Skip to main content

Y DYSGEÖYDD. RHAGORIAETH DUW FEL MADDEUWR. GAN Y PARCH. OWEN EVANS, D.D. Micah vii. 18, 19. MAE y proffwyd, yn y geiriau gwerthfawr a gogoneddus hyn, yn tori allan i glodfori Duw am ei drugaredd faddeuol; a hyny yn ngwyneb yr amlygiad a roddid o'r drugaredd hono mewn addewid rasol am waredigaeth i'r Iuddewon o gaethiwed Babilon: pen. iv. 10. Mae yr Arglwydd yn addaw eu gwaredu o gaethiwed Babilon fel yr ydoedd wedi eu gwaredu gynt o gaethiwed yr Aiíft: adn. 15. Yn ngwyneb hyn, y mae y proffwyd sanctaidd yn gofyn mewn syndod addoliadol a gorfoleddus, " Pa Dduno sydd fel tydi, yn maddeu anwiredd, ac yn myned heibio i anwir- eddgweddill eì etifeddiaeth? " Yr oedd caethgludiad yr Iuddewon i Babilon yn brawf amlwg fod yr Arglwydd wedi digio yn gyfiawn wrthynt am eu pechodau; ond fe fyddai eu gwaredigaeth o'r caethiwed yn arwydd, o'r tu arall, ei fod yn maddeu eu hanwiredd, "ac yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth." Wrth "weddill ei etifedd- iaeth," y golygir—y gweddill o'i bobl a fyddent yn aros heb eu dinystrio gan gleddyf eu gelynion, yr un modd ag y geilw Jeremiah, eu tadau, y rhai a ddaethent allan o gaethiwed a gorthrwm yr Aiftt, yn "bobl y rhai a weddilliwyd gan y cleddyf:" Jer. xxxi. 2. Mae "myned heibio i anwiredd gweddill 'ei etifeddiaeth," yn arwyddo fod yr Arglwydd yn peidio sefyll uwch ben eu hanwiredd i graffu arno a'i gosbi, eithr yn lle hyny, ei fod yn myned heibio heb ddial arnynt yn ol eu haeddiant am eu hanwiredd, rywbeth yn debyg fel yr oedd yr angel dinystriol, yn yr Aifft gynt, yn myned heibio i'r tai oeddynt dan ar- wydd y gwaed, heb droi i mewn i ladd y cyntaf-anedig: Exod. xii. 12, 13. "Efg a ddychwel, efe a drugarha wrthym." Fel pe dywed- asent, Er fod yr Arglwydd wedi ymbellhâu oddiwrthym oherwydd ein pechodau, gan ein gadael yn nwylaw ein gelynion, i gael ein gorch- fygu a'n caethgludo ganddynt, eto, efe a ddychwel atom drachefn yn ei heddwch a'i ffafr, yn debyg fel y mae yr haul yn dychwel yn y bore, gyda'i belydrau siriol, ar ol noson dywyll dymhestlog; neu, fel y mae yr hâf hyfryd yn dychwel ar ol gauaf oer, llwm, ac ystormus. "Efe a ddarostwng ein hanwireddau" y rhai ydynt yn gormesu ac yn traws- arglwyddiaethu arnom, a'r rhai ydynt yn rhy gryfion i ni i allu eu gorchfygu ac ymryddhâu o'u gafaelion yn ein nerth ein hunain: " Efe a wthia dy elyn o'th flaen, ac a ddywed, Difetha ef:" Deut. xxxiii. 27