Skip to main content

Y DYSGEDYDD. ŵwtjjràaît. Y PARCH. D. W. JONES, TEEFPyNürON. Wedi dyfodiad Mr. Jones i'r Neuadd y tro hwn, ymroddodd i'w efrydiaeth â'i holl egni fel o'r blaen. Yr oedd efe bellach mewn oedran i ddeall y pwys o fod defnydd iawn o'i amser a'i gyfleusderau i gael ei wneud, ac i deimlo annogaethau cydwybod i hyn yma, er mwyn ei fam oedd yn ei gynnal ef yno, yn gystal a'i ddefnyddioldeb ei hun mewn amser dyfodol. Dan yr ystyriaethau hyn ni byddai byth yn cyfarfod â'i athraw a'i lith yn anmharod, nac yn cael ei daflu i ddyryswch pan fyddai yr hen Ddoctor yn newid trefn y dosbarth o adrodd ei wersi, er mwyn dal y diofal a'r ysmala na fyddai yn dysgu ond yr hyn a ddygwyddai i'w rhan, a'u toi â chywilydd a gwarth; yr hyn a fyddai yn fynych yn cymeryd lle, er dygn brofedigaeth i'r esgeulus, a lles a difyrwch yr holl ysgoL Ond ni phrofodd y ddichell hon o eiddo yr athraw iddo ef erioed yn fagl, nac yn llcw ar ei ffordd. Nid dianc gan ei athraw oedd ei nôd, ond dianc gan ei gydwybod ei hnn, a chael meddwl gwr~ teitbiedig i droi allan yn gymhwys i un- rhyw gylch y gwelai Bhagluniaeth yn dda ei osod. Canys nid oedd efe etto wedi gwneuthur ei feddwl i fyny i fyned i'r weinidogaeth. Ond heblaw nerth cydwybod, yr oedd ganddo nerth deall a chof, fel nad oedd yn anghyfartal i nn o'i gydfyfyrwyr mewn pob peth a berthynai i'r ieithoedd clasurol. Ac yr oedd yn mhlith ei gydfyfyrwyr ar y pryd ddynion nad oedd yn ol am eu hathrylith i neb yn y wlad, pe na buasai genym i'w henwi ond Proffeswr GrifSths o Le'rpwl, a'r Parch. James Kilsby Jones. Yr oedd ei allu i gyfyngn ei hun at ei efrydiaeth, a gwrthsefyll pob temtasiwn ocdd yn codi IONAWR, 1863. o hono ei hun i ymollwng i ddifaterwcb, neu i fyned ar ol difyrwch y maes, yn mhell tuhwnt i'r cyffredin, ac yn gwneud iawn i raddau am ei ddiffyg o orawydd i fod yn gyhoeddus, a rhagori ar eraill fyddai yn cyd-ddysgu ag ef. Ond er hyn i gyd, bu y diffyg hwn o orawydd yn dramgwydd iddo dros ei holl fywyd, a chadwodd ef yn or- modol o'r golwg yn y pulpud a'r wasg, pryd y gallasai drwyddynt ymddangos er parch ac anrhydedd iddo ei hun, a Hes crefydd a llenyddiaeth yn gyffredinol. Ond byth ni cheid ef yn mhen y Heoedd uchel, gerllaw y ffordd, nac yn mhen y dref, yn ymyl y drysau, ond yn rhywle o'r golwg wedi ymgolli yn y dyrfa, heb un awydd ynddo i fod yn wrthddrych tuag at yr hwn y bydd trem llygaid y lluaws yn cyd-droi. Ni allasai byth ymgymeryd â bod yn flaenor i unrhyw fyddin ar y maes, nac i nnrhyw blaid yn y Senedd, nac i unrhyw ysgogiad yn y wlad, ac a fuasai yn tynu sylw y cyhoedd, oddieithr ei wasgu i'r bwlch gan amgylchiadau, a bod pwnc o egwyddor yn gynnwysedig yn y mater. Buasai diffyg hunanhyder ar unwaith yn ei darfu, gan ei wneuthur yn hollol egwan yn y fan. Fel yr awgrymasom, nid oedd efe etto wedi ymgymeryd â'r gwaith o bregethu. Ond yr oedd rhyw íeddwl gan y gweinidog a'r eglwys yn Horeb y gwnaethai bregethwr, er y dydd y derbyniwyd ef i gyflawn aelod- aeth. Yr oedd symlrwydd ei fywyd, ei awydd am wybodaeth, a'i gysondeb yn mhob moddion o ras, wedi rhoddi yr argraff hòno ar eu meddyliau yn annibynol ar en gilydd. Ond ni soniasant ddim am y peth ar y pryd wrtho ef ei hnn, nac wrth y naill