Skip to main content

Y DYSGEDYDÜ, PERSONOLIAETH DDYNOL A'R YM- GNAWDOLIAD. Ysgrif 111. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A., LIVERPOOL. MAE daioni moesol fel y bodola yn hanes dyn yn gofyn am gymdeithas fel ei amod anhebgor. Y mae y syniad o unigedd diberthynas a'r syniad o foesoldeb yn wrthddywed- iadol {contradictory). Y mae moesoldeb yn sylfaenedig ar berthynas. Mae perthynas organaidd ysbryd dyn â'i gorff, yn arosod arno y ddyledswydd o lywodraethu y teimladau corftorol a'u gwneud yn is-wasanaethgar i'r bywyd meddyliol a moesol ynddo. Mae perth- ynas rhieni â phlant yn rhoi bodolaeth i'r ddyledswydd o ofalu a llywodraethu ar ran y rhieni, ac o ufuddhau a pharchu ar ran y plant. Mae perthynas dynion â'u gilydd fel bodau cyfrifol, er yn aelodau o gymdeithas, yn achosi y ddyledswydd o ymddwyn at ein cyd-ddynion fel amcanion terfynol, ac nid fel cyfryngau i sicrhau ein daioni tybiedig ni ein hunain. Mae telerau ein daioni personol ein hunain yn gofyn am i ni barchu hawliau personoliaeth pob cyd-ddyn. Ond a chaniatau, fel y rhaid i ni wneud, fod cymdeithas yn amod daioni moesol dynol; fod yn anmhosibl i'r meudwy neu'r mynach feddu ar y rhywogaeth uwchaf o ddaioni moesol, paham, meddir, nad yw yn ddigon i ni ddal fod perthynas weithgar Duw â'r cread a dyn yn ddigonol fel amodau cymdeithasol moesoldeb ar ran Duw? Paham na chawn ganiatad, meddir, i alw y cread yn Fab Duw, a dyn yn ysbryd â pha un y gall Duw gymdeithasu? Yr ydym drwy hyn, meddir, yn gwneud i ffwrdd âg unigoliaeth wrthfoesol y syniad Iuddewigam Dduw, a chedwir ni rhag syrthio i drobwll Tridduwiaeth [Tritheism) duwinyddiaeth. Cydnabyddir nerth rhai o'r gwrthddadleuon hyn. Cyflwynant i ni anhawsderau diamheuol, ac nid hawdd yw rhoddi atebion boddhaol iddynt. Fodd bynag, caniataer i ni wneud ymgais onest i gyfarfod yn deg a diragfarn rai o'r gwrthddadleuon uchod Credir gan lawer fod athrawiaeth y drychfeddyliau o eiddo Plato yn rhoddi i ni help syl- weddol i ddadrys yr anhawsder. Y mae yn wybyddus fod Plato yn dysgu fod drychfeddwl pob ffurf ar fywyd yn y cread—yn llysieuol, anifeilaidd, a dynol—yn bodoli yn gyflawn apherftaith cyn eu dadblyg- iad anghyflawn ac anmherffaith ar ein daear ni. Y mae Duw, fel y