Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEÜYDD. Hkn Gyf.-925 TACHWEDD, 1899. Cvf. Newydd—332 "PA BRYD BELLACH?" GAN Y DIWEDDAR BARCH. W. AMBROSE, PORTMADOC. "A ymlanhei di? Pa bryd bellach?" Jer. xiii. 27. ;R OEDD Israei mewn cyflwr drwg. Yr oedd wedi ym- galedu mewn pechod—wedi ymgynefino mewn drygioni, "A newidia yr Ethopiad ei groen, neu y llewpard ei frychni? felly chwithau a ellwch wneuthur da, y rhai a gynefinwyd â gwneuthur drwg." Yr ydym yma yn cyfarfod â diareb, ac mewn diareb bob amser, defnyddir yr hyn sydd anmhos- ibl naturiol i osod allan yr hyn sydd anhebyg íoesol. Er gwaethed oeddynt, wele Duwcyn taro, yn eu galw i edifeirwch adychweliad. Y mae yn gâs gan Dduw gospi. Y mae yma ddau gwestiwn pwysig ger ein bron; safwn enyd arnynt, er gosod allan gyflwr yrannychweledig, a'r afresymoldeb o aros yn y fath gyflwr yn hwy. I. "A YMLANHEI DI?" Yr wyt yn aflan yr wyt yn cyfaddef hyny,—y mae rhwymedigaeth arnat i ymlanhau,—yr wyt weithiau yn addunedu, yn ymrwymo, ac yn aml yn ieimlo awydd i ymlanhau. Os na ymlanhei yn fuan, byddi yn rhy aflan i Dduw dy ddyoddef tu yma i uffern. I osod allan gyflwr pechadnr rhaid i ni gael cydmariaeth mewn jhywbeth annaturiol, oblegyd, peth annaturiol yw gwaith dyn yn gwrthod iechydwriaeth. Tybiwn am ddyn sal,—y mae yn gwybod ei fod felly. Y mae meddyg anffaeledig gerllaw, y maey claf yn teimlo mai ei ddylcdswydd yw myned at y meddyg hwnw. Y mae yn addaw, yn addunedu myned ato. Yn teimìo awydd am fod yn gwbl iach, ond yn gwrthod myned. Y mae rhyw ddydd yn gyru am y meddyg gyda brys. Erbyn i hwnw ddyfod y maeynysgwyd ei ben, ac yn dweyd, "Pe buasai y truan wedi galw arnaf ondych- ydig yn gynt mi a allaswn ei wellhau, ond y mae yn rhy ddiweddar yn awr." Felly yn gymhwys y mae y pechadur. Diosgwn y meddwl o bob cydmariaeth wrth gyfeirio y gofyniad at annychwel- edigion y gynulleidfa, "A ymlanhei di?" i. Y mae y cyflwr yn ddtwg. Nid peryglus yn unig, ond drwg. Y mae y dyn yn y mast, wedi i'r llong daro yn erbyn y graig, a'r dyn dan y crogbren mewn perygl, y naill fel y Ualì, ond yr ydym yn edrycn ar un yn anlwcus, ac ar y llalì yn ddrwg. Nid anlwcus 1F