Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Y DIWEDDAR BARCHEDIG DAN JONES, FORD, SWYDD BENFRO. GAN Y PARCH. D. LEWIS, A.T.S., RHYL. Ysgrif 77.-Y PREGETHWR A'R GWEINIDOG. *EDI cael ei dderbyn yn aelod o eglwys Iesu Grist yn Ebenezer, Trefdraeth, ymroddodd y gwr ieuanc Dan Jones a'i holl egni i weithio dros ei Arglwydd. Er ieu- enged ydoedd, daeth yn fuan i gael ei gyfrif yn un o'r aelodau mwyaf ffyddlawn, gweithgar, a defnyddiol yn yr eglwys. Ni chafodd ond pur ychydig o addysg ddyddiol pan yn blentyn, a bu raid iddo yn fore ymafael mewn rhyw orchwyl. Pan nad oedd ond ieuanc rhwymwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd o wehydd, i'r hon yr ymroddodd yn egniol, a gwnaeth gynydd da ynddi mewn byr amser, a pharhaodd gyda hi yn ddiwyd am flynyddoedd lawer. Yr oedd yn ddarllenwr mawr yn y tymhor hwnw, a chyda dysgu ac adrodd pynciau yn yr Ysgol Sabbathol, cyfrifid ef y tu hwnt i bawb o'i gyfoedion ieuainc; a phan y profid hwy â chwestiynau celyd, ato ef yr edrychai yr holl ysgol am ymwared. Yr oedd ei ffyddíondeb difwlch gyda'r cyfarfodydd crefyddol, ei weith- garwch diflino gyda'r Ysgol Sabbathol, ei fywyd dichlynaidd a diargyhoedd, a'i gynydd parhaus mewn gwybodaeth a doniau, yn peri i lawer ofyn mewn syndod, " Beth fydd y bachgenyn hwn? " Coleddai yr hen frodyr, oedd y pryd hyny yn Ebenezer, syniadau uchel iawn am dano. Prawf o hyny oedd, iddynt ei neillduo ef, pan nad oedd ef ond llanc, gyda dau eraill hynach nag ef, i ffurfio can^en Ysgol Sabbathol mewn lle o'r enw Blaenmeini, tua dwy filldir o'r dref. Yn mhen amser symudwyd yr ysgol i Bwlchyfed- wen, lle mwy canolog o'r gymydogaeth. Cynyddodd yr ysgol i'r fath raddau, fel yr oedd yn mhen ychydig fisoedd yn rhifo rhwng tri a phedwar ugain o aelodau. Cyn pen y deuddeng mis cyntaf, penodwyd ar Mr. Jones i fod yn brif arolygwr arni, a pharnaodd yntau i lenwi y swydd bwysig hono yn effeithiol a llwyddianus dros amryw flynyddoedd. Nid oedd efe eto ond ieuanc mewn dyddiau; ac y mae y ffaith iddo gael ei neillduo gan y frawdoliaeth yn Ebenezer i'r fath safle uchel yn profi yn eglur mai nid cyffredin oedd o ran ei ffyddlondeb, ei weithgarwch, a'i alluoedd. Yn yr amser hwnw, ffynai yr hen arferiad dda o gynal cyfaríod gweddio mewn