Skip to main content

Y DYSGEDYDD. Hkn Gyf.— 924. HYDREF, 1899. Cys\ Newydd—331. ADGOFION MABOED AM Y PARCH. EDWARD STEPHEN, DWYGYFYLCHI. Pennod I. GAN Y PARCH. H. IVOR JONES, CAER. R mwyn y tô ieuengaf o ddarllenwyr y Dysgedydd, dichon mai nid anfuddiol fyddai mynegu, mai yr un gwr ydoedd yr un y mae ei enw uchod, a'r un a adwaenid am lawer o flynyddau diweddaf ei oes wrth yr enw Eisteddfodol "Tanymarian." Gan nad beth am enwogrwydd y "Gwr Mawr o Danymarian," sicr ydyw, mai tra yr adwaenid ef wrth yr enw syml "Stephen, Dwygyfylchi," y gosodwyd i lawr sylfaen gadarn ei fawredd a'i enwogrwydd dyfodol. Hvd ei arosiad yn Nwygyfylchi ydoedd, naw mlynedd a haner. Y mae sylwedydd craff wedi dweyd onid oes:—"Fod tynged pob dyn cyhoeddus fel rheol yn dibynu ar pa beth a wna efe yn y deng mlynedd cyntaí o'r bywyd hwnw." Ystyr hyny ydyw, os methiant fydd efe yn ystod y blynyddau hyny, yna, nid oes ond ychydig i'w ddysgwyl oddiwrtho byth; tra o'r tu arall, os llwydda efe yn y blynyddau hyny, y gellir dysgwyl pethau mawrion yn ol llaw yn ei hanes. Am Edward Stephen, yn ddi- betrus gelîir mynegu, ddarfod iddo yn ystod tymor ei weinidog- aeth yn Horeb, Dwygyfylchi, gyflawni gwaith ardderchog, fel Pregethwr, Bugail, Bardd, Cerddor, aLlenor. Fel Bugail, ymwelai gyda chysondeb â theuluoedd yr eglwys a'r gynulleidìa. Meddai ar ei reol fanwl gyda hyn. Caffai y cíaf a'r helbulus ei sylw caredig iawn, ac edrychid ar ei ymweliadau â'r tai, fel ymweliadau o eiddo angel Duw. Os nad wyf yn camgymeryd, ychydig o ddirywiad fu yn ei hanes yn nglŷn âg 'ymweled,' wedi iddo adael Dwygyfylchi. Fel Pregethwr, yr oedd yn ystod y cyfnod hwn ar ei fywyd gweinidogaethol yn boblogaidd iawn. Mynych a mynych, y gelwid am ei wasanaeth i gyfarfodydd preg- ethu; ac ni angnofiwyd ychwaith yn ystod y tymor yma ar ei fywyd, ei wahodd i bregethu mewn rhai Cymanfaoedd; ac yn wastad byddai ei weinidogaeth er daioni i'r gwrandawyr. Syniad cynull- eidfa 'Horeb' am dano ydoedd, mai efe oedd pregethwr goreu y gwledydd. Pan ddechreuodd efe ei weinidogaeth yno, cynhelid yr çedfaon yno y prydnawn a'r hwyr, ond cyn hir newidiwyd o'r ÌC