Skip to main content

ẅöfíjjnìímt. WILLIAM EDWARDS O'R GROESWEN, YR ARCH- ADEILADYDD, Y mab yn nghofnodion ein gwlad gyfeiriad at nifer o ddynion a hynodasant eu hunain, ac a ennillasant iddynt eu hunain yr hyn a fydd yn "arwydd ac yn enw tragwyddol" iddynt oblegid eu gorchestion, yn y naill gangen neu y llall o gelfyddyd neu wyddoriaeth. Yn mysg y rhai hyn, yr ydym yn cael dau o adeiladwyr pontydd, yn neillduol; sef, Inigo Jones, adeil- adydd pont Hanrwst yn Ngwynedd, yn y Gogledd; a William Edwards, adeiladydd y bont odidog dros y Taf, yn Mhontypridd, yn nghyfoeth Morganwg, yn y Deheubarth. Y mae cyfiawnder wedi ei wneud â'r cyntaf gan haneswyr, efallai; ond yr ydym o'r farn, gan nad faint a gofnodwyd am yr olaf yn barod, nad ydyw wedi cael ei le dyladwy etto yn nghofrestr gorchestion y dynion hyny a ennillasant iddynt eu hunain "radd dda," na'r cyhoeddusrwydd a wir deilyngai ei weithoedd dihafal. Pa fodd bynag, er na amcanwn gyflawni y diffyg hwn ar hyn o bryd, ymdrechwn osod ger bron rai nodiadau ar gampwri gorchestion Mr. William Edwards, neu, os dewiser yn hytrach, Y Parchedig William Edmards, yr Archadeiladydd. Yr ydym yn ddyledus am yr awgrymiadau hyn i Smiles, yn ei " ÌSelf- help"—i Malkin, yn " Scenery, Antiauity, and Biography of South Wales" gydag amryw awdwyr ychwanegol o lai sylẃ, wedi eu casglu oddiyma a thraw. Y mae y disgyniad, ar yr ochr ogleddol o Lantrisant, yn agor golygfa brydferth iawn ar y wlad ger bron llygad y teithiwr. Wrth adael yr agendor yn mha un y saif y dref, y mae agweddiad newydd o ansawdd natur megys yn taro sylw yr edrychydd ar unwaith; ac y mae yr amrywiaeth a ffurfir gan y mynyddoedd, y bryniau, y dyffrynoedd, y coed- ydd, yr hydyfiant, yn gystal a'r afonydd sydd yn lluosog yn y lle, yn swynol iawn. Oddiar y gefnan hon, ceir golygfa tra ardderchog ar Cas- tella—palas perthynol i deulu y Trahaearniaid,—yr hwn, oblegid ei adeil- adau dengar, a ffurfia gyferbyniad effeithiol iawn â golygfa gyntefig ramantus anian yn y lle. Yr oedd y fan hon, fel yr awgryma ei henw, yn fath o encilfa heddychol yn amser y brwydrau trychinebus gynt. Yn ngodre y ddisgynfa hon, y mae y ffordd ar y ddehau yn arwain at yr Efail- isaf, a thros y Taf, at Gastell Caerphili; ond y mae y ffordd tuag at Bont- ypridd* yn cyfeirio yn uniongyrchol dros fryn, yr hwn y mae ei gopa yn uwch na'r un y cyfeiriwyd ato o'r blaen, ac y raae yn dwyn y teithiwr, megys ar unwaith, i gael golygfa ardderchog ar ranau mewnol, amryw- iaethol, swynol, tarawiadol, a chyntefig Morganwg. Y mae neillduedd hynod y ffordd hon yn parhau am tua thair milldir. Nid yw yn hawdd ei theithio gyda cherbyd, heb gryn gryfder o ran march a mèn. Wedi teithio tua milldir o ddisgyniad drachefn, y mae yr olygfa yn newid. Y mae holl brydferthion natur yn uno i swyno teimlad y teithiwr. Y mae cymeriad y Taf a'r Rhonddafawr yn uno i ymreiadru dros eu gwelyau creigiog; ac y • Dywedai Caledfryn wrthym ttul tadogaeth yr enw hwn yw " rantytypiidd," ac mai byrhad ydyw " Pontypridd." Mehefin, 1863. 2 c