Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—932. MEHEFIN, 1900. Cyf. Newydd.— 339. " Y DYDD A'I DENGYS. " GAN Y PARCH. D. GRIFFITH, BETHEL. N y drydedd benod o'r Epistol cyntaf at y Corinthiaid, sylwa yr Apostol, mai efe drwy y gras a roddwyd iddo, a fu yno yn gosod y sylfaen, a bod arall yn goruwchadeiladu. Yr oedd y sylfaen yn ardderchog,—unig sylfaen gobaith byd euog ydyw. " Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw yr un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist." Ar y fath sylfaen a hon, dylai yr oruwchadeiladaeth fod yn gyfatebol. " Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwchadeiladu." Gellir adeiladu yn ddoeth a chadarn, neu ynte yn annoeth ac ofer. " Eithr os goruwchadeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr," hyny yw, athrawiaethau a gweithredoedd da; neu ynte " coed, gwair, sofl," hyny yw, athrawiaethau cyfeiliornus, ac ymddygiadau anghyson â'r Efengyl; y mae yn bwysig edrych at hyn, oblegyd y mae dydd barn i fod,—dydd profi gweithredoedd proffeswyr crefydd, megys eraill. I: Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg; canys y dydd a i dengys, oblegyd trwy dân y datguddir ef; a'r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw." Y mae yn natur tân i ddifa rhyw fath o ddefnyddiau, ac i fyned heibio i eraill heb beri niwed iddynt. Felly y bydd i gyfiawn farn Duw yn y diwedd effeithio gwahaniaeth amlwg gyda golwg ar y gwych a'r gwael yn ymddygiadau arddelwyr crefydd Crist. Am hyny, fe ychwanega yr Apostol, " Os gwaith neb a e/ys, yr hwn a oruwchadeiladodd ef, efe a dderbyn wobr. Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled; eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto, felly, megys trwy dân." Meddylir fod yr Apostol yma yn cyfeirio at amgylchiad y gwyddai y Corinthiaid yn dda am dano, sef llosgiad eu dinas hwy g-an fyddin Rufeinig, ryw gymaint o amser yn ol, pryd y dinystriwyd yn llwyr yr adeiladau o "goed, gwair, sofl," tra yr oedd y temlau a'r palasau marmor oeddynt addurnedig âg arian ac aur, yn aros fel o'r blaen. Pa fodd bynag am hyn, eglur yw, nad oes gwobr i fod yn y diwedd, ond i'r neb a fo yn gweithio yn ol y rheol Ddwyfol. Am eraill a fo yn gweithio oddiar egwyddorion gau, ac yn ol mympwy ffol, hwy a ^ânt golled. Yr oedd gorrnod o hyn i'w weled yn Corinth, fel y dangosir yn nechreu y benod, " Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?" A beth oedd hyn, ond