Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y DYSGEDYDD. YSBRYDOLIAETH Y BEIBL. GAN Y PARCH. OWEN KVANS, D.D., LLUNDAIN. "Ac y mae genym air sicrach y proffwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar ganwyll yn llewyrchu mewn Ue tywyll, hyd oni wawrio y dydd ac oni chodo y seren ddydd yn eich calonau chwi: gan wybod hyn yn gyntaf, nad ous un broffwydoliaeth o'r ysgrythyr o ddehongliad pr'iod. Canys cid trwy ewyllys dyn y daeth gynt broffwydoliaeth; eithr dynion sanctaidd Duw a lefar- asant megis y cynhyrfwyd hwynt gan yr Ysbryd Glân," 2 Pedr i. 19—21. MAE yr apostoî yn yr adnodau blaenorol yn cyfeirio at y profion cedyrn a gawsai efe, a dau eraill o'i gyd-apostolion, o Fessiaeth yr Iesu a Dwyfoldeb ei Berson, ar fynydd y gweddnewidiad, adn. 16—18. Ac yn yr adnodau sydd genym dan sylw, y mae yn cyfeirio at brawf cryfach drachefn o hyny, sef tystiolaeth y proffwydi sanctaidd: " Ac y mae genym air sicrach y proffwydi," meddai —sicrach hyd yn oed na'r llef o'r nef ar fynydd y gweddnewidiad. Ond y mae yn naturiol gofyn, Pa fodd y mae gair y proffwydi yn sicrach na'r llef " oddiwrth y mawr-ragorol Ogoniant, yn dywedyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd? " Y mae felly ar amryw gyfrifon. Yn un peth, am fod y tystion yn fwy lluosog. Tri yn unig o drigolion ein byd ni a gawsant y fraint o glywed y llef o'r nef, ac o fod yn dystion o'r gweddnewidiad. Ond y mae genym yn y proffwydoliaethau dystiolaeth unol nifer lluosog o dystion credadwy, mewn gwahanol oesau, am Grist. Heblaw hyny, yr oedd y dysgyblion wedi cyffroi ac mewn pêr-fwyniant ar fynydd y gweddnewidiad, ac felly fe allai amheuwyr gael rhyw rith o esgus i godi gwrthddadl, ac i geisio haeru nad oedd y disgyblion, gan hyny, mewn agwedd briodol o ran eu meddyliau i ffurfio barn gywir am yr hyn a gymerodd le yno; ac o herwydd hyny, iddynt syrthio i gamgymeriad. Ond fe ellir chwilio Ysgrythyrau y proffwydi sanctaidd yn bwyllog a hamddenol, ac mewn gwaed oer. Ac yn mhellach, fe ddiflanodd y weledigaeth nefol ar fynydd y gweddnewidiad yn ebrwydd, ac felly nid oedd yn bosibl gwneud ail ymchwiliad i'w gwirioaedd, pe buasid yn dymuno hyny. Ond y mae gair yr Arglwydd yn aros yn dragy- wydd, fel y gellir cael cyfleusderau i'w chwilio a'i brofi pryd y myner, ac i ddal y proffwydoliaethau a'r cyflawniad o honynt ar gyfer eu gilydd; ac y maent yn myned yn sicrach i'n golwg ni yn barhaus, fel y mae y naill broffwydoliaeth ar ol y lla.ll yn cael ei chyflawni. Gan fod tystiolaeth Gair Duw fel hyn mor sicr, y mae o'r pwys mw.yaf i ni ddal ar yr hyn a ddywedir ynddoj gan ystyried hyn o flaen