Skip to main content

ŵflrfjjnùatt. MB. R.OBERT JONES, SIOP, LLANDEGLA. Mae cofnodi rhinweddan cyfeillion ymad- awodig, ac olrhain Uinellau cymeriad dyn da, yn tueddu nid yn unig i ddylanwadn yn dda ar y byw a adewir, ond hefyd yn talu gwarogaeth o barch i grefydd y Bibl, ac yn gwneud coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig i oesau dyiodol. Ganwyd gwrthddrych y cofiant hwn mewn lle a elwir Ty Brith, yn mhlwyf Llanarmon yn Iâl, swydd Dinbych. Yr oedd Robert yn un o bump o blant i John a Mary Jones, pedwar o ba rai oeddynt yn bur adnabyddus i ddosbarth lluosog o gyf- eillion, sef John Jones, Ysw., R. N., Liv- erpool; Mrs. Catherine Jones, priod Mr. EdwardJones, Fostmaster, Ruthin; a Mr. W. Jones, Siop, Brymbo. Bu Mrs. Jones, Ruthin, farw yn y flwyddyn 1846. Yr oedd ei chymeriad crefyddol o'r stamp nchaf, a diau yr erys ei henw am dymmor maith fel perarogl yn nghoffadwriaeth cylch eang ei chydnabod. Yr oedd Mr. William Jones hefyd yn adnabyddus iawn, yn enwedig i weinidogion a phregethwyr, i'r rhaî yr hoffai ddangos caredigrwy dd a Uetygarwch. Bu yntau farw yn y mwynhad o gysuron crefydd, yn mis Gorphenaf, 1861. (Gwel DrsoBDTDD am Medi). Yr ydym dan anfantais i ddweyd ond ychydig am Robert Jones yn y rhan foreuol o'i oes. Ymunodd â chrefydd yn Nhreffynnon, dan weinidog- aeth y Farch. D. Jones, pan oddeutu 24 mlwydd oed. Yr oedd yn arferiad y pryd hyny i gadw pob ymgeisydd am aelodaeth eglwysiglawn 12 mis ar brawf cyn eu der- byn. Wedi treulio yn agos 12 mis yno, ymadawodd i Lynlleifiad, Ue y treuliodd 12 mis arall ar brawf, heb gael ei dderbyn; a dywedai yn ei ddull naturiol ei hun ei fod "wedi myned i feddwl na chawsai ei dder- byn byth, ond treulio ei oes mewn sefyUfa o brawf." Oddeutu y flwyddyn 1816, unwyd ef mewn priodas â Sina Blackwell, Rhosesmor, yr hon oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr Maweth, 1S63. yn Rhesycae. Yn 1817, adeiladwyd capel Penystryd, Llandegla. Gan mai Joiner a Cabinet Maker oedd R. J. wrth ei alwedig- aeth, cymerodd y gorchwyl perthynol i saernîaeth yr adeilad, yr hyn a fu yn ach- lysur iddynt ddyfod i ymsefydlu yn yr ardal, heb un bwriad i aros ond am dym- mor byr. Fa fodd bynag, yr oedd gan y Llywydd mawr feddyliau eraill, trwy ddarparu yn Robert a Sina Jones rai i noddi a maethu yr achos yn ei wendid am dymmor maith. Bu eu tý yn dderbynfa gyffredin ac yn Ue o ymgeledd i weinidog - ion y gair, o'r De a'r Gogledd, tra buont yn alluog i weini i'w cysur gan nerth ac iechyd. Oddeutu 1850, dechreuodd ei briod fyned o radd i radd yn ddiallu, dan ddylanwad clefyd y cymalau, yr hyn o'r diwedd a'i cwbl analluogodd i ymlwybro i foddion gras, am yspaid o ddwy flynedd cyn ei marwolaetb, yr hwn amgylchiad a gymerodd leyn mis Tachwedd, 1860, wedi bod yn briod am 44 mlynedd, ac yn aelod crefyddol am 50 mlynedd. Priodol galw y chwaer hon yn " fam yn Israel." Yr oedd yn un a ragorai yn fawr ar y cyffredin yn ei gwybodaeth ysgrythyrol, a chydnabydd- iaeth eang â'r Bibl ac athrawiaethau crefydd. Y Bibl oedd ei phrif lyfr, ac yn nesaf ato Esboniad Henry, yn enwedig ar y rhan hòno o Efengylíoan sydd yn cynnwys ym- ddyddan y Gwaredwr â'i ddysgyblion yn yr oruwchystafell. Effeithiodd ei marwolaeth hi yn ddwfn iawn ar feddwl ei phrìod, a phan yn ym- drechu ei gysuro yn wyneb ei amddifad- rwydd, dywedai, " Y mae blwyddyn yn hen ddigon i fod yma ar ei hol;" ond gwelodd ei Dad nefol yn dda roddi iddo bedwar mis a blwyddyn. Yn ystod y deng mis olaf o'i fywyd dyoddefodd ddirfawr wendid a phoen, a bu am rai mieoedd wedi ei gaeth- iwo i'w wely. Yn ei gystudd, cafodd ei gyfeiUion crefyddol lawer o hyfrydwch oddiwrth ei ymddyddanion, ac ansawdd ei