Skip to main content

ŵjtttjflàim. ADGYFODIAD CEIST. Gan fod holl drefn iachawdwriaeth yn sylfaenedig ar adgyfodiad Crist, yr oedd yn angenrheidiol i rywrai gael eu penodi i ddwyn tystiolaeth o wîrion- edd ei adgyfodiad i'r byd; ac yr oedd yn angenrheidiol i'r rhai a benodid gael yr argyhoeddiad llwyraf o wirionedd yr amgylchiad. Y rhai cymhwysaf i gael eu neillduo i'r gorchwyl hwn oedd dysgyblion Crist, y rhai a ddewis- wyd ganddo ef ei hun, ac a fuont yn ei ganlyn ef yn ystod ei weinidogaeth, yn mwynhau ei gymdeithas yn ddirgel a chyhoeddus, yn dystion o'i wyrth- iau, ac o'r amgylchiadau mawrion a gymerasant le ar adeg ei farwolaeth. Felly cymerwyd gofal mawr am iddynt gael yr argyhoeddiad llwyraf o'i adgyfodiad. Goddefodd Duw i anghrediniaeth yn nghylch ei adgyfodiad aros yn eu meddyliau yn ystod yr amser y bu yn y bedd, fel y byddai i'w adgyfodiad gadarnhau eu hargyhoeddiad yn fwy, a gosod mwy o rym yn eu tystiolaeth. Yr oedd hyn yn angenrheidiol. Ond etto, gan fod adgyfodiad Crist yn un o bynciau pwysicaf yr efengyl, a ddylasai y dystiolaeth ar yr hon y gorphwysa gael ei chyfyngu i ychydig bersonau? Ai ni ddylasai y prawf o'i adgyfodiad gael ei roi i dystion lluosocach a gwahanol i ddys- gyblion Crist? Er rnwyn ateb y gofyniadau uchod, gwnawn ymchwiliad i'r ddau beth canlynol:—Nad oedd y tystion o adgyfodiad Crist ond ychydig bersonau. Mai yr ychydig hyny oedd dysgyblion Crist ei hun. Gyda golwg ar y blaenaf o'r pethau hyn, dywedwn mai nid ar nifer y tystion y mae gwirionedd unrhyw dystiolaeth yn hollol yn ymddibynu, ond ar berffeithrwydd en gwybodaeth, ac uniondeb eu hegwyddor. Os bydd digon o bersonau i dystio am unrhyw ddygwyddiad a gymerodd le, yn ei holl ranau amrywiol, ac os bydd gwybodaeth a chywirdeb pob un o honynfe yn ddifai, y mae y dystiolaeth yn gyflawn, a'n barn ar y mater yn cael ei boddloni; a phan unwaith y boddlonir ein barn ar y tir yma, afresymor yw dweyd fod ychwaneg o dystiolaeth yn angenrheidiol. Y mater dan sylw yw adgyfodiad Crist oddiwrth y meirw. Y íystion o'r ffaith yma yw ei ddysgyblion ef ei hun, i'r rhai yr ymddangosodd ar ol ei' adgyfodiad. Er nad oedd dysgyblion Crist ond ychydig mewn cymhariaeth i'r holl Iuddewon, etto yr oeddynt yn llawer os edrychwn arnynt fel tystion o'r amgylchiad hwn. Nid i un dysgybl neu ddau yr ymddangosodd Crist ar ol ei adgyfodiad; gwelwyd ef gan fwy na phum' can' brodyr ar unwailh. A thybied fod gwybodaeth y dynion yraa o'r ffaith, a'u cywirdeb yn ei hadrodd, yn ddifai, y mae yn ddiammheu eu bod yn ddigonol i roi tystiol- aeth gyflawn a theg o adgyfodiad Crist. Felly nis gall bychander eu nifer fod yn un gwrthwynebiad rhesymol yn erbyn nerth eu tystiolaeth, os na bydd amgylchiadau eraill yn eu gwanhau. A ydyw y ffaith mai dysgybl- ion Crist ei hun oeddynt yn gwanhau y dystiolaeth? A ydy w hyn yn rhoi Ue i ni ammheu eu gonestrwydd ? Neu o herwydd mai hwy óeddynt yr unig rai a'i gwelsant ar ol ei adgyfodiad, a allwn ni dybied eu bod yn cymer- yd arnynt ei fod wedi cyfodi, pan nad oedd mewn gwirionedd ? Nid oes un Bail i'r fath ammheuaeth; oblegid, yn un peth, nis gallasai y dysgyblion ddysgwyl un fantais oddiwrth yr ymhòniadj ond i'rgwrthwyneb, dyoddefas- Medi, 1863. 2 a