Skip to main content

ŵwtjjiẁaîr. EDWARDS, EBENEZER, Y mae y ddwy "E" wedi eu priodi yn rahlwyf Llanddeiniolen, ac nisgall angeu eu gwahanu. Tra y dalio pentref Ebenezer i hèrfeiddio yr ystrywiaa a wneir i newid ei enw, bydd Thomas Edwards yn air teuluaidd ar gannoedd o aelwydydd. Tra y pery "y myrr a'r aloes," y "peraroglau a'r enaint," fe barha yr enw yn anllygradwy. Nid ein hamcan yn hyn o ysgrif yw cyfansoddi bywgraffiad i un o'r an- wylaf o'n brodyr: ond, tra byddo yr hanesydd yn parotoi ei ddefnyddiau, yr ydym yn ymollwng gyda'r demtasiwn i goíhodi rhai o'n hadfyfyrdodau a'n teimladau yn wyneb yr amddifadrwydd poenus a achoswyd gan ei farwolaeth —amddifadrwydd nas gallwn byth ymweled ag Ebenezer heb ei deimlo. Wrth weled defnyddioldeb rhai dynion yn eu bywyd, tybir mai peth hawdd fyddai ysgrifenu cyfrolau o fywgraffiad iddynt. Ónd ar ol eu symud- iad, teimlir tipyn o anhawsder, o herwydd fod eu rhagoriaethau yn rhedeg cymaint yn yrun cyfeiriad. Y mae hanes un dydd yn hanes pob dydd o'u bywyd. Dyddlyfr helaeth yn unig a all wneud cyfiawnder â'r fath gymer- iadau. Ni chyhoeddasant lyfr i'w feirniadu: ni wnaethpwyd hwy yn gyhoeddus drwy ddadleuon. Nid oedd ganddynt na barddoniaeth, na cherddoriaeth, i brynu sylw gwlad. Fel afon lefn, esmwyth, yn cario bywyd a phrydferthwch i bob man, heb na rhaiadr na chornant i dynu sylw dyeithrddyn, felly y treuliodd y dynion hyn eu bywyd bendithiol i ben. Un o'r fath gymeriadau oedd Thomas Edwards. Ni fydd gan y bywgraíF- ydd lawer o bethau a elwir yn darawiadol a chyffroadol i'w mynegu am dano, ac nid ydym ninnau yn proffesu adrodd manylion ei oes, ond yn unig rhoddi delweddiad o'r hyn a ymrithiai ger bron ein meddwl ar ddydd ei gladdedigaeth, a'r hyn a fu yn rhoddi cysgod o brudd-der ar lawer myfyrdod ar ol hyny. Y mae rhai dynion, er dangos i'r cyhoedd pa ran o'r wlad a gafodd yr anrhydedd o'u magu, yn mabwysiadu ffugenwau, megys Gwilym Mon, Ioan Arfon, Owain Meirion, Iolo Trefaldwyn, &c, &c. Y mae eraill am gofnodi y mis yn mha un yr ymwelsant â'r byd iswybrenol hwn, drwy ei anfarwoli yn anfarwoldeb eu henwau, raegys Ieuan Ionawr, Dewi Chwef- ror, Gwilym Mawrth; ac y mae yn rhyfedd gynnifer o'n beirdd sydd wedi çu geni yn Ebrill (nid ar y cyntaf ni a obeithiwn). Ond gan na feddai ein hanwyl frawd yr un ffugenw yn arwyddo o ba le yr hanai, na pha bryd y faned ef, ni a gymerwn y cyfleusdra i fynegu mai brodor o'r Crwys, yn sir 'organwg, oedd, ac mai yn y flwyddyn 1801 y ganwyd ef. Yr olwg gyntaf a gawsom ni arno oedd yn y cymeriad o fyfyriwr, yn Athrofa y Neuaddlwyd. Nr fu sefydliad erioed yn fwy yn ffafr yr eglwysi na'r eiddo yr athraw aneilydd Dr. Phillips. Ni fu dyn erioed a'i enaid yn fwy yn y gwaith o addysgu dynion ieuainc na'r Dr.; ac nid oedd eisieu cyflog mawr i'w gadw yn ei swydd. Yr ydym yn sicr mai nid yn Neuaddlwyd y dysg- Wyd y cyfeiliornad—fod yn rhaid cael pregethwr gwael i wneud athraw da, canyg yr oedd Dr. P. yn un o bregethwyr goreu ei oes,—yn gryf, yn gynhes, ac yn efengylaidd. Ÿn wir, yn wir, fe ddaw yr eglwysi i dalu mewn gofid Tachwedd, 1863. 3 e