Skip to main content

LI PARCH, THOMAS RAFFLES, D,D,, LL.D. Y mae Lloegr a Chymru mewn galar dwys yn y dyddiau hyn, gan y newydd o farwolaeth y gweinidog a'r boneddwr enwog hwn, yr byn a gymerodd le chwech o'r gloch fore ddydd Mawrth, y 18fed o fis Awst, yn ei gartrefle ei hun yn Mason Street, Edge-hill, LiverpooI, wedi afiecbyd cystuddiol am dymmor lled faith, yn y 75 flwyddyn o'i oed. Yr oedd enw y Dr. Raflîes yn adnabyddus iawn yn y Dy wysogaeth, yn 'ystal ag yn Lloegr, a pharthau eraill o'r byd. Yr oedd wedi ymweled â Llandudno, ac yn pregethu yno am rai Sabbathau bob haf am y chwe' blynedd diweddaf; ac yr oedd wedi cadw i fyny ei boblogrwydd, fel preg- ethwr, mor uchel a neb a ddeuai yno ar unrhyw bryd. Y mae hyn yn dwyn y teimlad galarus adref at ein mynwes ni yn Nghymru yn ddwys iawn, feì nad allwn lai na rhoddi llé i sylw lled helaeth mewn ffbrdd o Gofiant am yr hen wron anrhydeddus. Y mae yr enwad yn teimlo y golled yn ddwys drwy yr holl derfynau. Y mae holl gylchoedd Anghydffurfiaetb, ac yn wir, y byd crefyddol drwyddo, yn eu galarwisgoedd ar yr amgylchiad o'i golli. Yr oedd yr Eglwyswyr bob amser yn edrych ato gyda chryn raddau o barch, ac y maent hwythau yn uno yn y galar cyffredinol ar gwympiad y gwr mawr hwn yn Israel. Y mae llawer o ystyriaethau yn ymddangos fel rheswm dros gymedroli y galar hwn. Yr oedd wedi cyrhaedd oedran teg. Yr oeddym wedi cael ei wasanaetb am dymmor hir. Yr oedd arwyddion dadfeiliad i'w canfod arno er's rhaiblynyddau. Nid yn ddisymwth y cymerwyd ef ymaith. Yr oedd wedi nodi y Sabbath olaf y bu byw, a'r Sabbath canlynol, i bregethu yn Llandudno er y llynedd. Tua thri mis yn ol, anfonodd i fynegu ei fod yn ineddwl na byddai yn briodol iddo adael ei enw ar y rhestr eleni. Yn mhen tua phymthegnos wedi hyny, anfonodd air i awgrymu ei fod ef yn wrol, ac am gadw i fyny ei gylch yn Llandudno drachefh. Ond ni buwyd yn hir heb gael gair penderfynol eilwaith am adael ei enw allan o'r rhestr, rhag mai siomedigaeth fyddai. Yr ydym yn mynegu hyn er dangos mor raddol yr oedd efe yn cael ei rybuddio am ei ddattodiad. Yr oedd bywiog- rwydd ieuengaidd ynddo yn ei hen ddyddiau; ac fel y "cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser," yr ymaddfedodd yntau ar gyfer ei symudiad i orphwys oddi- wrth ei lafur, ac i gael ei alw i fwynhau ei wobr gyda y croesawiad, " Da, was da a ffỳddlon:—dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Yr oedd oes Dr. Raffles wedi bod yn gwbl gysegredig i Grist. Yr oedd wedi ymddyrcbafu i enwogrwydd mawr. Yr ydoedd o dymher naturiol bynaws. Yr oedd yn ddyn o galon eang, ac yn Hawn o garedigrwydd mawrfrydig. Yr oedd yn tueddu at fod yn llawen mewn cyfeillach yn nghanoî ei ddifrifoldeb. Yr oedd yn enaid a bywyd pob cymdeithas lle yr elai. Yr oedd ei wyneb agored, ei dalcen llydan, ei lygaid bywiog, ei ymadrodd ffraeth, a'i hynawsedd boneddigaidd, yn ennill serch pawb ar unwaith. Yr oedd yn gadeirydd campus mewn cyfarfod cyhoeddus. Y Parch. Thomas Raffies, yn ycbwanegol at ei ddyrcbafiad cyfTredinoîÿ a'i ditlau uchel, ydoedd yn aelod o'r Zoologîcal Society, Honorary Member- HlMUäF, 1863. 2 z