Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HÜGH WILLIAMS, COEDYPARC, BETHESDA. " Coffadweiaeth y cyfiawn sydd fendi- gedig, ond enw y drygionus a bydra. Y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth." Pan fydd ef wedi ymgymysgu â llwch ei orweddfa, bydd ei enw yn anwyl gan y rhai a ddarllenant ei hanes, a'i goffadwriaeth yn gwasgar perarogl trwy ei fro enedigol. Peth naturiol a rhesymol ydyw teimlo trist- wch ar ol marwolaeth un oedd anwyl iawn genym. Teimlai ac wylai y Gwaredwr bendigedig ar ol ei gyfaill Lazarus, yr hwn oedd hoff iawn ganddo. Felly ninnau wrth deimlo hiraeth dwys ar ol ein hanwyl frawd Hugh Williams, melus genym gofio ei fod wedi huno yn yr Iesu, ac y dwg Duw ef hefyd yn y diwedd gydag ef. Mewn bwthyn bychan, a elwir Ceunant, yr hwn sydd yn ymlechu megys o olwg y byd, rhwng y Fronllwyd a Charnedd fawr Llywelyn, ar waelod Nant Francon, yn agos i Bethesda fawr yn Arfon, y ganwyd Hugh Williams, gwrthddrych hyn o gofiant, yn y flwyddyn 1829. Efe oedd yr ail blentyn i Edward a Margaret Williams. Bu ei r'ieni yn byw yn y Ceunant am tua blwyddyn ar ol ei enedigaeth, pryd y symudasant i Coedyparc, pentref bychan gyferbyn â Bethesda, yr ochr ddeheuol i afon Ogwen. Yr oedd rhagluniaeth wedi gosod ei rîeni mewn sefyllfa gysurus o ran pethau y bywyd hwn, a thrwy hyny cafodd ein brawd fwynhau manteision addysg yn moreu ei oes. Derbyniodd ei addysg foreu- ol yn ysgol wladwriaethol Ty'n Twr, dan ofal Mr. David Lloyd a Thomas Hughes; ac wedi iddo dreulio rhai blycyddoedd yn yr ysgol hon, symudodd i Fangor at un o'r enw Mr. Parry, a bu yn hon am tu'a blwydd- yn. Yr oedd erbyn hyn wedi yfed yn hel- aeth o ffynnonau dysg, ac wedi meistroli yr iaith Saesoneg, a chyrhaedd gwybodaeth eang mewn rhifyddiaeth a daearyddiaeth. Ond er iddo gael ei gaethiwo megys dan iau yr ysgolion dyddiol, ni esgeulusodd ddar- llen a chwilio yr y sgrythyrau. Ei hoff lyfr Chwefeob, 1863. oedd y Bibl, a thrysorodd lawer o hono yn ei gof, a byddai yn boff iawn o adrodd rhanau o hono yn gyboeddus yn yr Ysgol Sabbathol, a moddion eraill perthynol i âŷ yr Arglwyddj a phriodol yw dweyd am dano "iddoer yn facbgen wybod yr ys- grythyr lan," a thrwyddi gael ei wneud yn ddoeth i iachawdwriaeth. Cafodd y Bibl a'i egwyddorion y lle blaonaf yn ei feddwl, a'r ymchwiliad man- ylaf ganddo, a phrofodd ei hun bob amser yn ymresymwr medrus, ac yn gadarn yn yr ysg'rythyrau. Crybwyllai un o gyfeill- ion boreu ei oes wrthym am y pleser a fwynhaodd ef a'i gydieuenctyd lawer gwaith wrth wrando ar Hugh Williams yn adrodd yn gyhoeddus hanes brenhinoedd, a rhyfeloedd, a phrif ddygwyddiadau yr Hen Destament, mewn dull mor eglur nes y tybient fod y cyfan yn cymeryd lle yn weithredol ger eu bron; a dyma un hynod- rwydd arbenig oedd yn pertbyn iddo. Bellach ni a adawn dymmor a dyddiau ci ieuenctyd, gan symud yn mlaen at gyf- nod arall ar ei oes. Pan oedd yn unar- bymtheg oed, rhwymwyd ef yn egwyddor- was mewn masnachdy Draper and Grocer, yn Mangor; ac wedi gwasanaethu ei amser yn ffyddlon yno, symudodd i Coedyparc, a dechreuodd fasnachu yno yn mysg ei gyfeillion a'i berthynasau. Ond yn fuan, o herwydd rbyw resymau boddhaol íddo ef ei hun, rhoddodd ei fasnach heibio, acaeth i weithio i'r chwarel, hyd nes yr ymfudodd i'r America. Yr oedd efe wedi ei ddwyn i fyny gan ei rîeni gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ond ni bu efe erioed yn aelod cyflawn o'r cyfundeb parchus hwnw. Yn fuan'wedi iddo fyned i weithio i'r chwarel, ymunodd â'r Eglwys Annibynol yn Beth- esda, a pharbaodd yn aelod ffyddlon, selog, a gweithgar, yn mysg yr Annibynwyr hyd ddydd ei farwolaeth. Mewn perthynas i'w gymeriad fel dyn, a Christion cywir ac egwyddorol tra y bu yn aelod yn Bethesda,