydd i ofal Duw, yn ol eu harferiad sefydlog er's peth amser, cyn pen pum mynyd ar ol codi oddiar eu gliniau yr oedd enaid ein hanwyl frawd Edward Jones yn sefyll ger bron ei Arglwydd. Aeth ef ac Edward Roberts yu mlaen tuag at y gweithle, canwyll noeth yn llaw un, a llusem diogeliad yn llaw y llall; ond gan nad oeddynt yn dysgwyl perygl yn y fan hòno, hyd o fewn hanner can llath yn mhellach, yr hwn a ddaliai y ganwyll oedd y blaenaf. Yr oedd y lle yn llawn o awyr sulphuraidd, yr hwn a ennynodd gydag ergydiad arswydlawn, ac a fu yn angeu iddynt ill dau. Yr oedd Edward Jones wedi marw pan y'i cafwyd, ond bu E. Roberts byw hyd y dydd Mawrth canlynol, a threngodd yn y mynydau yr oeddys yn cychwyn corff ei gydymaith i'r fynwent." Dengys y dyfyniad uchod mai gweddio oedd y gorchwyl diweddaf a gyflawnwyd gan ein hanwyl frawd yn y byd hwn. Dedwydd genym adgofio am ein brodyr mai gweddi- wyr oeddynt yn eu hoes, ac mai oddiwrth orsedd gras y'u galwyd o flaen gorsedd barn. Y dydd Mawrth canlynol dyg- wyd y corff i'r Cysegr, Ue y bu hoff ganddo ddyfod pan mewn bywyd i addoli ei Dduw. Gweddi- odd Mr. Ellis Ellis, a phregethodd yr ysgrifenydd oddiar y rhan olaf o adn. 46, yn Mat. 25. Cynnullodd ar yr achlysur amryw gannoedd o bobl o bob gradd ac enwad, ac o wahanol gymydogaethauj a dilyn- asant ei weddillion i'r bedd, fel tystiolaeth o'r parch oedd ganddynt i'w goffadwriaeth. Yr oedd tua 45 oed pan y'i gosodwyd yn ei fedd. Fy amcan yn bresenol ydy w ceisio rhoddi darluniad teg i ddarllenwyr y Dysgedydd o nodwedd Edward Jones. Nid wyf yn gwybod fod unrhyw helyntion hynodawl wedi ei gyfarfod yn ysbaid gyrfa ei fywyd, a gorchwyl diflas a diles fyddai adrodd helyntion sydd yn cyfarfod â dynion yn gyffredin. Ei gymer- iad moesol ydyw yr hyn a deilynga sylw, ac nid ei helyntion bydol. O ran ei amgylchiadau tymmorol ni wybu erioed beth oedd gorlawnder, ac ni wybu erioed ychwaith beth oedd prinder o fendithion angen- rheidiol. Yr oedd yn cynnal ei deulu yn gysurus trwy ei lafur per- sonol fel glöwr. Bu am amryw flynyddau yn aelod o'r eglwys Gynnulleidfaol yn y Cysegr, Mos- tynj ac yn nhymmor gweinidogaeth Mr. Rees yn y lle hwnw, dewiswyd ef gan y gweinidog a'r eglwys i gyflawni gwaith diacon. Fel Crist- ion cyson ei fuchedd, fel aelod eglwysig diysgog a diwyd, ac fel diacon ffyddlon a synhwyrgall, tei- lynga ei enw gael ei gofrestru yn y Dysgedydd yn mhlith eraill o enwau y rhai "nad oedd y byd yn deilwng o honynt."