Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. Hen Gyf.—928. GORPHENAF, 1899. Cyf. Newydd—328. Y DIWEDDAR BARCHEDIG DAN JONES, FORD, SWYDD BENFRO. GAN Y PARCH. D. LEWIS, A.T.S., RHYL. TYMHOR IEUENCTYD. |YWED y Beibl, 4< Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig;" " y cyfiawn fydd byth mewn coffadwriaeth." Mae pob dyn gwir dduwiol trwy ei fywyd sanctaidd, hunanymwadol, a defnyddiol, yn cyfoethogi cymdeithas mewn mwy nag un ystyr. Er o bosibl, y bydd iddo dreulio ei holl oes mewn neillduaeth a dystawrwydd, allan o gyrhaedd swn a phrysurdeb a sylw y byd; eto i gyd, nis gall neb ddweyd beth yw nerth ac effaith y dylanwad daionus y mae efe yn ei gario yn y cylchoedd uniongyrchol hyny yr ymdroa ynddynt. Efallai nad oes un dosbarth o bobl yn y byd heddyw ag sydd yn profi o gymaint bendith i gymdeithas yn gyffredinol ag yw gweinidogion yr Éfengyl. Mae y gtoeinidog da fel cariad, "yn hirymaros, yn gymwynasgar, yn dyoddef pob dim, yn gobeithio pob dim, yn ymaros â phob dim." Nid gweddus na gwerth ydyw iddo ef i "genfigenu, nac ymffrostio, nac ymchwyddo, na gwneuthur yn anweddaidd, na cheisioyr eiddo ei hun," ond beunydd i fod yn barod i gynghori mewn doethineb, i geryddu mewn addfwynder, ac i gyfodi i fyny y dwylaw a laesasant, a'r gliniau a ymollyngasant. Nid oes neb a'u gofidiau yn llymach, a'u croesau yn drymach, a'u hanhawsderau yn Uuosocach, ac eto, pwy sydd yn dyoddef y cyfan yn fwy dystaw, amyneddgar, a hunanymwadol? Wrth gwrs, nid ydym heb wybod am ochr oleu y cwmwl —dysglaer, cysurlawn, a gogoneddus Yr ydym yn dywedyd yn hyf nad oes yr un bywyd ar y ddaear, er ei holl anhawsderau, mor lawn o gysuron, gwir dangnefedd, ac o orfoledd, a'r un gweinidogaethol. Pa syniad uwch ac ardderchocach am fywyd sydd yn bosibl na bod y dyn yn gallu dywedyd, " Ymwnaethum i'r rhai gweiniaid megis yn wan, fel yr enillwn y gweiniaid: mi a ym- wnaethum yn bobpeth i bawb, fel y gallwn yn hollol gadw rhai. " Efallai nad oes yr un bywyd yn gofyn mwy o amynedd, dyfalbarhad, ac o hunanaberth, na bywyd gweinidog yn y wlad—mewn cymydog aeth ddiarffordd, neillduedig, a theneu ei phoblogaeth. Hwyrach wedi i'r gweinidog weithio yn galed a diorphwys yno am ddeugain i hajier çan' mlynedd, na fydd nifer yr aelodau sydd ganddo yn ddirn