Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDl). PERSONOLIAETH DDYNOL A'R YMGNAWD. OLIAD. GAN Y PARCH. D. ADAMS, B.A., LERPWL. Í(A metaphysic whîch is not capable of furnishing an explanation of religwn contradicts ttself."—Ed. Caird. ACHGEN," medd llyfr y Diarebion, "a adwaenir wrth ei waith." Gyda ch.wirdeb gellid newid ychydig ar yr adnod hon, a'i darllen fel y canlyn:—"Duw a adwaenir wrth ei waith." Y gwaith y mae Duw wedi ac yn wneud yw ffynonell fawr ein gwybodaeth am ei gymeriad. Pan yn cyfeirio fel hyn at waith Duw golygwn y cyfanfyd trefnus yn faterol, yn llysieuol, yn anifeiiaidd a dynol. Pan yn cyfeirio at y natur ddynol eto golygwn i'r term gymeryd i fewn hanes dyn yn nglŷn â gwareiddiad, llenyddiaeth, a chrefydd. Uwchlaw yr oll cymer i fewn fywyd a dysgeidiaeth "Mab y dyn," yr Arglwydd lesu. Ymwybyddiaeth y person hanesyddol Iesu o Nazareth yw ein hawdurdod uchaf i benderfynu y gwirionedd o barthed i wir gymeriad Duw. Wrth gwrs cymerwn yn ganiataol fod y cyfanfyd un ai wedi ei ddwyn i fod gan Dduw ac yn cael ei gynal ganddo; neu ynte, os myner, fod y cyfanfyd yn ffurf ar weithgarwch Duw sydd yn breswyl- iedig ynddo, ac yn achosydd uniongyrchol pob nerth anianyddol a weithreda ynddo. I amcanion Prawf, hyny yw, fel amlygiadau o Dduw neu fel cy- fryngau gwybodaeth am gymeriad Duw, nid yw o gymaint pwys pa un a ddaliwn y gred yn yr hyn a elwir yn greadigaeth mater neu yn ei dragwyddol fodolaeth. Pwysleisir y gred yn nghreadigaeth mater fel gwrthdystiad yn erbyn y dyb gyfeiliornus fod mater yn bodoli yn annibynol ar Dduw. Pa mor hen bynag, neu pa mor ieuanc bynag y gall mater fod, yr hyn sydd bwysig yw dal nad ydyw, ac na fu erioed yn bodoli ond fel cyfrwng i Dduw weithredu ynddo a thrwyddo. Nid oes iddo ystyr ond fel corff am deimladau a syniadau Duw. Maebod- olaeth mater yn anesboniadwy ond fel y mae yn iswasanaethgar i ysbryd, neu yn gyfrwng i roddi ffurf weledig ac allanol i weithgarwch ysbryd anweledig Duw neu ysbryd anweledig dyn. Nid yw hyn, dealler, yn golygu dibrisio na bychanu pwysigrwydd y Beibl fel yn cynwys y Datguddiad cywiraf a llawnaf o Dduw a